Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Canfu Adolygiad ar y Cyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu’r Bwrdd Iechyd.
Ym mis Tachwedd 2019, canfu Adolygiad ar y Cyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag ansawdd y gofal a diogelwch cleifion a gwnaed 14 o argymhellion.
Mae ein hadroddiad ar y cyd, a gyhoeddwyd heddiw (18 Mai), yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn y 14 o argymhellion gwreiddiol. Rydym wedi ystyried yr effaith y mae pandemig COVID-19 wedi'i chael ar allu’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r argymhellion, ond o ystyried y diffygion sylfaenol a nodwyd yn 2019, roedd yn bwysig nodi’r cynnydd y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ei wneud. Gwnaethom gynnal gweithgareddau casglu tystiolaeth tebyg i’r rhai yn ein hadolygiad blaenorol. Yn unol â’r gofynion parhaus i gadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau ar ein gwaith archwilio ac arolygu ar y safle ar adeg y gwaith maes, bu'n rhaid cwblhau ein gwaith o bell.
Drwy ein gwaith, gwnaethom ganfod bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol i fynd i’r afael â nifer o’r argymhellion er gwaethaf yr heriau y mae wedi'u hwynebu wrth ymateb i’r pandemig.
Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd ar lefel strategol a gweithredol er mwyn sicrhau bod mwy o bwyslais ar ansawdd, diogelwch cleifion a risg. Mae trefniadau i graffu ar ansawdd a diogelwch cleifion ar lefel sefydliadol wedi gwella hefyd.
Mae’r ffordd y caiff digwyddiadau, pryderon a chwynion eu rheoli wedi gwella ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau cadarnhaol i wella diwylliant sefydliadol a dysgu.
Mae’n amlwg bod yr her o ymateb i'r pandemig wedi atal cynnydd mewn rhai meysydd, gan olygu nad yw rhai camau gweithredu wedi’u cwblhau mor gyflym â’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu bod gwaith i'w wneud o hyd ym mhob un o'r meysydd lle nodwyd argymhellion yn 2019.
Ceir rhagor o fanylion am y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion unigol yn ein hadroddiad ar y cyd.
Yn wyneb y pandemig, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud llawer o waith i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn 2019. Mae mwy o bwyslais ar ansawdd, diogelwch cleifion a risg ynghyd â chryn ymrwymiad, ysgogiad a brwdfrydedd ymhlith y staff ac awydd clir i wneud pethau'n iawn. Mae angen cynnal yr egni hwn er mwyn ymgorffori'r gwaith a wnaed hyd yma, ac adeiladu arno.
Mae adroddiad dilynol heddiw yn cydnabod y gwaith pwysig y mae'r Bwrdd Iechyd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gennym mewn perthynas â llywodraethu a diwylliant sefydliadol yn ôl yn 2019. Mae'r camau gweithredu a gymerwyd yn golygu y dylai'r Bwrdd Iechyd fod mewn sefyllfa well nawr i nodi unrhyw broblemau a all godi o ran ansawdd a diogelwch gofal y cleifion, ac ymateb iddynt. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud o hyd ac mae'n bwysig y cynhelir y momentwm yng nghyd-destun yr heriau ehangach a fydd yn ein hwynebu wrth i ni ddechrau adfer yn sgil y pandemig.