Enwebiad am Wobr Arloesedd

09 Tachwedd 2020
  • Rydym wedi cael ein henwebu am wobr Cyllid Cyhoeddus ac wedi’n henwebu ar y cyd ar gyfer ail wobr

    Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus [yn agor mewn ffenestr newydd].

    Mae'r enwebiad cyntaf yn y categori ar gyfer 'Cyflawniad mewn Adrodd Ariannol ac Atebolrwydd'. Mae'r enwebiad yn cydnabod y ffordd arloesol rydym wedi cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon, ynghyd â'r cynllun blynyddol, amcangyfrifon ac adroddiadau cynllun ffioedd.

    Mae’r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid (grŵp rydym yn rhan ohoni) hefyd wedi derbyn enwebiad yn y categori 'Menter Hyfforddiant a Datblygu Cyllid' am gynllun sy'n torri tir newydd a ddatblygwyd gennym mewn partneriaeth â sefydliadau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cynllun Cymru gyfan yn hyfforddi ac yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cyllid proffesiynol drwy ddarparu secondiadau ledled gwasanaethau cyhoeddus.

    Fel rhan o'r cynllun rydym yn gweithio'n agos â chydweithwyr yn GIG Cymru, llywodraeth leol, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir, a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach. Mae sefydliadau cyhoeddus eraill sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, fel y DVLA a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cymryd rhan yn y cynllun.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas:

    "Mae'n bleser gweld bod Cyllid Cyhoeddus wedi rhoi Swyddfa Archwilio Cymru ar y rhestr fer ddwywaith. Rydym wedi gweithio'n galed i wneud ein hadroddiadau ariannol yn arloesol, yn glir ac yn drawiadol yn weledol. Ac mae'r dull newydd rydym yn ei weithredu, gyda chymorth y Cynulliad Cenedlaethol i recriwtio, hyfforddi a chynnal gweithwyr cyllid proffesiynol ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn feiddgar ac yn gydweithredol. Dylai fy nghydweithwyr fod yn falch iawn bod eu gwaith caled a'u hymroddiad yn cael eu cydnabod yn y ffordd hon."

    Cynhelir Gwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus 2017 [yn agor mewn ffenestr newydd] ar 20 Ebrill yn Llundain. Gellir gweld y rhestr fer ar gyfer pob gwobr ar ei wefan.