Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod bod trawsnewid digidol yn ganolog i foderneiddio ei gwasanaethau. Er bod ganddi Strategaeth Ddigidol 10 mlynedd a threfniadau llywodraethu ategol, nid yw’r strategaeth yn cynnwys cynllun cyflawni manwl, wedi’i gostio. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anos i’r Ymddiriedolaeth flaenoriaethu gwaith, defnyddio adnoddau’n effeithiol, a bod yn hyderus y gall ei nodau digidol gael eu cyrraedd â’r capasiti sydd ganddi. 
    Mae buddsoddiad digidol wedi cynyddu yn bennaf am bod costau refeniw’n codi. Fodd bynnag, mae cyllid cyfalaf yn anrhagweladwy a disgwylir iddo ostwng yn sylweddol yn 2026-27. Mae hyn yn creu risgiau ar gyfer amnewid hen systemau, a all achosi oedi wrth gyflawni’r Strategaeth Ddigidol. 
    Mae disgwyl i systemau cenedlaethol helpu’r Ymddiriedolaeth i wella diogelwch ac effeithlonrwydd, tra bo prosiectau lleol, megis y Platfform Hyfforddiant Digidol, gwaith dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a defnydd cynnar o AI, wedi’u bwriadu i helpu staff i weithio’n fwy effeithlon ac ategu ffyrdd mwy modern o weithio. 
    Serch hynny, mae cynnydd yn cael ei ddal yn ôl gan nifer o fylchau yn nhrefniadau’r Ymddiriedolaeth. Nid yw risgiau allweddol sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch, hen systemau ac AI wastad yn cael eu cofnodi mewn ffordd gyson, sy’n cyfyngu ar allu’r Bwrdd i’w goruchwylio’n effeithiol. Hefyd, nid oes gan yr Ymddiriedolaeth ddealltwriaeth glir am sgiliau digidol ar draws ei gweithlu eto. Hefyd, cyfyngedig yw gwaith i werthuso prosiectau digidol, sy’n ei gwneud hi’n anos dangos a yw manteision disgwyliedig yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd.

CAPTCHA