Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ein hadroddiad ar Seibergadernid a pham nad ydym yn ei gyhoeddi

14 Ionawr 2021
  • Gwnaethom y penderfyniad hwn yn dilyn cyngor gan arbenigwyr ym maes seiberddiogelwch

    Mae seiber-ymosodiadau yn fygythiad cyffredin a chynyddol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn sicrhau nad ydym yn cynyddu lefel y bygythiad mewn unrhyw ffordd, rydym wedi penderfynu peidio â chyhoeddi ein hadroddiad ar seiberddiogelwch.

    Rydym wedi cymryd y cam anarferol hwn oherwydd y cyngor arbenigol a gawsom sy'n awgrymu bod perygl y bydd ein hadroddiad yn ysgogi ymosodiad seiber ar gyrff cyhoeddus Cymru.

    Serch hynny, rydym yn dal yn benderfynol o gael ein hadroddiad o flaen y rhai sydd ei angen fwyaf. Felly, rydym wedi dosbarthu'r adroddiad yn ddiogel ac yn gyfrinachol i uwch arweinwyr cyrff cyhoeddus. A byddwn yn chwilio am gyfleoedd eraill i rannu'r hyn a ddysgwyd o'n gwaith drwy ei gyflwyno mewn gwahanol fforymau.

    ,
    Nod ein gwaith yw sicrhau bod uwch-benderfynwyr yn llwyr ymwybodol am bwysigrwydd hanfodol seiberddiogelwch. Y gobaith yw y bydd yr adroddiad yn eu helpu i fyfyrio ar eu trefniadau sefydliadol, yn ogystal â'u cyfrifoldebau personol, o gofio bod y cyfrifoldeb arnyn nhw yn y pen draw.
    ,

    Ein prif ganfyddiadau yw bod seiber-ymosodiadau yn fygythiad cyffredin a chynyddol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ac mae lle i gryfhau cydnerthedd drwy gyfrifoldebau cliriach, gwell cynllunio a mwy o ymwybyddiaeth a sgiliau.

    Mae ein hadroddiad yn rhoi llawer mwy o fanylion na hynny ac yn cyfeirio cyrff cyhoeddus at ffynonellau allweddol o arfer da. Rhannwyd gwybodaeth ddefnyddiol arall am arfer da yn ystod gweminar a gynhaliwyd gennym ar seiberddiogelwch ym mis Medi. Edrychwch ar ein blog am fwy o wybodaeth ac i gael mynediad i'n recordiad.

    Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn ac os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch â Stephen Lisle – stephen.lisle@archwilio.cymru.