Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, y Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru cynnal seminar rhyngweithiol rhad ac am ddim, er mwyn dod ynghyd â'r arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis o ddulliau gwahanol, a'u haddasu er mwyn gweddu i'w anghenion eu hunain, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy â llai.
Gellir gwylio y cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.
Roedd y seminar wedi ei anelu at y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:
- Ymddiriedolwyr
- Aelodau Bwrdd Anweithredol
- Eraill sy'n gyfrifol am lywodraethu
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys dau sesiwn arddangos lawn:
-
Gwersi a Ddysgwyd: Myfyrdodau ar adroddiadau diweddar
Swyddfa Archwilio Cymru, Anthony Barrett a WCVA, Anna Lewis -
Y Diwylliant Grantiau Newydd: Disgwyliadau ar Ymddiriedolwyr
Cyngor Celfyddydau Cymru, Hywel Tudor
A dewis i fynychu dau o'r gweithdai canlynol:
-
Llythrennedd Ariannol
Grŵp Cyllid Elusennol, Helen Saxton a Frank Learner -
Ymddiriedolwyr a Gwneud Penderfyniadau
Comisiwn Elusennau, Tim Reese a Rosie Stokes / Nia Jones a Nia Morgan -
Recriwtio Ymddiriedolwr Amrywiol
WomenCount, Norma Jarboe
Pryd a ble
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2013,0900 - 1300,
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ
Dydd Mercher 22 Ionawr 2014, 0900 - 1300,
Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF