Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cefnogi pobl Wcráin yng Nghymru - adroddiad cryno

Casgliad ar y cyfan

Ar y cyfan, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gyda phartneriaid mewn amgylchiadau anodd i letya a chefnogi Wcreiniaid. Fodd bynnag, trwy gadw'r cynllun uwch noddwr ar agor tan fis Mehefin 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi'r 1,000 o newydd-ddyfodiaid y dywedodd y byddai’n eu cefnogi yn y cyfnod cychwynnol. Fe wnaeth hyn er gwaethaf y posibilrwydd y byddai niferoedd sylweddol uwch o Wcreiniaid yn cyrraedd, fel a ddigwyddodd. Hefyd, roedd yn rhy optimistaidd ynghylch pa mor hir y byddai'r rhai a oedd yn cyrraedd yn aros yn eu llety cychwynnol. Fe wnaeth y materion hyn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac fe arweinion nhw at gostau uwch nag a ddisgwyliwyd i ddechrau, er gwaethaf ymdrechion i sicrhau gwerth am arian.

Ers cyfnod cychwynnol yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi cryfhau eu ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o'u llety cychwynnol. Mae'r nifer mewn llety cychwynnol wedi gostwng yn sylweddol ers yr uchafbwynt ym mis Hydref 2022.

Ffeithiau allweddol

  • 7,118 o newydd-ddyfodiaid o Wcráin gyda lletywr yng Nghymru neu drwy’r cynllun uwch noddwr rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
  • 3,886 trwy Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU a oedd yn defnyddio lletywyr unigol yn y DU rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
  • 3,232 trwy gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
  • 56% o newydd-ddyfodiaid o Wcráin trwy Gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru yn fenywod.
  • 26% dan 18 oed.
  • Cafodd oddeutu 40 o anifeiliaid anwes eu lletya trwy gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
  • 1,382 o bobl â Fisâu nad ydynt wedi teithio i’r DU eto ond sy’n dal i fod â hawl i wneud hynny dan Gynllun Uwch-Noddwr Llywodraeth Cymru o ran y sefyllfa ar 3 Hydref 2023.
  • 128 o bobl yn dal i fod mewn Canolfannau Croeso neu lety cychwynnol arall o ran y sefyllfa ym mis Ionawr 2024.
  • 9,510 o alwadau ac 16,942 o negeseuon e-bost i ganolfan gyswllt Llywodraeth Cymru i gefnogi newydd-ddyfodiaid rhwng mis Mawrth 2022 a mis Hydref 2023.
  • £61 miliwn wedi’i wario gan Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i Wcráin yn 2022-23 (heb gynnwys cyllid a gafwyd gan Lywodraeth y DU ac a drosglwyddwyd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol).
  • O leiaf £29.2 miliwn mewn cost net ar ôl ystyried cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU a gadwyd gan Lywodraeth Cymru.
  • £35.7 miliwn o gyllid wedi’i gyllidebu ar gyfer 2023-24.

Nodyn: Nid yw ffigyrau gwariant a chyllidebau’n cynnwys costau ychwanegol i gyllidebau craidd cyrff cyhoeddus, er enghraifft costau darparu gwasanaethau gofal iechyd i Wcreiniaid. Nid ydynt ychwaith yn cynnwys costau staff Llywodraeth Cymru

Negeseuon allweddol

Pan ymosododd Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022 fe wnaeth hynny achosi anafusion sifil a dinistrio seilwaith hanfodol. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn fyd-eang cofnodwyd 6.2 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o'r Wcráin.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i'r rhai a oedd yn ffoi rhag rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i'r DU. Ar adeg drafftio ein hadroddiad, roedd tri phrif lwybr y gallai pobl eu defnyddio i ddod i'r DU, neu i aros yn y DU. Roedd pob llwybr yn rhoi fisa am dair blynedd i'r Wcreiniaid hynny a gymeradwywyd:

  • Cartrefi i Wcráin – gall lletywyr unigol yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, noddi gwladolion o Wcráin ac aelodau o’u teulu agosaf.
  • Y Cynllun Teuluoedd o Wcráin – gallai gwladolion y DU a phobl a oedd yn breswylwyr sefydlog yn y DU ddod ag aelodau o'r teulu sy’n wladolion Wcráin i'r DU.
  • Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin - ar agor i wladolion o Wcráin a oedd â chaniatâd i fod yn y DU ar neu rhwng 18 Mawrth 2022 ac 16 Tachwedd 2023 neu a oedd â chaniatâd yn flaenorol i fod yn y DU a bod y caniatâd hwnnw wedi dod i ben ar neu ar ôl 1 Ionawr 2022.

[Ar 19 Chwefror 2024, fe wnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i gynlluniau'r Wcráin, gan gynnwys cau’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin i ymgeiswyr newydd a lleihau hyd y fisa ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin o dair blynedd i ddeunaw mis ar gyfer ymgeiswyr newydd. Cytunodd hefyd ar estyniad i ddeiliaid fisa presennol.]

Penderfynodd Gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn uwch noddwr Cartrefi i Wcráin. Fel uwch noddwr, roedd Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid heb iddynt orfod cael eu paru â lletywyr cyn cael fisa. Mae cynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am tua 45% o'r newydd-ddyfodiaid o Wcráin i Gymru.

Fe wnaethom ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'i phartneriaid, yn ymateb yn effeithiol i gefnogi Wcreiniaid yng Nghymru. Roedd cwmpas ein gwaith yn cynnwys y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arwain ymdrechion gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi pobl sydd wedi cyrraedd o Wcráin, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y cynllun uwch noddwr.

Fe wnaethom ystyried yr ymateb cychwynnol a sut y mae'r ymateb wedi newid dros amser. Nid oes pwynt absoliwt lle newidiodd yr ymateb o ymateb brys i fusnes fel arfer. Yn fras, rydym yn ystyried mai’r cyfnod hyd at hydref 2022 yw’r cyfnod cychwynnol. Wrth ddylunio ein gwaith, fe wnaethom gydnabod yr heriau yr oedd cyrff cyhoeddus yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfwng rhyngwladol a oedd yn symud yn gyflym.

Ni wnaethom ystyried rhinweddau penderfyniad polisi Llywodraeth Cymru i redeg y cynllun. Ni wnaethom ychwaith fwrw golwg ar bolisi mewnfudo a ffiniau, nad yw wedi'i ddatganoli. Hefyd, mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi adolygu cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, gan gyhoeddi ei hadroddiad ym mis Hydref 2023. Rydym yn disgrifio cyllid Llywodraeth y DU a drosglwyddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin ehangach. Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad ni o wariant yn canolbwyntio ar gostau sy'n gysylltiedig ag ymateb Llywodraeth Cymru trwy ei chynllun uwch noddwr.

Canfyddiadau allweddol

Cynllunio’r ymateb cychwynnol, gan gynnwys cynllunio ariannol a gwariant ar y cyfan yn 2022-23

Wrth ddatblygu'r cynllun uwch noddwr, tynnodd Llywodraeth Cymru ar wersi o bandemig COVID-19 a chynlluniau adsefydlu ffoaduriaid blaenorol. Aeth ati’n gyflym i roi tîm yn ei le, ynghyd â threfniadau penderfynu cydweithredol. Sefydlodd drefniadau i rannu data'n ddiogel, er bod rhai awdurdodau lleol wedi cael trafferth gyda'r system gychwynnol tra’r oedd Llywodraeth Cymru’n datblygu gwasanaeth rhannu data newydd.

Ym mis Mawrth 2022, cytunodd Llywodraeth Cymru i letya 1,000 o Wcreiniaid i ddechrau trwy'r cynllun uwch noddwr. Penderfynodd Gweinidogion Cymru gadw'r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau tan 10 Mehefin 2022, tua mis ar ôl i'r Swyddfa Gartref fod wedi dyroddi 1,000 o fisâu yn barod. Trwy wneud hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi'r 1,000 o bobl y dywedodd y byddai’n eu cefnogi. Roedd yn cydnabod y posibilrwydd y gallai niferoedd sylweddol uwch gyrraedd. Erbyn dechrau mis Hydref 2023, roedd 3,232 o Wcreiniaid wedi cyrraedd o dan y cynllun. Roedd gan 1,382 arall fisâu a oedd yn rhoi’r hawl i deithio i'r DU gan ddisgwyl y byddent yn cael eu lletya trwy'r cynllun.

Roedd cynllun Llywodraeth Cymru i letya’r holl Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso’n adeiladu ar brofiad blaenorol o gynlluniau adsefydlu. Fodd bynnag, roedd y dybiaeth y byddai'r Wcreiniaid yn gadael ar ôl uchafswm o 12 wythnos yn hynod optimistaidd, yn enwedig o ystyried pwysau hysbys ar dai.

Yn wreiddiol, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y byddai'n costio tua £18 miliwn i letya 1,000 o Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso. Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid, ac arosiadau hwy na'r disgwyl mewn Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall, achosi i gostau gynyddu. Yn 2022-23, gwariodd Llywodraeth Cymru £61 miliwn ar yr ymateb. Gan ystyried cyllid gan Lywodraeth y DU a gadwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn amcangyfrif bod y gost net i Lywodraeth Cymru yn 2022-23 yn £29.2 miliwn o leiaf.

Yr ymateb brys cychwynnol, gan gynnwys llety a chymorth ehangach

Sicrhaodd Llywodraeth Cymru, gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol, 12 o Ganolfannau Croeso, er na chyhoeddwyd manylion y rhan fwyaf o gontractau. Ar y cyfan, ni welsom dystiolaeth glir o ddull cydlynol o gyhoeddi manylion contractau yng nghyd-destun rheoliadau caffael a chanllawiau Llywodraeth Cymru, er bod swyddogion wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfyngu i’r eithaf ar y cyhoeddusrwydd ynghylch lleoliadau penodolFe ymaddasodd Llywodraeth Cymru i'r angen am lety pellach trwy sicrhau llety ychwanegol mewn gwestai a pharciau gwyliau. Roedd costau llety’n amrywio am wahanol resymau, ond gwelsom dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau gwerth am arian.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyllido Canolfan Gyswllt a Hybiau Cyrraedd o amgylch Cymru i gydlynu llif pobl. Bu Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn cydweithio hefyd i ddarparu amrywiaeth o gymorth i helpu Wcreiniaid o dan y cynllun uwch noddwr i ymgartrefu ac integreiddio. Fodd bynnag, bu rhai materion mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd.

Rheoli'r ymateb a'r cynlluniau yn y dyfodol yn barhaus

Ar ôl y cyfnod cychwynnol, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi cryfhau'r ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o lety cychwynnol. Trwy wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi ceisio hybu annibyniaeth a lleihau anghyfartalwch rhwng yr Wcreiniaid hynny a oedd yn cyrraedd o dan y cynllun uwch noddwr a grwpiau eraill mewn angen. Maent wedi gweithredu trwy gyfuniad o gymhellion a chreu capasiti tai ychwanegol. Yn benodol:

  • mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau gwasanaethau cofleidiol er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chymorth i grwpiau eraill mewn angen.
  • o dan bolisi gwrthodiadau a gyflwynwyd o fis Ionawr 2023, mae Wcreiniaid yn wynebu gordal os ydynt yn gwrthod dau gynnig rhesymol o lety symud ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i hybu defnydd cyson o'r polisi er ein bod wedi cael peth adborth yn codi pryderon am y modd y mae wedi bod yn cael ei gymhwyso.
  • mae Llywodraeth Cymru’n ariannu partneriaid i gaffael llety fforddiadwy ychwanegol ac mae'n annog mwy o letywyr unigol trwy ychwanegu at daliadau Llywodraeth y DU.
  • mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu cymorth ymarferol trwy awdurdodau lleol, er enghraifft i helpu gyda blaendaliadau a rhenti cychwynnol.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun ar gyfer cau Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall. Pan oedd yr ymateb ar ei anterth ym mis Hydref 2022, roedd 32 o safleoedd ar agor, yn lletya 1,840 o bobl. Erbyn mis Ionawr 2024, roedd hynny wedi gostwng i 4 safle, yn lletya 128 o bobl. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn dangos mai dim ond dau safle llety cychwynnol sydd ar agor i mewn i 2024-25.

Mae'n edrych yn debygol y bydd Llywodraeth Cymru’n gwario llai yn 2023-24 na'r gyllideb o £40 miliwn ar gyfer yr ymateb i Wcráin. Yn rhannol, mae hyn i’w briodoli i’r ffaith bod llai o Wcreiniaid yn cyrraedd nag a fodelwyd pan gafodd y gyllideb ei phennu ochr yn ochr â gostyngiadau eraill mewn costau. Ar 17 Hydref 2023, fel rhan o'i phroses ehangach i ailbennu’r gyllideb, dynododd Llywodraeth Cymru y byddai'n dargyfeirio £4.3 miliwn i flaenoriaethau eraill.

