Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae ein Cynllun Blynyddol, a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2020, yn nodi’r camau roeddem yn bwriadu eu cymryd yn 2020-21 tuag at gyflawni ein huchelgeisiau sefydliadol a’n hamcanion strategol. Fodd bynnag, ychydig cyn ei gyhoeddi, bu’n rhaid i ni ymateb i amgylchiadau eithriadol pandemig COVID-19.

    Mae ein Hadroddiad Interim yn rhoi crynodeb o’r addasiadau a wnaed gennym i’r rhaglenni gwaith gwreiddiol a nodwyd yn ein Cynllun Blynyddol mewn ymateb i’r pandemig. Mae ein hadroddiad hefyd yn dangos y cynnydd a wnaed gennym dros y chwe mis diwethaf o ran cyflawni’r cynlluniau addasedig hyn.

    Yr hyn a wnaed gennym ers mis Ebrill

    Ers dechrau’r cyfyngiadau symud, rydym wedi rhoi’r gorau weithio ar safleoedd cyrff a archwilir, wedi cau ein swyddfeydd ein hunain ac wedi gofyn i’n holl staff weithio gartref. Aethom ati’n gyflym i ddatblygu sianeli cyfathrebu er mwyn sicrhau bod cydweithwyr wedi’u cysylltu o hyd a chynhaliwyd arolygon pỳls rheolaidd o’r staff er mwyn deall eu hanghenion a rhoi adborth. 

    ,
    Rydym wedi gweithio’n gyflym ac mewn partneriaeth â’r cyrff archwilir gennym i bennu ffyrdd newydd o weithio er mwyn cyflawni ein holl waith archwilio.
    ,

    Roedd hyn yn cynnwys sicrhau mynediad o bell i systemau ariannol a datblygu trefniadau rhannu ffeiliau electronig er mwyn ei gwneud yn bosibl i’n gwaith barhau. 

    Rydym ar y trywydd cywir o hyd i gyflawni ein rhaglen lawn o waith archwilio cyfrifon.

    Rydym wedi ail-lunio ein rhaglenni o astudiaethau gwerth am arian, yn genedlaethol ac mewn cyrff unigol a archwilir, er mwyn cydnabod a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i’r pandemig.

    Hefyd, gwnaethom sefydlu ein prosiect dysgu gwersi COVID-19. Gan ddefnyddio ein rhwydwaith sefydledig o gysylltiadau ym mhob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus, gallwn gasglu enghreifftiau o arferion da newydd ac arloesol, a’u cyfleu mewn amser real fwy neu lai.

    ,
    Llesiant y staff fu ein blaenoriaeth drwy’r cyfan. Mae fy nyled yn fawr i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a’u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus drwy’r cyfnod heriol hwn. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
CAPTCHA