Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’n nodi deddfwriaeth, polisi, strategaeth, trefniadau llywodraethu a monitro Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig sy’n berthnasol i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.

    Mae sawl nod i’r gwaith yma:

    • Disgrifio sut y mae’r cyfrifoldebau a’r pwerau ar gyfer cyrraedd y targed sero net wedi’u rhannu rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r llywodraethau datganoledig
    • Darparu mewnwelediad ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus am ddull cyffredinol pob un o wledydd y DU ar gyfer cyflawni sero net.
    • Rhoi cymorth i graffu ar drefniadau’r llywodraethau i gyflawni sero net.
    • Gosod y sylfeini ar gyfer gwaith pellach posibl ar newid hinsawdd gan swyddfeydd archwilio cyhoeddus y DU

    Mae newid hinsawdd yn un o heriau diffiniol ein cenhedlaeth. Rhaid i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig weithredu ar y cyd i gyflawni eu hamcan i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ledled y DU i ‘sero net’ erbyn 2050. Mae’r pwerau y mae eu hangen i wneud hyn yn nwylo Llywodraeth y DU (pwerau a gedwir) a llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (pwerau datganoledig). Wrth fwrw golwg ledled y DU, rydym wedi adnabod pedair thema allweddol.

    ,
    Mae gan y pedair gwlad broffiliau allyriadau gwahanol a dulliau amrywiol o gyflawni sero net, ond yn y pen draw rhaid i’r dewisiadau a wnânt gyflawni sero net ar lefel y DU. O ystyried y gwahanol dargedau sero net, cyllidebau carbon a pholisïau ar draws y gwledydd, bydd cyfleoedd i’r llywodraethau ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae cyflawni sero net mewn unrhyw wlad unigol yn dibynnu ar weithredu ar lefel y DU, ac mae’r un peth yn wir fel arall hefyd. Bydd perthnasoedd gweithio effeithiol ac ymgysylltu clos rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn hollbwysig i gyrraedd y nod o ran sero net ar y cyfan.
CAPTCHA