Bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus ddefnyddio'r dulliau canlynol o weithio (integreiddio, cydweithredu, hirdymor, cyfranogiad ac ataliaeth) er mwyn gwneud y cyfraniad gorau posibl i'r diben cyffredin a rennir a nodwyd yn y nodau lles cenedlaethol.
Mae hwn yn gyfle i Archwiliad Mewnol ystyried a fydd dulliau gweithredu cyfredol yn addas at y diben mewn amgylchedd gweithredu a fydd wedi newid yn sylweddol.
Ar ddiwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn deall beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i archwiliad mewnol a byddant mewn sefyllfa well i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau cyhoeddus.
I bwy oedd y digwyddiad?
Cafodd y seminar hon ei hanelu at reolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n gyfrifol am y meysydd canlynol:
- prif archwilwyr mewnol
- cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau archwilio, ac
- uwch dîm rheoli sydd ag archwiliad mewnol yn rhan o'i bortffolio.
Cyflwyniadau
-
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Beth mae'n ei olygu i Bwyllgorau Archwilio [PDF 2.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Mike Palmer, Swyddfa Archwilio Cymru a Jeff Brown, Felicity Quance a Osian Lloyd, PricewaterhouseCoopers LLP
-
Sgiliau, ymddygiadau a chymwysterau Archwilydd Mewnol llwyddiannus [PDF 361KB Agorir mewn ffenest newydd] - Simon Cookson, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru