Mae pob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus yn ailystyried y ffordd y maent yn ailgynllunio a darparu gwasanaethau mewn ymateb i heriau ariannol a strwythurol a heriau'n ymwneud â chwsmeriaid, polisïau, gallu ac adnoddau. Wrth wneud hynny, mae angen i sefydliadau ystyried effeithiau gweithredol y penderfyniadau a wnânt ar eu gallu i gynllunio a darparu'r hyn sydd ei angen.
Mae systemau rheoli prosesau a gweithrediadau da yn rhoi sylfaen gadarn i sefydliad wneud newidiadau. P'un a ydynt yn wynebu heriau fel:
- gweithredu mentrau polisi newydd
- trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i gwsmeriaid, er enghraifft, drwy sianeli digidol
- newid strwythurau sefydliadol neu fodelau busnes, neu
- ymateb i newidiadau mewn galw cwsmeriaid neu ddatblygu ffyrdd o weithio drwy wella'n barhaus.
Mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sicrhau bod ganddynt y gallu rheoli prosesau a gweithrediadau angenrheidiol i ateb yr heriau hyn.
I bwy oedd y digwyddiad?
Roedd y seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn y meysydd canlynol:
- gweithredu polisi
- newid sianeli
- trawsnewid busnes
- rheoli rhaglenni a phrosiectau
- rheoli galw, a
- rheoli newid.
Cyflwyniadau
- Mae a wnelo rheoli prosesau a gweithrediadau â rhedeg eich busnes [PDF 1.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Alec Steele, Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- Rhannu profiadau o ddiwylliant arwain sy'n canolbwyntio ar welliant [PDF 728KB Agorir mewn ffenest newydd] - John Knowles, Adran Addysg
- Uno sefydliadau: Heriau a chyfleoedd [PDF 2.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Howard Davies, Cyfoeth Naturiol Cymru