Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad er budd y cyhoedd ar effeithiolrwydd y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddisgrifio lefel pryderus o gamweithrediad o fewn y bwrdd ac arweinyddiaeth uwch ehangach.

    Rhoddwyd y Bwrdd Iechyd yn ôl mewn mesurau arbennig yr wythnos ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar effeithiolrwydd y bwrdd, ac ymddiswyddodd holl aelodau annibynnol y bwrdd.

    Flwyddyn yn hwyrach, mae ein hadroddiad dilynol yn cyflwyno ein canfyddiadau ar effeithiolrwydd y bwrdd cyfredol ac i ba raddau yr aethpwyd i’r afael â’r meysydd ar gyfer gweithredu ar unwaith a nodwyd yn ein hadroddiad gwreiddiol.

    Ar y cyfan, canfuwyd gennym fod y bwrdd, yn dilyn cyfnod o darfu a chorddi sylweddol yn ystod 2023, mewn sefyllfa fwy sefydlog bellach, mae prif weithredwr newydd yn y swydd ac mae’r berthynas waith ymhlith arweinwyr uwch yn fwy cadarnhaol.

    Fodd bynnag, mae rhai heriau sylfaenol yn parhau yng nghyd-destun sefydliad sy’n destun mesurau arbennig. 

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd i symud ymlaen o’r camweithrediad a ganfuwyd o fewn ei fwrdd flwyddyn yn ôl

    View more
CAPTCHA