Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn newid, mae hynny'n ffaith! Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae'n rhaid sicrhau bod safonau gwasanaethau yn cael eu cynnal.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu o ran rheoli'r cynllun lleihau diffyg ariannol a darparu gwasanaethau allweddol yn y sector cyhoeddus? Mae'r angen i gydbwyso cyllidebau, hwyluso arloesi a newid yn hollbwysig, ac mae'r daith ar fin mynd yn anoddach.
Roedd y weminar yn cynnig dulliau ac arferion da ymarferol, strategol a gweithredol sydd wedi'u mabwysiadu mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.
Roedd y panel yn cynnwys:
- Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru;
- Guy Clifton, Pennaeth Cynghori Llywodraeth Leol, Grant Thornton;
- Mark Owen, Pennaeth Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam/Cymdeithas Trysoryddion Cymru
- Y Cynghorydd Ben Curran, Cyngor Sheffield
Roedd y weminar yn canolbwyntio ar adnabod sut y gellir symleiddio rheolaeth strategol a gweithredol ar wasanaethau cyhoeddus i reoli'r cynllun lleihau diffyg arfaethedig a darparu gwasanaethau allweddol o safon. Yma fe allwch chi wrando ar y trafodaethau hyn o'r weminar [Agorir mewn ffenest newydd].
At bwy oedd y digwyddiad wedi ei anelu
Roedd y weminar wedi'i hanelu at aelodau a swyddogion y Sector Cyhoeddus gan gynnwys:
- Aelodau'r Cabinet y mae cyllideb a chynllunio yn rhan o'u portffolio
- Prif Weithredwr
- Swyddogion Adran 151
- Cyfarwyddwr Corfforaethol
- Penaethiaid Gwasanaethau Strategol
- Penaethiaid Gwasanaethau Gweithredol
- Rheolwyr gwasanaeth/gweithredol ar gyfer cyflawni gwaith gweithredol mawr
- Aelodau Byrddau
- Deiliaid cyllidebau
Cyflwyniadau
Cyflwyniad Guy Clifton ar 'Wynebu Heriau Ariannol' [PDF 3.9MB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyfryngau cymdeithasol
- Storify [Agorir mewn ffenest newydd]
- Vimeo [Agorir mewn ffenest newydd] (recordiad llawn o'r weminar)
- Audioboom [Agorir mewn ffenest newydd] (clipiau sain o'r weminar)
- Pinterest [Agorir mewn ffenest newydd]