Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwariant y GIG yn cynyddu wrth i ddau fwrdd iechyd dorri dyletswyddau ariannol eto

17 June 2022
  • Cyhoeddwyd un ar ddeg o gyfrifon archwiliedig 2021-22 cyrff y GIG heddiw sy'n dangos darlun clir o gynnydd mewn gwariant a rhywfaint o wariant afreolaidd yn ystod y flwyddyn.

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i'r casgliad bod yr un ar ddeg o gyfrifon 2021-2022 a gyhoeddwyd gan gyrff y GIG yn cyflwyno eu sefyllfa ariannol yn deg. Fodd bynnag, methodd dau o'r chwe bwrdd iechyd y cyhoeddir eu cyfrifon heddiw, unwaith eto â chyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Yn ogystal, aeth wyth corff i wariant afreolaidd yn ystod y flwyddyn wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion i ariannu rhwymedigaethau treth pensiynau clinigwyr.

    Ni wnaeth dau o'r pedwar corff a fethodd â bodloni eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros dair blynedd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – mantoli eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn chwaith. Mae'r ddau gorff yn dangos sefyllfa ariannol gymharol sefydlog yn erbyn y flwyddyn flaenorol, gyda'u diffygion yn ystod y flwyddyn tua £25 miliwn a £24 miliwn yn y drefn honno.

    Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei farn archwilio ar reoleidd-dra gwariant 2021-22 y ddau gorff hyn gan fod methu'r ddyletswydd hon yn golygu eu bod wedi rhagori ar eu hawdurdod i wario.

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyflawni ei ddyletswydd ariannol tair blynedd am y tro cyntaf eleni, ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fethodd y ddyletswydd hon mewn blynyddoedd blaenorol hefyd, mae'r archwiliad yn parhau, gyda disgwyl i gyfrifon 2021-22 gael eu cyhoeddi'n fuan.

    Roedd y tri bwrdd iechyd arall, tair ymddiriedolaeth GIG ac un awdurdod iechyd arbennig i gyd yn cyflawni eu dyletswyddau i fantoli eu cyllidebau.

    Eleni, rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei farn rheoleidd-dra mewn wyth o'r un ar ddeg o gyrff y GIG oherwydd y cyfrifon gan gynnwys gwariant a chyllid mewn perthynas â rhwymedigaethau treth pensiwn clinigwyr. Mae'r symiau wedi'u cynnwys yn dilyn Cyfarwyddyd Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2019 i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ymrwymo i wneud taliadau i staff clinigol i adfer gwerth eu pecynnau budd-daliadau pensiwn, lle'r oedd ymgymryd â gwaith ychwanegol yn cynyddu eu rhwymedigaethau treth pensiwn. Bydd holl gyrff y GIG yn cael eu dal yn ddiniwed am effaith y Cyfarwyddyd Gweinidogol, fodd bynnag, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, mae'r trafodion hyn yn afreolaidd ac yn berthnasol yn ôl eu natur, oherwydd maent yn groes i Reoli Arian Cyhoeddus Cymru ac yn fath o gynllunio treth a fydd yn gadael y Trysorlys yn ei gyfanrwydd yn waeth ei fyd. Roedd y Cyfarwyddyd Gweinidogol hwn yn dilyn un tebyg yn Lloegr ac yn y pen draw yn anelu at hwyluso'r gwaith o leihau rhestrau aros cleifion. Yn ei gyd-destun, amcangyfrifir bod costau ariannu'r rhwymedigaethau treth hyn yn yr wyth corff hyn ychydig dros £7 miliwn, yn erbyn cyfanswm gwariant o ychydig o dan £10 biliwn yn y flwyddyn.

    ,
    Parhaodd cyllid sylweddol i fod ar gael yn 2021-22, gan gynnwys cymorth parhaus i ymateb i'r pandemig, ac eto mae sefyllfa ariannol y GIG yn parhau i fod yn heriol iawn. Mae'r pwysau ar GIG Cymru yn parhau wrth iddo symud i'r modd adfer ac ymateb i bwysau cost a galw newydd gan gynnwys yr ôl-groniad sylweddol o ofal a gynlluniwyd. Rwyf wedi cymhwyso fy marn rheoleidd-dra mewn wyth o'r un ar ddeg o gyrff y GIG y cyhoeddwyd eu cyfrifon heddiw. Mae'r holl gymwysterau hynny'n ymwneud â'r pwysau hyn, naill ai gorwario yn erbyn terfynau ariannol, neu ariannu rhwymedigaethau treth pensiwn clinigwyr i hwyluso clinigwyr i ymgymryd â gwaith ychwanegol yn wyneb galw cynyddol a phrinder staff. Ymhen ychydig wythnosau, byddaf yn cyhoeddi fy Offeryn Data Cyllid y GIG ar gyfer 2021-22 a fydd yn nodi sefyllfa ariannol GIG Cymru yn fanylach, gan gynnwys gwariant ar COVID. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol