Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Diffygion sylweddol wedi’u canfod yn nhrefniadau rheolaeth ariannol a chadw cofnodion Cyngor Tref Rhydaman a Chyngor Cymuned Llanferres

07 Medi 2023
  • Canfu’r Archwilydd Cyffredinol faterion camreoli a chaffael yng Nghyngor Cymuned Llanferres a Chyngor Tref Rhydaman.

    Mae cynghorau’n gyfrifol am sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda ac yn cyflawni gwerth am arian ac maent hefyd yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol cywir.

    Caiff cynghorau tref a chymuned eu hariannu gan mwyaf trwy drethi cyngor ychwanegol a godir ar drigolion cymunedau unigol. Aelodau’r cynghorau sy’n gyfrifol ac yn atebol am gynnal stiwardiaeth ar yr arian a godir gan gyngor cymuned.

    Fodd bynnag, mae ein hadroddiad yn amlygu methiant Cyngor Tref Rhydaman i gyflawni’r rhwymedigaethau hyn dros gyfnod o bum mlynedd ariannol, gan ddechrau yn 2016-17. Mae’r adroddiad yn nodi na wnaeth y Cyngor baratoi ei gyfrifon blynyddol mewn modd amserol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r esgeulustod hwn yn bryder difrifol, gan ei fod yn dynodi diffyg tryloywder ac atebolrwydd yn arferion ariannol y Cyngor. Mae’n codi cwestiynau ynglŷn â gallu’r Cyngor i reoli arian cyhoeddus a chyflawni ei ddyletswydd tuag at y gymuned mewn modd effeithiol.

    Canfu ein hadroddiad fod Cyngor Cymuned Llanferres wedi methu â dilyn y trefniadau a sefydlwyd ganddo ef ei hun er mwyn sicrhau gwerth am arian. Mae’r canfyddiadau’n datgelu diffygion sylweddol a systemig yn nulliau caffael y cyngor, gan godi pryderon ynghylch tryloywder a thegwch ei arferion. Canfu’r adroddiad y gallai’r Cyngor fod wedi camarwain contractwyr a oedd yn cynnig am waith.

    ,
    Mae’n iawn bod methiannau’r Cynghorau i wneud trefniadau priodol ar gyfer rheolaeth ac adrodd ariannol yn fater o bryder cyhoeddus. Mae’n bwysig bod y ddau gyngor yn dysgu o’r canfyddiadau yn fy adroddiadau ac yn ymdrin â’r diffygion yr wyf wedi’u hadnabod. Mae gan aelodau o Gynghorau gyfrifoldeb tuag at drigolion i sicrhau stiwardiaeth briodol ar arian cyhoeddus a bod y Cyngor yn rhoi cyfrif yn briodol am yr arian a ymddiriedwyd iddynt. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Methiannau mewn rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu – Cyngor Tref Rhydaman

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Llanferres – Trefniadau caffael

    View more