Sgyrsiau Trawsiwerydd - Odlau Digartrefedd

Ymunwch â ni ar 7 Mawrth 2024 am sgwrs ar draws yr Iwerydd, ar y pethau sy'n debyg ac yn wahanol yn y ffordd mae Cymru a Nova Scotia yn ymdrin â digartrefedd, sydd yn broblem dros y byd.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

I gofrestru, dilynwch y ddolen yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUuf-2trT8qHNbvQBmXFvzNACeaVUraaarR 

Mawrth 7 2024 - 14:00-15:30 (10:00 - 12:30 yn Nova Scotia)

Digartrefedd

'Rydym yn meddwl fod digartrefedd yn broblem leol, ond mewn gwirionedd mae'n broblem fyd-eang.

Mae dinasoedd y byd yn gorfod wynebu’r bwlch sydd rhwng y gost o fyw a gweithio mewn dinas, a’r hyn all y ddinas ei gynnig yn ôl.

Mae’r bwlch yma yn tyfu, ac o ganlyniad mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ddigartref yn y ddinas heddiw.

Mae gan y bobl yma hawl i fod yn y ddinas i weithio, ac eto nid yw’n fforddiadwy iddynt fyw yn yr un ddinas.

Nid yw dgartrefedd na thai yn broblemau Newydd, ond maent yn dod yn ô li flaen y darlun yn rheolaidd wrth i’n cymunedau geisio ymdopi gyda’r grymoedd marchnad sy’n llunio’r byd modern.

Ymunch â ni ar 7/3/24 i gael procio'r meddwl. Mae yno gymaint i’w drafod megis:

  • Mudo posib yn dilyn newid hinsawdd
  • Ydi sefydliadau addysg bellach yn rhan o’r broblem?
  • Cyfrifoldeb pwy?
  • Ydi bylchau cyfoeth yn dylanwadu ar hyn?
  • Sut mae’n effeithio ar wasanaethau eraill? Yr Heddlu, Ambiwlans ayyb.
  • Ydi o’n pegynnu ein cymunedau?

Ma diddordeb gennym ddysgu beth sy’n bwysig i chi.

Sgwrsio

Mae sgwrsio yn chwarae rhan alweddol mewn byd sydd wedi ei gysylltu'n agosach nag erioed. Mae'n ein helpu i ddeall cyd-destun, gwerthoedd, credoau a diwylliant.

Pan fyddwn yn dod ynghyd, 'rydym yn gwneud mwy na chyfnewid ffeithiau, 'rydym yn ailfeddwl, ail-lunio ac o bosib yn cael mewnwelediad newydd sydd yn trawsffurfio'r ffordd yr ydym yn meddwl am y byd.

Mae sgyrsiau yn cynyddu ein gallu i weithio'n ffordd trwy broblemau cymhlyg, creu cysylltiaudau newydd a chreu ymdeimald o fod yn rhan o rywbeth sydd yn fwy na ni ein hunain.

Mae ein Sgyrsiau Trawsiwerydd yn gwneud hynny. Maent yn ein cadw wedi cysylltu gyda'n gilydd, beth bynnag yw'r testun. Maent yn magu perthynas ac ymddiriedaeth rhwng talaith fach (Nova Scotia) a gwlad fach (Cymru) ac yn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o broblemau anodd a chymhleth sydd yn wynebu ein cymunedau. Gall sgyrsiau ein gwefru a'n hysbrydoli; rhywbeth sydd ei angen arnom oll ar hyn o bryd!

Ymunch â ni er mwyn gwrando, rhannu a thrafod yr hyn sydd yn bwysig. Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cysylltu ag eraill sydd mewn sefydliad neu sector tebyg, ond ar draws y cefnfor. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr ar y pwnc, dim ond dod â’ch chwilfrydedd!

Welwn ni chi yno!

I gofrestru, dilynwch y ddolen yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUuf-2trT8qHNbvQBmXFvzNACeaVUraaarR 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan