Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Cyngor yn rheoli priffyrdd yn erbyn cefnlen sy’n gryn her. Mewn termau real, mae ei gyllid ar gyfer priffyrdd a ffyrdd wedi gostwng 40% ers 2008-09. Mae’r penderfyniadau hynny wedi lleihau gallu’r Cyngor i reoli ei rwydwaith priffyrdd mewn ffordd gynaliadwy a chost-effeithiol. Mae ffocws y Cyngor bellach yn seiliedig ar risg ac yn fwyfwy adweithiol yn hytrach nag ataliol. Mae hyn yn cynyddu’r risg y bydd cyflwr ffyrdd yn y dyfodol yn dirywio ac y bydd costau’n cynyddu.

    Dengys data’r Cyngor ei hun nad yw ei ddull cyfredol yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Mae ei ddull seiliedig-ar-risg wedi ei alluogi i gynnal cyflwr ffyrdd dosbarthiadol. Ond mae hyn wedi bod ar draul ffyrdd diddosbarth, sef bron hanner y rhwydwaith. Dengys data’r Cyngor gynnydd yn nifer y ffyrdd diddosbarth y mae angen gwneud gwaith brys iddynt. Ar draws y rhwydwaith cyfan, fe wnaeth nifer y tyllau y rhoddwyd gwybod amdanynt gynyddu 456% rhwng 2020 a 2024. Ar y cyfan, gallai cyflwr dirywiol y ffyrdd ddwyn goblygiadau sylweddol ar gyfer trigolion, busnesau a chymunedau sy’n dibynnu ar y rhwydwaith priffyrdd ar gyfer mynediad a chysylltedd.

CAPTCHA