Cafodd Llywodraeth Cymru £8.2 miliwn o ganlyniad i wariant Llywodraeth y DU i atal digartrefedd ymhlith Wcreiniaid ochr yn ochr â chyllid arall gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl talu'r rhan fwyaf o gostau cyffredinol yr ymateb i Wcráin yn 2023-24 o'i chyllideb ei hun. Ar adeg drafftio'r adroddiad hwn, roedd cyllideb 2023-24 yn £35.7 miliwn er bod swyddogion yn disgwyl tanwario.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau'r gyllideb ar gyfer 2024-25 o £20 miliwn i £4.5 miliwn, heb gynnwys cymorth digartrefedd i lywodraeth leol. Fe wnaeth hynny oherwydd y nifer is-na’r-disgwyl o newydd-ddyfodiaid yn ystod 2023-24 a'r cynnydd o ran symud Wcreiniaid allan o lety cychwynnol. Mae'r sefyllfa tymor hwy ar gyfer yr Wcreiniaid yn dibynnu ar ddatblygiadau a phenderfyniadau ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Bydd fisâu tair blynedd y rhan fwyaf o Wcreiniaid o dan y cynllun uwch noddwr yn dod i ben rhwng Ebrill 2025 a diwedd Mehefin 2025. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2024 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y gall Wcreiniaid wneud cais am estyniad o 18 mis o dan Gynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin.

Mae unrhyw benderfyniadau pellach gan Lywodraeth y DU ynglŷn â fisâu a chyllid yn y dyfodol yn debygol o fod â goblygiadau ar gyfer y cymorth parhaus a roddir i Wcreiniaid yng Nghymru. Efallai y bydd gwaith hefyd i wasanaethau cyhoeddus Cymru a phartneriaid i gefnogi'r broses ailwladoli unwaith y bydd yn ddiogel i Wcreiniaid ddychwelyd.

Rwy'n cydnabod yr ymdrechion sylweddol y bu’n rhaid eu gwneud wrth i wasanaethau cyhoeddus Cymru a'u partneriaid ymateb i letya a chefnogi pobl a fu’n cyrraedd o Wcráin. Roedd hyn i gyd ar adeg pan fo gwasanaethau wedi bod yn ymgodymu â gwaddol y pandemig a phwysau ehangach ar adnoddau. Bydd angen i'r gwaith barhau yng nghyd-destun prosesau penderfynu ehangach Llywodraeth y DU a chwrs digwyddiadau yn Wcráin. Mae'n dda gallu myfyrio'n gadarnhaol ynghylch y modd y cafodd yr ymateb o dan gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru ei reoli ar y cyfan. Serch hynny, mae gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ynghylch asesiad cynnar Llywodraeth Cymru o nifer y newydd-ddyfodiaid, y ffordd y byddent yn cael eu lletya, a'r costau a fyddai’n codi o'r ymateb. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Argymhellion

Cynllunio ar gyfer ymatebion tebyg yn y dyfodol

Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chynnal cynlluniau wrth gefn y gall eu defnyddio os yw'n penderfynu gweithredu cynllun tebyg i letya ffoaduriaid yn y dyfodol. Dylai'r rhain gymhwyso gwersi a ddysgwyd o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn a allai fod wedi mynd yn well ar gyfer yr ymateb i Wcráin, gan gynnwys:

  • defnyddio'r Ganolfan Gyswllt, Hybiau Cyrraedd a Chanolfannau Croeso;
  • bod ag arlwy glir i ffoaduriaid sy'n ystyried cynlluniau adsefydlu eraill;
  • dulliau ar gyfer asesu anghenion o safbwynt defnyddwyr gwasanaethau;
  • dulliau ar gyfer modelu’r galw, capasiti a chostau yn gynnar;
  • trefniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt gyda phartneriaid ymlaen llaw ac y gellir eu sefydlu'n gyflym; a
  • gofynion data cytunedig a dull cytunedig ar gyfer rhannu data o'r cychwyn cyntaf.

Tryloywder ynglŷn â chaffael

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a diweddaru canllawiau perthnasol er mwyn:

  • ei gwneud yn glir y dylai penderfyniadau i beidio â chyhoeddi Hysbysiadau Dyfarnu Contract, a'r rhesymeg dros hynny, gael eu cofnodi’n llawn ar y pryd; a
  • hybu dull cyson o gyhoeddi, neu beidio â chyhoeddi, hysbysiadau lle mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid i gaffael nwyddau neu wasanaethau.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i adolygu pa un a ddylid cyhoeddi Hysbysiadau Dyfarnu Contract yn ôl-weithredol ar gyfer Canolfannau Croeso sydd wedi cau.

Cymhwyso'r polisi gwrthodiadau

Dylai Llywodraeth Cymru ganfod a yw awdurdodau lleol yn defnyddio'r polisi gwrthodiadau’n gyson i gefnogi’r broses symud ymlaen gan sicrhau triniaeth deg ar gyfer Wcreiniaid mewn llety cychwynnol, ni waeth beth fo'u lleoliad.

Adroddiad Cysylltiedig

Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru

View more
  • Rwy'n cydnabod yr ymdrechion sylweddol y bu’n rhaid eu gwneud wrth i wasanaethau cyhoeddus Cymru a'u partneriaid ymateb i letya a chefnogi pobl a fu’n cyrraedd o Wcráin. Roedd hyn i gyd ar adeg pan fo gwasanaethau wedi bod yn ymgodymu â gwaddol y pandemig a phwysau ehangach ar adnoddau. Bydd angen i'r gwaith barhau yng nghyd-destun prosesau penderfynu ehangach Llywodraeth y DU a chwrs digwyddiadau yn Wcráin. Mae'n dda gallu myfyrio'n gadarnhaol ynghylch y modd y cafodd yr ymateb o dan gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru ei reoli ar y cyfan. Serch hynny, mae gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ynghylch asesiad cynnar Llywodraeth Cymru o nifer y newydd-ddyfodiaid, y ffordd y byddent yn cael eu lletya, a'r costau a fyddai’n codi o'r ymateb. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
  •  

    Argymhellion

    Cynllunio ar gyfer ymatebion tebyg yn y dyfodol

    Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chynnal cynlluniau wrth gefn y gall eu defnyddio os yw'n penderfynu gweithredu cynllun tebyg i letya ffoaduriaid yn y dyfodol. Dylai'r rhain gymhwyso gwersi a ddysgwyd o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn a allai fod wedi mynd yn well ar gyfer yr ymateb i Wcráin, gan gynnwys:

    • defnyddio'r Ganolfan Gyswllt, Hybiau Cyrraedd a Chanolfannau Croeso;
    • bod ag arlwy glir i ffoaduriaid sy'n ystyried cynlluniau adsefydlu eraill;
    • dulliau ar gyfer asesu anghenion o safbwynt defnyddwyr gwasanaethau;
    • dulliau ar gyfer modelu’r galw, capasiti a chostau yn gynnar;
    • trefniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt gyda phartneriaid ymlaen llaw ac y gellir eu sefydlu'n gyflym; a
    • gofynion data cytunedig a dull cytunedig ar gyfer rhannu data o'r cychwyn cyntaf.

    Tryloywder ynglŷn â chaffael

    Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a diweddaru canllawiau perthnasol er mwyn:

    • ei gwneud yn glir y dylai penderfyniadau i beidio â chyhoeddi Hysbysiadau Dyfarnu Contract, a'r rhesymeg dros hynny, gael eu cofnodi’n llawn ar y pryd; a
    • hybu dull cyson o gyhoeddi, neu beidio â chyhoeddi, hysbysiadau lle mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid i gaffael nwyddau neu wasanaethau.

    Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i adolygu pa un a ddylid cyhoeddi Hysbysiadau Dyfarnu Contract yn ôl-weithredol ar gyfer Canolfannau Croeso sydd wedi cau.

    Cymhwyso'r polisi gwrthodiadau

    Dylai Llywodraeth Cymru ganfod a yw awdurdodau lleol yn defnyddio'r polisi gwrthodiadau’n gyson i gefnogi’r broses symud ymlaen gan sicrhau triniaeth deg ar gyfer Wcreiniaid mewn llety cychwynnol, ni waeth beth fo'u lleoliad.

