Shared Learning Seminar
Cydweithio er mwyn gwella llesiant

Mewn cydweithrediad gyda Labordy Gwasanaeth Cyhoeddus Gogledd Cymru (Prifysgol Wrecsam) a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, byddwn yn cynnal digwyddiad o'r enw 'Cydweithio er mwyn gwella llesiant'. Mae'n ddilyniant i'r digwyddiad C4C Cymuned er mwyn Cymuned) a gynhaliwyd gan Labordy Gwasanaeth Cyhoeddus Gogledd Cymru ym Mai'r flwyddyn hon.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'n parhau i wynebu heriau sylweddol, a bydd hyn yn parhau yn y dyfodol rhagweladwy. Y ffaith yw ein bod ni i gyd yn wynebu adegau heriol ac nid oes gan yr un sefydliad yr atebion. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio deddfwriaeth newydd, cydweithio mwy â sefydliadau eraill, mabwysiadu diwylliannau gwahanol a dysgu, gallwn nodi ffyrdd o ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Llesiant oedd un o'r heriau mawr a nodwyd yn y digwyddiad C4C diwethaf ym Mai. Bydd y digwyddiad yma yn dod a Phartneriaeth Mewnwelediad Gogledd Cymru, y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chymuned C4C at ei gilydd i rannu cynlluniau llesiant ar draws ardal Gogledd Cymru, yn ogystal â rhannu'r gwaith arloesol sydd yn cael ei wneud gan sawl sector ym maes llesiant yn ein cymunedau. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfleoedd i drafod sut y gellir cysylltu'r gwaith yma gyda'i gilydd er mwyn creu gwir newid.

Ble a phryd 

24 Hydref 2023
09:30 - 16.00 
Venue Cymru, Llandudno

Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da 

I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru. 

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch. 

Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan