Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn i dynnu sylw'r cyhoedd at fethiant yn y trefniadau llywodraethu a diffygion yn y prosesau a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i bennu cyflog prif swyddogion. O ganlyniad i fethiannau o'r fath, mae'r Cyngor, yn fy marn i, wedi gweithredu'n anghyfreithlon mewn perthynas â'r broses hon ar gyfer pennu cyflogau. 

    Fel yr archwilydd penodedig fy nghyfrifoldeb yw hi i benderfynnu a yw unrhyw eitem cyfrif yn ‘groes i’r gyfraith’ cyn arfer disgresiwn ar p'un ai i wneud cais i'r llys am ddatganiad i'r perwyl hwnnw. Fel rhan o'm hymchwiliad archwilio, ceisiais ddod i gasgliad o ran pa un a oedd y Cyngor wedi pennu lefelau cyflog prif swyddogion mewn ffordd gyfreithlon. Deuthum i'r casgliad fod penderfyniad y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff (y Pwyllgor) ar 5 Medi 2012 i gymeradwyo'r strwythur cyflog argymelledig a nodwyd yn adroddiad y Prif Weithredwr i'r Pwyllgor hwnnw yn anghyfreithlon.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Trefn Cyngor Caerffili ar gyfer pennu cyflog uwch-swyddogion yn 'anghyfreithlon'

    Gweld mwy
CAPTCHA