Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dweud bod pobl eisiau i’w data personol weithio iddynt hwy. Maent yn disgwyl i sefydliadau rannu eu data personol pan mae’n angenrheidiol darparu iddynt y gwasanaethau y maent eu heisiau. Maent yn disgwyl i gymdeithas ddefnyddio ei hadnoddau gwybodaeth i atal troseddu a thwyll ac i gadw dinasyddion yn gwbl ddiogel. Fodd bynnag, mae pobl hefyd eisiau cael gwybod sut mae eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio, pwy sy’n cael mynediad ati, a beth mae’n ei olygu iddynt hwy.
Yn anffodus, mae enghreifftiau o achosion uchel eu proffil yn parhau i dynnu sylw at y risg o beidio â rhannu gwybodaeth bersonol berthnasol â gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn gwarchod pobl agored i niwed a darparu gwasanaethau gwell i’r partneriaid hynny sydd angen gwybod.
Yn y cyfnod hwn o gyni, ni ellir parhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd. Gofynnir i wasanaethau gynnig gwell darpariaeth pan mae’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer hynny’n lleihau. Mae sefydliadau wedi cymryd camau cadarnhaol eisoes i wella’r ffordd maent yn rhannu data personol. Fe wnaeth y seminar hon cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i allu rhannu data personol yn well gydag amrywiaeth eang o bartneriaid. Bydd hyn yn gwneud ein dinasyddion a’n cymunedau’n fwy diogel trwy hyrwyddo mwy o gydweithio ac arfer rhannu gwybodaeth dda o fewn y sector cyhoeddus.
Mae rhannu gwybodaeth yn gymhleth. Fe wnaeth Anne Jones, Comisiynydd Gwybodaeth Gynorthwyol Cymru, mynd i'r afael â mythau cyffredin ac yn rhannu egwyddorion i ystyried o gwmpas rhannu data'n effeithiol.
Cynigiodd y seminar hon y canlynol i bawb a ddaw iddi:
- Dealltwriaeth o sut mae sefydliadau’n rhannu data ac yn ei ddefnyddio yn eu gwaith
- Atebion cynaliadwy ar gyfer y sefydliad cyfan o ran sut mae’n rhannu ac yn rheoli data personol yn unol â'r Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)
- Cyfle i chwalu sawl myth sy’n gysylltiedig â rhannu data
I bwy oedd y digwyddiad?
Roedd y seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn y meysydd canlynol:
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Penaethiaid Gwasanaeth
- Arweinwyr Gwarchod y Cyhoedd
- Uwch Swyddogion Risg Gwybodaeth
Cyflwyniadau
-
Rhannu data ar draws sectorau [PDF 1.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Claire Williams, CAIS
-
Dymchwel rhwystrau mewnol [PDF 380KB Agorir mewn ffenest newydd] - Francine Salem, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Sut i rannu data personol yn ddaearyddol [PDF 380KB Agorir mewn ffenest newydd] - Jackie Evans, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
-
Nid oes un ateb i bawb - David Teague, Y Comisiynydd Gwybodaeth
-
Cynllun Braenaru Merched: Cyflawni dull system gyfan ar gyfer grŵp cymhleth o ddefnyddwyr gwasanaeth (PDF) - Jade Theaker a Wendy Kay, Gwasanaeth Prawf Cymru