Apwyntiad Archwilydd Cyffredinol newydd

09 Tachwedd 2020
  • Edrychwn ymlaen at groesawu Adrian Crompton i’w swydd newydd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dilyn pleidlais Aelodau’r Cynulliad i gefnogi ei enwebiad yn ystod Cyfarfod Llawn heddiw.

    Golyga hyn bod y broses recriwtio yn parhau i’r cam nesaf, sef apwyntiad ffurfiol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines.

    Bydd Adrian Crompton, sy’n gweithio fel Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn camu mewn i le Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol presennol, sy’n ymddeol fis Gorffennaf.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

    “Rwy’n falch o glywed bod enwebiad Adrian Crompton wedi’i basio ar gyfer cymeradwyaeth gan y Frenhines. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Adrian a chydweithwyr i sicrhau pontio esmwyth wrth i mi drosglwyddo’r awenau ym mis Gorffennaf. Rwy’n dymuno pob dymuniad gorau i Adrian mewn swydd freintiedig, heriol a chyffrous yng Nghymru.”

    Dywedodd Isobel Garner, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, heddiw:

    “Rydym wir yn edrych ymlaen at groesawu Adrian i’r swydd yn yr haf. Rwy’n hyderus y gall Adrian adeiladu ar waddol Huw Vaughan Thomas a pharhau i drawsnewid archwilio allanol yng Nghymru fel ei bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau cyhoeddus a bywydau pobl.”

    Adrian Crompton