Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2012 ac roedd yn cynnwys amrediad o siaradwyr diddorol yr oeddent yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ac yn cynnig eu syniadau ar sut allwn ni ymdopi a ffynnu yn ystod cyfnod o galedi.
Mae Cymru'n wlad fechan. Ond mae'n rhaid iddi gael syniadau mawr o ran gwasanaethau cyhoeddus.
Os ydym ni am gyrraedd y safon rhagorol rydym yn anelu tuag ato, rydym gyntaf angen deall a bod yn agored ynglyn â chryfderau a gwendidau ein darpariaeth a'n perfformiad presennol - a'r mecanweithiau sy'n eu cefnogi. Yna, mae'n rhaid i ni fod yn barod i arloesi hyd yn oed pan fo adnoddau'n brin. Nid ydym ni ar ein pennau ein hunain wrth orfod darparu gwasanaethau gwell, sydd yn cwrdd ag anghenion y cyhoedd yn well, yn wyneb cyfyngiadau o ran gwariant. Gobeithio fydd heddiw yn darparu llwyfan a chyfle i ni oll allu edrych ar arferion presennol ac ystyried sut i wella'n perfformiad yng Nghymru, wrth ystyried profiadau mewn llefydd eraill. Ceir heddiw ystod o gyfranwyr o Gymru ynghyd â chydweithwyr o'r Alban a Lloegr. Bydd tîm o'r sector cyhoeddus yn yr Alban yn dechrau'r gynhadledd drwy roi safbwynt unigryw o sut mae cenedl arall sydd wedi ei datganoli yn mynd i'r afael â heriau tebyg.
Bydd siaradwyr ac arweinwyr gweithdai o ystod eang o ddiddordebau yn arwain ein trafodaethau. Fel bydd ein siaradwr olaf yn dangos - mae gan Gymru syniadau mawr ac mae'n perfformio ar lwyfan rhyngwladol mewn meysydd eraill, felly gall, a dylai, gwasanaethau cyhoeddus anelu at wneud yr un modd hefyd.