Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae pethau'n poethi i fynd i'r afael â newid hinsawdd

18 Awst 2022
  • Bum wythnos ers i ni weld y tymereddau uchaf yng Nghymru ac mae pethau’n poethi i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

    Bum wythnos ers i ni weld y tymereddau uchaf yng Nghymru ac mae pethau’n poethi i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

    Mae data o’r Swyddfa Dywydd [agor mewn ffenest newydd] yn dangos bod lefelau’r môr yn codi llawer yn gynt na chanrif yn ôl, ac mae’r adroddiad y gwnaethom ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf yn dangos bod angen gweithredu’n gynt i leihau allyriadau carbon yn sector cyhoeddus Cymru.

    Dyma’n hail adroddiad o’n hadolygiad sylfaen ar ddatgarboneiddio, lle gwnaethom ganmol Llywodraeth Cymru am ddangos arweiniad ym maes datgarboneiddio. Mae wedi pennu uchelgais ymestynnol ar y cyd i gyflawni sector sero net erbyn 2030, wedi sefydlu portffolio Gweinidogol newydd ac wedi cyhoeddi map ffyrdd i gyrff cyhoeddus ei ddilyn.

    Ond rydym hefyd yn galw am fwy o eglurder ynglŷn â’r uchelgais i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Ar yr un pryd â gweithio tuag at sero net erbyn 2030, mae’r GIG yng Nghymru {fel y nodir yn Data ac argymhellion Sero Net Sector Cyhoeddus [agor mewn ffenest newydd], cynhyrchodd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd 1,134,000 tunnell o CO2 o’i gymharu â chyfanswm o 3,279,000 tunnell a gynhyrchwyd gan y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn 2020-21}, wedi gosod targed llai ymestynnol i’w hun o leihad o 34% erbyn 2030. Mae’r sector iechyd yn allyrru tua thraean o allyriadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru  felly os oedd y GIG am gyflawni gostyngiad o 34% yn unig, byddai’n ei gwneud yn sylweddol anoddach i gyflawni sefyllfa sero net gyffredinol ar draws y sector cyhoeddus.

    Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu cyflymdra’r newid drwy wneud 5 galwad i weithredu:

    • cryfhau eich arweinyddiaeth a dangos eich cyfrifoldeb ar y cyd drwy gydweithredu effeithiol
    • egluro’ch cyfeiriad strategol a chynyddu cyflymdra eich gweithredu
    • deall y cyllid sydd ei angen arnoch
    • gwybod eich bylchau sgiliau a chynyddu’ch capasiti
    • gwella ansawdd data a monitro i gefnogi’ch penderfyniadau

    Rydym wedi ymrwymo i raglen waith hirdymor ar newid hinsawdd a nawr rydym yn meddwl am feysydd posibl i ganolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf. Mae rhai o’r opsiynau’n cynnwys adolygu gwaith addasu (archwilio parodrwydd y sector cyhoeddus ar gyfer effeithiau newid hinsawdd), ymchwiliad manwl i warian y sector cyhoeddus ar weithredu ar newid hinsawdd, neu adolygiad o gywirdeb data allyriadau newid hinsawdd.

    Os oes gennych unrhyw sylwadau am fanteision ac anfanteision y syniadau hyn, neu os oes gennych syniadau eraill ar gyfer gwaith archwilio yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn newid.hinsawdd@archwilio.cymru.