Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gofal a gynlluniwyd y GIG – a yw’n addas ar gyfer y dyfodol?

08 Mehefin 2026
  • Yn 2025, gwnaethom adrodd ar wasanaethau gofal a gynlluniwyd ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, gan adeiladu ar waith archwilio cynharach.

    Mae'r adroddiadau hyn ar gael ar ein gwefan ac rydym yn parhau i dracio ymatebion byrddau iechyd i'n hargymhellion.

    Mae'r erthygl hon yn nodi themâu allweddol ein gwaith, a'r heriau sy'n wynebu Llywodraeth newydd Cymru a'r GIG yn ehangach. Mae'n cynnwys rhywfaint o ddadansoddiad data wedi'i ddiweddaru. Mae ein hadroddiadau byrddau iechyd blaenorol yn rhoi mwy o wybodaeth am eu perfformiad gofal a gynlluniwyd ar y pryd yn erbyn targedau ac uchelgeisiau perthnasol Llywodraeth Cymru.

    Beth yw gofal a gynlluniwyd y GIG?

    Mae gofal a gynlluniwyd, a elwir yn aml yn ofal dewisol, yn driniaeth feddygol nad yw'n driniaeth frys wedi'i drefnu ymlaen llaw. Gall hyn gynnwys apwyntiadau cleifion allanol, profion diagnostig, a llawdriniaeth. Mae'n wahanol i ofal brys.

    Gall y galw am ofal a gynlluniwyd fod yn fwy na’r capasiti sydd yn y GIG, gan greu 'rhestr aros'.

    Cyn pandemig COVID-19 roedd cleifion yn aml yn aros am amser hir am driniaeth. Pan darodd y pandemig, daeth llawer o wasanaethau i ben ac roeddent yn araf yn ailgychwyn. Arweiniodd hyn at gynnydd mawr mewn arosiadau hir.

    Cwestiynau i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru

    Mae gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yn parhau i fod dan straen enfawr. Mae'r galw ar y lefelau uchaf erioed ac, er bod yr arosiadau hiraf wedi gostwng, mae rhestrau aros yn parhau i fod yn rhy uchel ac mae’n debyg y gallai hi gymryd blynyddoedd i’w hadfer.

    Mae cyllid ychwanegol wedi helpu, ond mae gormod o ymdrech yn ymwneud â datrysiadau tymor byr yn hytrach na newid parhaol. Mae'n rhaid i'r GIG nawr symud oddi wrth ddatrysiadau cyflym at drawsnewid gwasanaethau, fel eu bod yn fwy effeithlon, yn diwallu anghenion y dyfodol, ac yn darparu gwerth i gleifion.

    Rydym wedi amlinellu rhai cwestiynau ar gyfer Llywodraeth Cymru a GIG Cymru:

    • Sut gall y GIG gynllunio'n well ar gyfer y tymor hwy fel bod gwasanaethau'n gynaliadwy – hynny yw, eu bod yn diwallu’r galw, yn effeithlon ac yn fforddiadwy, ac yn darparu canlyniadau da?
    • Ble bydd cyllid yn cael yr effaith, y gwerth a'r canlyniad gorau i gleifion?
    • Sut bydd gwariant yn cael ei gydbwyso rhwng buddsoddiad mewn iechyd poblogaeth (un o brif ysgogiadau galw), gwasanaethau cymunedol, a gwasanaethau ysbyty?
    • Sut bydd y GIG yn sicrhau bod ei ystad, ei dechnoleg a'i offer yn cefnogi gwasanaethau gofal a gynlluniwyd modern?
    • Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â gwastraff ac aneffeithlonrwydd mewn gwasanaethau gofal a gynlluniwyd?
    • Sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur, ac mewn ffordd sy'n annog gwelliant hirdymor cynaliadwy?
       

    Ein canfyddiadau

    ,

    Er gwaethaf y cynnydd diweddar mae gormod o bobl yn dal i aros, mae gormod o arosiadau hir, ac mae'r galw wedi bod yn cynyddu

    ,

    Roedd rhestrau aros eisoes yn broblem, ond maent wedi cynyddu'n sylweddol ers mis Ebrill 2020

    Arweiniodd y pandemig at gynnydd mawr yn y rhestr aros. Dim ond yn ddiweddar iawn y bu gostyngiad sylweddol yn nifer cyffredinol yr arosiadau (Siart 1). Mae'r rhestr aros yn dal i fod tua 50% yn fwy nag yr oedd cyn y pandemig.

