Llywodraeth leol Cymru yn gwella'i threfniadau ar gyfer cynllunio, darparu ac adrodd ar welliannau

09 Tachwedd 2020
  • Ond mae angen gwneud mwy o gymariaethau er mwyn i bobl Cymru allu barnu cynnydd drostynt eu hunain, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru

    Mae Cynghorau, Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru yn gwella eu trefniadau o ran cysylltu'r hyn y maent am ei gyflawni â'u cynlluniau a'u hadnoddau, ac mae rhai yn cyflwyno darlun clir a didwyll i bobl leol. Ond, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddir heddiw, mae gwybodaeth wael yn ei gwneud hi'n anodd iddynt fod yn siwr eu bod yn deall eu perfformiad eu hunain yn ddigon da i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.

    Mae adroddiad heddiw'n edrych ar ba mor dda mae awdurdodau lleol yn cynllunio, darparu ac adrodd eu gwelliannau. Yn ôl yr adroddiad hwn, er eu bod yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol i gynllunio ac adrodd ar welliannau, nid ydynt yn gweithredu'n gyson yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru nac yn gweithredu ar argymhellion rheoleiddwyr.

    Er enghraifft, mae angen i lawer o awdurdodau wella'r ffordd y maent yn gwerthuso ac adrodd ar eu perfformiad i'r cyhoedd - megis cymharu perfformiad yn erbyn eu hamcanion dros amser a chymharu eu perfformiad ag awdurdodau eraill. Ac, mewn rhai achosion, nid yw awdurdodau'n cynnwys mesurau perfformiad a chymhariaeth perthnasol, yn enwedig os nad ydynt yn perfformio'n rhy dda.