Adam Marshall

Headshot photograph of Adam Marshall

Ganwyd Adam ym Mryste ond treuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yn Abertawe, ar ôl symud yno fel plentyn. Enillodd radd baglor mewn hanes o Brifysgol Caerdydd yn 2012 ac ymunodd ag Archwilio Cymru fel hyfforddai archwilio ar ôl graddio. 

Yn ystod ei gyfnod gyda'r sefydliad mae Adam wedi cymhwyso fel cyfrifydd siartredig gyda'r ICAEW ac wedi gweithio ar draws nifer o brosiectau archwilio ariannol a pherfformiad o fewn y Gwasanaethau Archwilio. Ar hyn o bryd mae'n Archwilydd Arweiniol sy'n gyfrifol am gynnal amrywiaeth o archwiliadau ariannol. Penodwyd Adam yn aelod etholedig sy’n gyflogai o'r bwrdd ym mis Gorffennaf 2021. 

Ar hyn o bryd mae Adam yn byw tua deng milltir y tu allan i Gaerdydd gyda'i wraig, ei fab a'i ddau gi. Mae'n mwynhau gwylio'r rhan fwyaf o chwaraeon (cefnogi West Ham United) a chadw'n heini ac yn egnïol drwy redeg, beicio a defnyddio ei gampfa gartref.