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru
    ,

    Nodiadau ar ddata a gyflwynir yn yr erthygl hon:

    Adroddir am restrau aros y GIG mewn dwy ffordd. Mae nifer yr arosiadau cleifion unigol yn is na nifer y llwybrau. Mae hyn wedi digwydd oherwydd bod rhai cleifion yn cael eu cyfeirio am fwy nag un cyflwr ac ar fwy nag un llwybr. Rydym wedi defnyddio niferoedd arosiadau llwybr gan eu bod yn darparu darlun mwy cyflawn o'r galw. Mae hyn yn berthnasol i Siartiau 1, 2 a 3.

    Rydym wedi amlygu hyd y pandemig yn y data a gyflwynwyd. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiadau swyddogol a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae hyn yn berthnasol i Siartiau 1, 2 a 4.

    ,

    O fis Ebrill 2022, lleihaodd byrddau iechyd eu harosiadau hiraf yn sylweddol trwy gynnydd mawr mewn cyllid a chamau gweithredu tymor byr

    Arweiniodd y pandemig at gynnydd sydyn mewn arosiadau hir am driniaeth. Ym mis Ebrill 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Gosododd darged i ddileu arosiadau dwy flynedd erbyn mis Mawrth 2023, yna ei ymestyn i fis Mawrth 2024.

    Nid yw GIG Cymru wedi cyrraedd y targed gwreiddiol na'r targed wedi'i ddiweddaru ond mae wedi lleihau'r arosiadau hiraf yn sylweddol (Siart 2). Ym mis Chwefror 2026, roedd ychydig dros 4,500 o bobl wedi bod yn aros dros ddwy flynedd, i lawr o frig o tua 70,400 ym mis Mawrth 2022.

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

     

    Mae'r cynnydd hwn wedi golygu costau. Rhwng 2022-23 a 2024-25, derbyniodd byrddau iechyd £547 miliwn ychwanegol ar gyfer lleihau arosiadau hir. Er bod byrddau iechyd wedi cynyddu capasiti mewnol, gwnaethant wario llawer o'r cyllid ar fesurau tymor byr drud. Roedd hyn yn cynnwys contractau gyda darparwyr preifat a 'mentrau rhestr aros' fel amserlennu llawdriniaethau orthopedig ychwanegol dros y penwythnos.

    ,

    Mae llawer mwy o bobl yn dal i aros yn hirach nag yr oeddent cyn y pandemig, gyda gwahaniaethau mawr yn dibynnu ar ble y mae pobl yn byw a'r driniaeth y maen nhw'n aros amdani

    Er gwaethaf y cynnydd a wnaed, mae arosiadau hir yn parhau i fod yn broblem. Cyn y pandemig, y targed oedd sicrhau bod pob claf yn dechrau triniaeth o fewn 36 wythnos. Ym mis Chwefror 2019, roedd tua 13,300 o arosiadau llwybr yn fwy na 36 wythnos. Erbyn Chwefror 2026, roedd y nifer hwnnw wedi codi i oddeutu 185,000 - tua 14 gwaith yn uwch.

    Ers mis Ebrill 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn mesur perfformiad gan ddefnyddio arosiadau o un neu ddwy flynedd neu fwy. Mae gwahaniaethau mawr yn nifer yr arosiadau hir am ofal a gynlluniwyd ar draws byrddau iechyd. Mae hyn yn wir, hyd yn oed ar ôl ystyried maint poblogaeth pob bwrdd iechyd (Siart 3).

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Dadansoddiad o ddata Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

     

    Mae gwahaniaethau mawr hefyd yn niferoedd yr arosiadau hir ar draws y gwahanol wasanaethau clinigol. Ym mis Chwefror 2026, roedd orthopaedeg, offthalmoleg a llawdriniaeth gyffredinol yn gyfrifol am ychydig dros hanner oddeutu 106,000 o arosiadau dros flwyddyn.

    ,

    Os bydd tueddiadau diweddar yn parhau, gallai atgyfeiriadau gofal a gynlluniwyd gynyddu'n sylweddol

    Mae'r galw am apwyntiadau cleifion allanol wedi bod yn cynyddu (Siart 4). Er nad yw pob apwyntiad cleifion allanol yn arwain at brofion diagnostig a thriniaeth, maent yn rhoi arwydd da o newidiadau yn y galw am ofal a gynlluniwyd yn gyffredinol. Byddai twf parhaus yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau.

