Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae llawer o’n parciau’n wynebu dyfodol ansicr, ac mae’r gwaith o’u rheoli a’u cynnal a’u cadw dan fygythiad. Bydd y seminar hon yn edrych ar yr heriau presennol ac yn dangos yr arloesi sydd eisoes yn cael effaith. Bydd pawb a fydd yn bresennol yn gadael gyda syniadau am sut mae defnyddio’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer arloesi a sut mae sicrhau bod parciau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Loteri Fawr wedi llwyddo i gefnogi’r gwaith o adfer ac adfywio sawl rhan o’r DU yn ystod y degawd diwethaf. Mae Nesta wedi ymuno yn awr â’r ddau sefydliad i gynnig rhaglen newydd gyffrous o arloesi mewn parciau.
Mae arnom angen gweledigaeth newydd ar gyfer sut i reoli parciau mewn ffordd wahanol, a sut gallant rymuso cymunedau a bod yn gynaliadwy. Mae’n amser ail-greu parciau.
At bwy mae'r digwyddiad wedi ei anelu
Mae’r seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gyfrifol am y canlynol:
- Llywodraeth Leol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Iechyd
- Gofal cymdeithasol
- Tai
- Awdurdodau tân a heddlu
- Llywodraeth Ganolog
- Arolygiaethau
- Mentrau cymdeithasol / grwpiau cymunedol
Cyflwyniadau
- Parciau ym mhob cwr o'r byd [PDF 3.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Lydia Ragoonanan, Nesta
- Mynd i'r Parc - Mabwysiadu technegau permaddiwylliant ac ecolegol [PDF 5.7MB Agorir mewn ffenest newydd] - Simon Goff, Cyngor Burnley
- Cefnogi ein parciau - Technolegau cyfrannu digidol [PDF 3MB Agorir mewn ffenest newydd] - Michael Rowland, Cyngor Bwrdeistref Bournemouth
- Cyllidir Cydweithfa Bwyd Meddygon Teulu Lambeth: model ar gyfer byw'n iach [PDF 900KB Agorir mewn ffenest newydd] - Ed Rosen, Cyllidir Cydweithfa Bwydd Meddygon Teulu Lambeth
- Coed Actif Cymru - Gwella iechyd yn y coetir [PDF 8.2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Kate Hamilton a Amie Andrews, Coed Actif Cymru