Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.
Tynnodd ein hadroddiad ar y cyd yn 2019 sylw at nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag arweinyddiaeth, ffocws strategol a'r trefniadau ar gyfer craffu ar ddiogelwch cleifion a risgiau i gleifion, y trefniadau ar gyfer rheoli pryderon a chwynion, a'r diwylliant sefydliadol. Roeddem yn pryderu bod y gwendidau hyn yn cael effaith andwyol ar allu'r Bwrdd Iechyd i nodi ac ymateb i broblemau o ran ansawdd a diogelwch gofal cleifion. Roedd ein hadroddiad yn 2019 yn cynnwys cyfanswm o 14 o argymhellion ar gyfer gwella.
Nododd ein hadolygiad dilynol fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ymdrin â phryderon ac argymhellion ein hadroddiad yn 2019. Mae ganddo ffocws strategol cryfach ar ansawdd a diogelwch cleifion, ac mae mwy o eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch cleifion o gymharu â 2019.
Mae trefniadau'r sefydliad ar gyfer craffu ar ansawdd a diogelwch cleifion hefyd wedi gwella'n sylweddol, ac maent yn fwy agored a thryloyw. Ceir gwell ymwybyddiaeth hefyd o reoli risg ym mhob rhan o'r sefydliad, ac mae prosesau cliriach ar waith i nodi, rheoli ac uwchgyfeirio risgiau. Mae prosesau pryderon a chwynion y Bwrdd Iechyd yn gliriach o lawer, a chafodd rolau corfforaethol newydd eu creu er mwyn helpu i'w rhoi ar waith a sicrhau cysondeb. Mae diwylliant gwell o ddysgu hefyd, ac mae cyfres o drefniadau bellach ar waith er mwyn helpu i rannu'r gwersi i'w dysgu ac i wneud gwelliannau ym mhob rhan o'r sefydliad.
Ceir tystiolaeth gynnar fod model gweithredu newydd y Bwrdd Iechyd yn cefnogi gwelliannau pellach o ran diwylliant sefydliadol, ond mae angen rhagor o waith er mwyn rhoi trefniadau monitro a rheoli perfformiad clir ar waith fel rhan o'r strwythur newydd.
Dywedodd y staff wrthym fod y diwylliant mewnol yn gwella, a bod yr uwch-arweinwyr yn fwy gweladwy a hygyrch. Fodd bynnag, gwnaethant hefyd ddweud wrthym fod meysydd i'w gwella o hyd, yn enwedig o ran ymdrin â phocedi o ymddygiad gwael.
Ar y cyfan, mae camau cadarnhaol wedi'u cymryd, sy'n arwydd clir o ymrwymiad, ymroddiad ac awydd y Bwrdd Iechyd i ymdrin â'n pryderon yn llawn ac i weithio i wella. Er hynny, mae angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau pellach o hyd er mwyn rhoi ei drefniadau llywodraethu ansawdd diwygiedig ar waith yn llawn ym mhob rhan o'r sefydliad ac i roi'r argymhellion nas cyflawnwyd eto ar waith yn llawn. Ar y cyd ag Archwilio Cymru byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd yn ofalus.
Mae'n galonogol gweld y cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y Bwrdd Iechyd i ymdrin â'r pryderon a'r gwendidau sylweddol a nodwyd gennym yn ein hadroddiad yn 2019. Mae'r gwelliannau a ddisgrifir gennym heddiw yn golygu bod y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa llawer gwell i wybod a yw ei wasanaethau yn ddiogel ac o ansawdd da. Rhaid cynnal y gwelliannau hyn nawr ac adeiladu arnynt wrth i'r Bwrdd Iechyd gwblhau'r broses o roi'r argymhellion a wnaed gennym yn 2019 ar waith.