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Dadansoddiad o ddata Iechyd a Gofal Digidol Cymru

    Nodyn: Ychwanegwyd nifer fach o arbenigeddau ychwanegol at y categorïau atgyfeirio rhwng 2022 a 2025. Mae hyn yn cyfrif am oddeutu 0.5% o'r twf yn y galw am atgyfeiriadau a ddangosir uchod.

    ,

    Canfuom fod angen i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer galw yn y dyfodol, bod yn fwy effeithlon, a rheoli'r risg o niwed i gleifion yn well tra byddant yn aros

    ,

    Nid oedd gan fyrddau iechyd gynlluniau cadarn i fynd i'r afael â thwf hirdymor disgwyliedig yn y galw

    Mae byrddau iechyd, yn ddealladwy, wedi canolbwyntio ar yr her uniongyrchol sy'n effeithio ar gleifion ac yn peri pryder iddynt – yr ôl-groniad mawr yn y rhestrau aros. Mae mesurau perfformiad a chraffu yn canolbwyntio ar dargedau rhestr aros. Ond mae hyn yn ysgogi ymateb rhy fyrdymor.

    Canfuom nad oedd byrddau iechyd yn gwneud digon i ragweld twf tymor hwy o ran galw. Nid oedd ganddynt gynlluniau clir i greu'r capasiti angenrheidiol neu drawsnewid gwasanaethau i helpu i gwrdd â'r galw newidiol neu ei leihau trwy atal.

    Rydym wedi codi'r pryderon hyn o'r blaen. Er enghraifft:

    ,

    Mae byrddau iechyd wedi bod yn ceisio ysgogi effeithlonrwydd, ond mae'r darlun yn gymysg

    Mae byrddau iechyd wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr cenedlaethol ond rhaid iddynt wneud mwy i wella cynhyrchiant. Gallai llwybrau gofal symlach, digideiddio, a mwy o ddefnydd o ofal cymunedol helpu i wneud gwasanaethau'n fwy effeithlon a gwella profiad cleifion.

    Mae gormod o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu gwastraffu oherwydd nad yw cleifion yn eu mynychu. Yn 2024-25, collwyd tua 207,000 o apwyntiadau wyneb yn wyneb (7.4% o'r holl apwyntiadau). Mae hyn yn ddefnydd gwael o adnoddau drud y GIG. Amcangyfrifom ni y gallai lleihau un rhan o bump o apwyntiadau a gollwyd arbed tua £6.7 miliwn y flwyddyn, yn seiliedig ar gostau 2024-25. Rydym wedi gweld gwelliant bach yn 2025-26, ond mae mwy i'w wneud o hyd.

    Mae llawdriniaethau wedi'u canslo hefyd yn broblem. Yn 2024-25, canslodd byrddau iechyd bron i 18,000 o lawdriniaethau ar fyr rybudd, sef tua 350 yr wythnos. Ac nid ydynt bob amser yn sicrhau’r defnydd gorau o theatrau llawdriniaeth sydd ar gael.

    Gallai byrddau iechyd hefyd gynnal mwy o lawdriniaethau cleifion allanol, sy'n fwy effeithlon na llawdriniaeth cleifion mewnol. Ar adeg ein gwaith yn 2025, nid oedd unrhyw fwrdd iechyd yn cyrraedd y targed arfer da sef bod 85% o'r holl lawdriniaethau yn llawdriniaethau cleifion allanol. Mae rhai yn parhau i fod yn bell o gyrraedd y targed (Siart 5).

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru
    ,

    Roedd cefnogaeth i gleifion tra oeddynt yn aros yn anghyson, gyda rhai byrddau iechyd yn araf yn mabwysiadu polisi newydd Llywodraeth Cymru

    Canfuom nad oedd byrddau iechyd wedi gweithredu dull '3A' Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd ym mis Awst 2023, yn gyson. Mae'r dull yn ymwneud ag annog ymddygiadau iechyd gwell, atal iechyd rhag gwaethygu ac amser paratoi ar gyfer triniaeth.

    Roedd rhai byrddau iechyd yn araf i ymateb i'r gofynion newydd hyn, ac nid oedd y mwyafrif yn glir ynghylch sut y gallai claf uwchgyfeirio pryder os oeddent yn teimlo bod eu hiechyd yn gwaethygu. Symudodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyflymach i ddarparu cymorth yn unol â'r 3A.

    Ar wahân i rai gwasanaethau offthalmoleg, gwelsom dystiolaeth gyfyngedig o ddulliau strwythuredig o dracio niwed gwirioneddol sy'n deillio o arosiadau hir.