Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio’r arolwg FyNgheredigion – ac yn gwahodd pobl sy’n byw yn y Sir i ddweud eu dweud
Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru arolwg newydd sy’n gofyn i drigolion Ceredigion roi eu barn ar gyflawniad y Cyngor.
Mae modd cwblhau’r arolwg ar-lein yn gyflym a hwylus a’r bwriad yw casglu barn dinasyddion lleol ar flaenoriaethau’r cyngor mewn meysydd penodol ac ar y pethau sydd wedi newid; ydyn nhw’n credu bod rhai meysydd gwasanaeth wedi gwella, gwaethygu neu aros yr un fath – a beth sydd angen ei wella.
Bydd modd cwblhau’r arolwg trwy gydol mis Chwefror a Mawrth a bydd archwilwyr yn crynhoi’r canlyniadau fel rhan o adolygiad asesu corfforaethol o’r awdurdod lleol. Bydd yr adborth a ddaw o’r arolwg yn cael ei ddefnyddio i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae modd gweld arolwg FyNgheredigion [Agorir mewn ffenets newydd].
Dywed Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:
Er mwyn cael gwybod yn iawn sut mae cyngor yn cyflawni, mae angen i ni ofyn i’r bobl hynny y mae’r awdurdod yn eu gwasanaethu a’u cefnogi. Mae’n bwysig ein bod yn clywed barn pobl Ceredigion ac rwy’n annog cynifer â phosibl o bobl Ceredigion i lenwi’r arolwg ar-lein er mwyn helpu i lywio fy adolygiad o ddarpariaethau gwasanaeth y Cyngor a’i gynlluniau ar gyfer gwella.