Cyngor Torfaen yn cau ei gyfrifon yn gynt nag erioed

09 Tachwedd 2020
  • Cynllun llwyddiannus yn arwain at adran gwasanaethau ariannol mewn Cyngor yn cau ei chyfrifon blynyddol 10 wythnos o flaen ei hamser

    Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gau ei ddatganiad blynyddol o’i gyfrifon yn gynnar. Llwyddodd y Cyngor i wneud hyn 10 wythnos lawn cyn yr amser penodedig, gan gyrraedd y targed cau’n gynnar y mae’r Trysorlys am weld pob un o sefydliadau llywodraeth leol yn symud tuag ato.  

    Gan gydweithio’n agos â’i archwilwyr allanol (Grant Thornton ar ran yr Archwilydd Cyffredinol), mae Cyngor Torfaen wedi gweithredu amserlen newydd yn gynnar, yn seiliedig ar gau cyfrifon yn gynt. Y gobaith yw darparu fframwaith i gynghorau eraill ei ddilyn wrth i’r Llywodraeth geisio cyhoeddi ei Gyfrifon Llywodraeth Gyfan, proses sy’n dibynnu yn ei hanfod ar gyrff cyhoeddus Cymru’n llwyddo i gyflwyno datganiadau prydlon a manwl gywir i Lywodraeth Cymru.     

    Y nod wrth gau’r cyfrifon hyn yn gynt yw gwella’r rheolaeth ariannol yn y sector cyhoeddus, gydag angen cynyddol am adrodd yn ôl ar ganlyniadau ariannol cyn gynted â phosib yn ystod y flwyddyn ac ar ôl diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn cefnogi gwelliannau mewn rheoli adnoddau, gwneud penderfyniadau a rheoli risg, yn ogystal â chefnogi cyrff cyhoeddus i ymateb i reoleiddio, sy’n dod â’r dyddiadau cau ar gyfer adrodd yn ôl yn ariannol ymlaen.

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cefnogi mwy nag 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru i lunio adroddiadau ariannol amserol, gan gydnabod ei bod yn bwysig i’r wybodaeth hon fod yn amserol ac yn llawn gwybodaeth, er mwyn sicrhau bod modd i staff wneud gwell penderfyniadau ar ran y cyrff cyhoeddus hyn a’r bobl maent yn eu gwasanaethu. Er mwyn cefnogi hyn, bydd tîm Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal digwyddiad yn nes ymlaen eleni i rannu’r gwersi a ddysgwyd gan Dorfaen ac o gynlluniau tebyg yn Lloegr gydag awdurdodau lleol, awdurdodau parciau, ac awdurdodau heddlu a thân ledled Cymru.         

    Dywedodd David Lilly, Pennaeth Gwasanaethau Ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen heddiw:

    “Rydyn ni’n falch iawn o allu rhyddhau ein cyfrifon ariannol wedi’u harchwilio mor gyflym. Mae’r wybodaeth yma’n hanfodol i ni er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir ar ran pobl Torfaen. Mae gweld ein sefyllfa ariannol yn glir yn golygu bod modd i ni sicrhau bod yr adnoddau’n cael eu defnyddio ble mae eu hangen fwyaf a’n bod ni’n gallu gwneud hynny gyda hyder.”

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

    “Mae’n galonogol iawn gweld sut mae Cyngor Torfaen wedi ymateb i’r her yma. Bydd pa mor bwysig yw cynhyrchu cyfrifon ar amser yn dod yn fwy hanfodol fyth pan fydd Llywodraeth Cymru’n dechrau cynhyrchu cyfrifon Llywodraeth gyfan. Felly, rydyn ni’n gobeithio y bydd Cynghorau eraill Cymru’n dilyn arweiniad Torfaen. Hefyd hoffwn annog arweinwyr ariannol yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru i fynychu ein seminarau dysgu ar y cyd yn nes ymlaen eleni, fel eu bod yn gallu elwa o’r gwersi a ddysgwyd a’r esiampl dda sydd wedi’i gosod gan y Cyngor.”

    Bydd Cyfnewidfa Arfer Da, mewn partneriaeth â Grant Thornton UK LLP, yn cynnal Seminar Dysgu ar y Cyd yn rhoi sylw i Gau Cyfrifon Llywodraeth Leol yn Gynt yng Nghaerdydd ar yr 20 Hydref, a hefyd yng ngogledd Cymru yn Llanrwst ar 11 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.