Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Anne-Louise Clark wedi’i phenodi fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid Archwilio Cymru

24 Tachwedd 2020
  • Mae Anne- Louise Clark wedi’i phenodi fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid Archwilio Cymru.

    Bydd Anne-Louise Clark yn gyfrifol am gyflawni rhaglen newid a thrawsnewid digidol Archwilio Cymru ynghyd â sicrhau bod y sefydliad yn cyfathrebu’n effeithiol yn fewnol ac yn allanol i gyflawni uchelgeisiau Archwilio Cymru.

    Mae Anne Louise yn ymuno ag Archwilio Cymru o Gyngor Sir Blaenau Gwent ble mae’n aelod o’u Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol ac yn rheoli portffolio eang o wasanaethau gan gynnwys Cyfathrebu a Marchnata, Profiad Cwsmer, Trawsnewid, Digidol, Adnoddau Dynol, Cefnogaeth Busnes a Chaffael. Mae ei gwaith yn y Cyngor yno i arwain tîm i greu sefydliad sy’n meddwl yn fasnachol ac sy’n aeddfed yn ddigidol.

    Cyn ymuno â Blaenau Gwent, roedd Anne Louise yn Bennaeth Trawsnewid a Newid ym Mwrdeistref Llundain, Bexley.

    ,
    Mae'n bleser gennyf gael ymuno ag Archwilio Cymru ar  yr adeg gyffrous hon. Mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos beth y gall gwasanaethau cyhoeddus ei wneud a'n gallu i fod yn hyblyg, yn greadigol ac ymateb i anghenion sydd drwy’r amser yn newid. Rwy'n edrych ymlaen at hyrwyddo'r gwaith gwych y mae Archwilio Cymru yn ei wneud a’i ddefnyddio i gefnogi trawsnewidiad y sector gyhoeddus.  Rwy'n berson sy’n canolbwyntio'n ddi-baid ar sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion, busnesau a'r rhai sy'n gweithio ar draws y sector. Er fy mod yn cydnabod yr heriau i'r sector, rwyf hefyd yn gweld y cyfleoedd a’r hyn y gall Archwilio Cymru ei wneud wrth lunio'r dyfodol. Anne-Louise Clark
    ,
    Mae hyn yn benodiad gwych i Archwilio Cymru ac rwy'n  edrych ymlaen yn fawr at weld Anne Louise yn ymuno â'r tîm.  Gwn y bydd ei phrofiad helaeth o drawsnewid a chyfathrebu yn y sector cyhoeddus a'i ffocws ar ganlyniadau gwell i bobl yng Nghymru, nid yn unig yn wych i ni fel sefydliad, ond y bydd o fudd ehangach i'r sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda hwy ar yr adeg heriol hon. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Disgwylir i Anne Louise ymgymryd â'i swydd newydd ym mis Chwefror 2021.