Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae gan yr Ymddiriedolaeth nodau digidol eglur, a ategir gan arweinyddiaeth a llywodraethu da. Fodd bynnag, nid yw’r Strategaeth Digidol a Data na’r map trywydd yn cynnwys cerrig milltir, manylion adnoddau, na gwybodaeth am atebolrwydd. Mae adroddiadau am gynnydd yn aml yn rhai lefel uchel. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd tracio cynnydd a chanfod achosion o oedi.

    Mae gan y Bwrdd olwg resymol ar risgiau digidol strategol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cymryd camau i gryfhau’r seilwaith a threfniadau seiberddiogelwch, er bod seiberddiogelwch yn dal i fod yn risg uchel. Mae defnydd yr Ymddiriedolaeth o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn cam cynnar o ran ei ddatblygiad ac mae ei sicrwydd ynghylch y maes hwn yn dal i ddatblygu. O ganlyniad, mae adroddiadau ar gyfer pwyllgorau’n canolbwyntio ar risgiau yn hytrach na sut y defnyddir Deallusrwydd Artiffisial yn ymarferol.

    Mae’r Ymddiriedolaeth yn buddsoddi mewn sgiliau digidol arbenigol ac mae wedi cryfhau ei thimau digidol canolog. Ond nid oes ganddi olwg gyson eto ar sgiliau digidol ar draws yr Ymddiriedolaeth. Mae datblygiad sgiliau ar draws yr Ymddiriedolaeth yn anghyfartal hefyd. Mae hyn yn cyfyngu ar gynllunio’r gweithlu ac fe allai arafu newid digidol.

    Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni ystod o brosiectau digidol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae defnyddwyr gwasanaethau’n cael eu cynnwys wrth ddatblygu prosiectau digidol. Mae wedi mabwysiadu Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru ac mae’n dal i fod yn ymrwymedig i gynhwysiant digidol, ond mae angen iddi ddisgrifio ei dull yn well i roi arweiniad ar gyfer gwaith yn y maes hwn.

    Mae’r Ymddiriedolaeth yn defnyddio digidol i gefnogi gwasanaethau, ond mae sicrwydd yn cael ei wanhau gan ansicrwydd ynghylch cyllid, pwysau ar gapasiti, a dibyniaeth ar raglenni cenedlaethol. Mae gwerthuso anghyson yn ei gwneud hi’n anodd dangos sut y mae gwaith digidol yn gwella gwasanaethau a ffyrdd o weithio.

CAPTCHA