Shared Learning Seminar
O'r Strategaeth i Fodolaeth: Sut mae'r digidol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd - Caerdydd

Mae pandemig Covid wedi dangos pwysigrwydd digidol wrth ddarparu gwasanaethau modern ar gyflymder. Rydym wedi gweld bod digidol yn gweithredu fel catalydd mawr wrth addasu i'r heriau yr ydym wedi'u hwynebu. Mae angen i wasanaethau cyhoeddus barhau â'r meddwl ystwyth ac ymatebol hwn a osodwyd fel y norm ac nid yr eithriad.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Os nad ydi’r byd digidol i chi, yna mae angen i chi ddod i’r digwyddiad yma.

Os mai’r byd digidol yw eich cynefin, yna dewch draw i ategu eich sgiliau cael y maen i’r wal.

Bydd y digwyddiad yma yn edrych yn onest ac ymarferol ar y dirwedd ddigidol yng Nghymru ac yn cynnig syniadau ymarferol ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector er mwyn cyflawni’r gwerth am arian gorau.

Sut mae trosi amcanion strategaethau digidol mewn i weithredu ymarferol sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd?

Mae digidol yn rhan mor fawr o’n bywydau a’r gwasanaethau ‘rydym yn eu defnyddio bellach. Mae hyn yn golygu ei fod yn rhan annatod sy’n cael ei gymryd yn ganiataol o ddarparu  gwasanaethau a rhedeg sefydliadau.

Mae darparu gwasanaethau effeithiol yn y cyfnod yma yn golygu gweithio yn ddigidol i ryw raddau. Ond mae’r byd digidol yn enfawr a gall fod yn ddryslyd iawn ceisio dod o hyd i’r ffordd ymlaen. Bydd y digwyddiad yma yn canolbwyntio ar y sylfeini fydd yn galluogi llwyddo mewn ffordd gyraeddadwy a chynaliadwy. Mae hynny yn cynnwys yr arweinyddiaeth a’r diwylliant sydd angen ei fagu, sut i ddylunio gwasanaethau, y sgiliau digidol sydd eu hangen o fewn sefydliad yn ogystal â sut i sicrhau fod pawb yn cael eu cynnwys a bod gwasanaethau yn hygyrch.

Ble a phryd 

5 Hydref 2023
09:00 - 13:00
Clwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9XR

Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da 

I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru. 

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch. 

Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru 

 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan