Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Sector cyhoeddus Cymru’n hynod annhebygol o wireddu’r uchelgais sero net erbyn 2030

02 Tachwedd 2026
  • Er bod llawer o enghreifftiau o newidiadau cadarnhaol, ar y cyfan, ni chynyddwyd y cyflymder fel yr ydym ni wedi galw amdano’n flaenorol

    Datganodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n argyfwng ar yr hinsawdd yng Nghymru yn 2019 ac yn flaenorol mae wedi pennu ‘uchelgais cyfunol’ ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030.

    Fe wnaethom adrodd ar gynnydd tuag at yr uchelgais cyfunol ddiwethaf yn 2022. Ers hynny, rydym wedi canfod y canlynol:

    • Mae datgarboneiddio bellach yn flaenoriaeth is i gyrff cyhoeddus, yn rhannol oherwydd pwysau ariannol. Nid yw wedi cael ei wreiddio’n llawn mewn prosesau penderfynu o ddydd i ddydd, ac nid yw cyrff cyhoeddus yn gwneud digon i weithio gyda’i gilydd ar hynny.
    • Mae’r uchelgais cyfunol wedi bod yn ysgogiad i weithredu ond mae wedi’i ddiffinio’n wael ac wedi cael ei feirniadu am fod yn ‘anghyraeddadwy’. Mae ar gyrff cyhoeddus eisiau mwy o help i drosi strategaeth yn gamau gweithredu, ac nid yw Llywodraeth Cymru’n gwirio a ydynt yn cyrraedd y cerrig milltir datganedig.
    • Mae rhagor o gyrff cyhoeddus bellach yn rhan o system Llywodraeth Cymru ar gyfer adrodd ar allyriadau carbon ac mae rhai bylchau mewn data wedi cael eu llenwi. Mae’r allyriadau yr adroddir arnynt wedi cynyddu ond nid yw data am dueddiadau’n adrodd y stori lawn gan bod y gwelliannau hyn o ran y cyrff sy’n adrodd a’r hyn yr adroddir arno wedi chwarae rhan. Ac fe geir rai pryderon ynghylch ansawdd data, yn enwedig mewn perthynas ag allyriadau cadwyni cyflenwi.
    • Cyfyngedig yw’r cynnydd a wnaed ar y cyfan gan gyrff cyhoeddus i ddeall faint fydd datgarboneiddio’n ei gostio yn y tymor agos neu hwy. A lle mae cyrff cyhoeddus wedi amcangyfrif y gost dros y tymor hwy, roedd rhai’n dweud ei bod yn anfforddiadwy. Fe amcangyfrifwyd y byddai’n costio o leiaf £2.3 biliwn i ddatgarboneiddio adeiladau cynghorau Cymru yn unig.
    • Mae cyrff cyhoeddus wedi adnabod bylchau mewn sgiliau datgarboneiddio ond nid oes ganddynt ddealltwriaeth lawn am eu hanghenion ac maent yn dibynnu ar gymorth allanol.

    Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru yn ei rôl arwain. Maent yn ymdrin ag eglurhau ac ategu’r cyfeiriad strategol, gwella’r modd yr adroddir ar allyriadau carbon, a chymorth ar gyfer cynllunio ariannol gwell. Rydym hefyd wedi argymell bod cyrff cyhoeddus yn defnyddio’r rhestr wirio yn ein hadroddiad i fyfyrio ynghylch eu dull eu hunain.
     

    ,

    Roedd a wnelo’r uchelgais cyfunol â sicrhau bod y sector cyhoeddus yn arwain trwy esiampl ac yn bod yn sbardun ar gyfer newidiadau ehangach yn yr economi a chymdeithas. Gallwn restru enghreifftiau cadarnhaol, ond nid oes digon o gynnydd wedi cael ei wneud ar y cyfan, ac mae arnom ddyletswydd i wneud yn well er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

    Ceir cwestiynau mawr ynghylch gwariant yn y dyfodol a sut y mae hynny’n cael ei flaenoriaethu pan nad yw datgarboneiddio’r sector cyhoeddus ond yn un rhan o’r hyn y mae ei angen i ymateb i newid hinsawdd. Hefyd, ynghylch sut y mae cyrff yn sicrhau’r sgiliau a’r capasiti y mae eu hangen arnynt i ymateb i’r her. Ac mae angen rhagor o waith i wneud yn siŵr bod y ffordd yr adroddir ar allyriadau carbon mor gywir â phosibl. Nid yw Cymru ar ei phen ei hun o ran wynebu’r materion hyn ond rhaid iddi wneud ei rhan yn llawn. 

    Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Cyflawni Gwaith Archwilio
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Ar y trywydd iawn? Adolygiad dilynol o ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus

    Gweld mwy