  • Canfyddiadau allweddol

    Cynllunio’r ymateb cychwynnol, gan gynnwys cynllunio ariannol a gwariant ar y cyfan yn 2022-23

    Wrth ddatblygu'r cynllun uwch noddwr, tynnodd Llywodraeth Cymru ar wersi o bandemig COVID-19 a chynlluniau adsefydlu ffoaduriaid blaenorol. Aeth ati’n gyflym i roi tîm yn ei le, ynghyd â threfniadau penderfynu cydweithredol. Sefydlodd drefniadau i rannu data'n ddiogel, er bod rhai awdurdodau lleol wedi cael trafferth gyda'r system gychwynnol tra’r oedd Llywodraeth Cymru’n datblygu gwasanaeth rhannu data newydd.

    Ym mis Mawrth 2022, cytunodd Llywodraeth Cymru i letya 1,000 o Wcreiniaid i ddechrau trwy'r cynllun uwch noddwr. Penderfynodd Gweinidogion Cymru gadw'r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau tan 10 Mehefin 2022, tua mis ar ôl i'r Swyddfa Gartref fod wedi dyroddi 1,000 o fisâu yn barod. Trwy wneud hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi'r 1,000 o bobl y dywedodd y byddai’n eu cefnogi. Roedd yn cydnabod y posibilrwydd y gallai niferoedd sylweddol uwch gyrraedd. Erbyn dechrau mis Hydref 2023, roedd 3,232 o Wcreiniaid wedi cyrraedd o dan y cynllun. Roedd gan 1,382 arall fisâu a oedd yn rhoi’r hawl i deithio i'r DU gan ddisgwyl y byddent yn cael eu lletya trwy'r cynllun.

    Roedd cynllun Llywodraeth Cymru i letya’r holl Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso’n adeiladu ar brofiad blaenorol o gynlluniau adsefydlu. Fodd bynnag, roedd y dybiaeth y byddai'r Wcreiniaid yn gadael ar ôl uchafswm o 12 wythnos yn hynod optimistaidd, yn enwedig o ystyried pwysau hysbys ar dai.

    Yn wreiddiol, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y byddai'n costio tua £18 miliwn i letya 1,000 o Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso. Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid, ac arosiadau hwy na'r disgwyl mewn Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall, achosi i gostau gynyddu. Yn 2022-23, gwariodd Llywodraeth Cymru £61 miliwn ar yr ymateb. Gan ystyried cyllid gan Lywodraeth y DU a gadwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn amcangyfrif bod y gost net i Lywodraeth Cymru yn 2022-23 yn £29.2 miliwn o leiaf.

    Yr ymateb brys cychwynnol, gan gynnwys llety a chymorth ehangach

    Sicrhaodd Llywodraeth Cymru, gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol, 12 o Ganolfannau Croeso, er na chyhoeddwyd manylion y rhan fwyaf o gontractau. Ar y cyfan, ni welsom dystiolaeth glir o ddull cydlynol o gyhoeddi manylion contractau yng nghyd-destun rheoliadau caffael a chanllawiau Llywodraeth Cymru, er bod swyddogion wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfyngu i’r eithaf ar y cyhoeddusrwydd ynghylch lleoliadau penodolFe ymaddasodd Llywodraeth Cymru i'r angen am lety pellach trwy sicrhau llety ychwanegol mewn gwestai a pharciau gwyliau. Roedd costau llety’n amrywio am wahanol resymau, ond gwelsom dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau gwerth am arian.

    Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyllido Canolfan Gyswllt a Hybiau Cyrraedd o amgylch Cymru i gydlynu llif pobl. Bu Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn cydweithio hefyd i ddarparu amrywiaeth o gymorth i helpu Wcreiniaid o dan y cynllun uwch noddwr i ymgartrefu ac integreiddio. Fodd bynnag, bu rhai materion mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd.

    Rheoli'r ymateb a'r cynlluniau yn y dyfodol yn barhaus

    Ar ôl y cyfnod cychwynnol, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi cryfhau'r ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o lety cychwynnol. Trwy wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi ceisio hybu annibyniaeth a lleihau anghyfartalwch rhwng yr Wcreiniaid hynny a oedd yn cyrraedd o dan y cynllun uwch noddwr a grwpiau eraill mewn angen. Maent wedi gweithredu trwy gyfuniad o gymhellion a chreu capasiti tai ychwanegol. Yn benodol:

    • mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau gwasanaethau cofleidiol er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chymorth i grwpiau eraill mewn angen.
    • o dan bolisi gwrthodiadau a gyflwynwyd o fis Ionawr 2023, mae Wcreiniaid yn wynebu gordal os ydynt yn gwrthod dau gynnig rhesymol o lety symud ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i hybu defnydd cyson o'r polisi er ein bod wedi cael peth adborth yn codi pryderon am y modd y mae wedi bod yn cael ei gymhwyso.
    • mae Llywodraeth Cymru’n ariannu partneriaid i gaffael llety fforddiadwy ychwanegol ac mae'n annog mwy o letywyr unigol trwy ychwanegu at daliadau Llywodraeth y DU.
    • mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu cymorth ymarferol trwy awdurdodau lleol, er enghraifft i helpu gyda blaendaliadau a rhenti cychwynnol.

    Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun ar gyfer cau Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall. Pan oedd yr ymateb ar ei anterth ym mis Hydref 2022, roedd 32 o safleoedd ar agor, yn lletya 1,840 o bobl. Erbyn mis Ionawr 2024, roedd hynny wedi gostwng i 4 safle, yn lletya 128 o bobl. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn dangos mai dim ond dau safle llety cychwynnol sydd ar agor i mewn i 2024-25.

    Mae'n edrych yn debygol y bydd Llywodraeth Cymru’n gwario llai yn 2023-24 na'r gyllideb o £40 miliwn ar gyfer yr ymateb i Wcráin. Yn rhannol, mae hyn i’w briodoli i’r ffaith bod llai o Wcreiniaid yn cyrraedd nag a fodelwyd pan gafodd y gyllideb ei phennu ochr yn ochr â gostyngiadau eraill mewn costau. Ar 17 Hydref 2023, fel rhan o'i phroses ehangach i ailbennu’r gyllideb, dynododd Llywodraeth Cymru y byddai'n dargyfeirio £4.3 miliwn i flaenoriaethau eraill.

    Cafodd Llywodraeth Cymru £8.2 miliwn o ganlyniad i wariant Llywodraeth y DU i atal digartrefedd ymhlith Wcreiniaid ochr yn ochr â chyllid arall gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl talu'r rhan fwyaf o gostau cyffredinol yr ymateb i Wcráin yn 2023-24 o'i chyllideb ei hun. Ar adeg drafftio'r adroddiad hwn, roedd cyllideb 2023-24 yn £35.7 miliwn er bod swyddogion yn disgwyl tanwario.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau'r gyllideb ar gyfer 2024-25 o £20 miliwn i £4.5 miliwn, heb gynnwys cymorth digartrefedd i lywodraeth leol. Fe wnaeth hynny oherwydd y nifer is-na’r-disgwyl o newydd-ddyfodiaid yn ystod 2023-24 a'r cynnydd o ran symud Wcreiniaid allan o lety cychwynnol. Mae'r sefyllfa tymor hwy ar gyfer yr Wcreiniaid yn dibynnu ar ddatblygiadau a phenderfyniadau ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Bydd fisâu tair blynedd y rhan fwyaf o Wcreiniaid o dan y cynllun uwch noddwr yn dod i ben rhwng Ebrill 2025 a diwedd Mehefin 2025. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2024 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y gall Wcreiniaid wneud cais am estyniad o 18 mis o dan Gynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin.

    Mae unrhyw benderfyniadau pellach gan Lywodraeth y DU ynglŷn â fisâu a chyllid yn y dyfodol yn debygol o fod â goblygiadau ar gyfer y cymorth parhaus a roddir i Wcreiniaid yng Nghymru. Efallai y bydd gwaith hefyd i wasanaethau cyhoeddus Cymru a phartneriaid i gefnogi'r broses ailwladoli unwaith y bydd yn ddiogel i Wcreiniaid ddychwelyd.

  • Negeseuon allweddol

    Pan ymosododd Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022 fe wnaeth hynny achosi anafusion sifil a dinistrio seilwaith hanfodol. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn fyd-eang cofnodwyd 6.2 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o'r Wcráin.

    Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i'r rhai a oedd yn ffoi rhag rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i'r DU. Ar adeg drafftio ein hadroddiad, roedd tri phrif lwybr y gallai pobl eu defnyddio i ddod i'r DU, neu i aros yn y DU. Roedd pob llwybr yn rhoi fisa am dair blynedd i'r Wcreiniaid hynny a gymeradwywyd:

    • Cartrefi i Wcráin – gall lletywyr unigol yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, noddi gwladolion o Wcráin ac aelodau o’u teulu agosaf.
    • Y Cynllun Teuluoedd o Wcráin – gallai gwladolion y DU a phobl a oedd yn breswylwyr sefydlog yn y DU ddod ag aelodau o'r teulu sy’n wladolion Wcráin i'r DU.
    • Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin - ar agor i wladolion o Wcráin a oedd â chaniatâd i fod yn y DU ar neu rhwng 18 Mawrth 2022 ac 16 Tachwedd 2023 neu a oedd â chaniatâd yn flaenorol i fod yn y DU a bod y caniatâd hwnnw wedi dod i ben ar neu ar ôl 1 Ionawr 2022.

    [Ar 19 Chwefror 2024, fe wnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i gynlluniau'r Wcráin, gan gynnwys cau’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin i ymgeiswyr newydd a lleihau hyd y fisa ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin o dair blynedd i ddeunaw mis ar gyfer ymgeiswyr newydd. Cytunodd hefyd ar estyniad i ddeiliaid fisa presennol.]

    Penderfynodd Gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn uwch noddwr Cartrefi i Wcráin. Fel uwch noddwr, roedd Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid heb iddynt orfod cael eu paru â lletywyr cyn cael fisa. Mae cynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am tua 45% o'r newydd-ddyfodiaid o Wcráin i Gymru.

    Fe wnaethom ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'i phartneriaid, yn ymateb yn effeithiol i gefnogi Wcreiniaid yng Nghymru. Roedd cwmpas ein gwaith yn cynnwys y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arwain ymdrechion gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi pobl sydd wedi cyrraedd o Wcráin, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y cynllun uwch noddwr.

    Fe wnaethom ystyried yr ymateb cychwynnol a sut y mae'r ymateb wedi newid dros amser. Nid oes pwynt absoliwt lle newidiodd yr ymateb o ymateb brys i fusnes fel arfer. Yn fras, rydym yn ystyried mai’r cyfnod hyd at hydref 2022 yw’r cyfnod cychwynnol. Wrth ddylunio ein gwaith, fe wnaethom gydnabod yr heriau yr oedd cyrff cyhoeddus yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfwng rhyngwladol a oedd yn symud yn gyflym.

    Ni wnaethom ystyried rhinweddau penderfyniad polisi Llywodraeth Cymru i redeg y cynllun. Ni wnaethom ychwaith fwrw golwg ar bolisi mewnfudo a ffiniau, nad yw wedi'i ddatganoli. Hefyd, mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi adolygu cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, gan gyhoeddi ei hadroddiad ym mis Hydref 2023. Rydym yn disgrifio cyllid Llywodraeth y DU a drosglwyddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin ehangach. Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad ni o wariant yn canolbwyntio ar gostau sy'n gysylltiedig ag ymateb Llywodraeth Cymru trwy ei chynllun uwch noddwr.

  • Ffeithiau allweddol

    • 7,118 o newydd-ddyfodiaid o Wcráin gyda lletywr yng Nghymru neu drwy’r cynllun uwch noddwr rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
    • 3,886 trwy Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU a oedd yn defnyddio lletywyr unigol yn y DU rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
    • 3,232 trwy gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
    • 56% o newydd-ddyfodiaid o Wcráin trwy Gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru yn fenywod.
    • 26% dan 18 oed.
    • Cafodd oddeutu 40 o anifeiliaid anwes eu lletya trwy gynllun uwch noddwr Llywodraeth Cymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 3 Hydref 2023.
    • 1,382 o bobl â Fisâu nad ydynt wedi teithio i’r DU eto ond sy’n dal i fod â hawl i wneud hynny dan Gynllun Uwch-Noddwr Llywodraeth Cymru o ran y sefyllfa ar 3 Hydref 2023.
    • 128 o bobl yn dal i fod mewn Canolfannau Croeso neu lety cychwynnol arall o ran y sefyllfa ym mis Ionawr 2024.
    • 9,510 o alwadau ac 16,942 o negeseuon e-bost i ganolfan gyswllt Llywodraeth Cymru i gefnogi newydd-ddyfodiaid rhwng mis Mawrth 2022 a mis Hydref 2023.
    • £61 miliwn wedi’i wario gan Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i Wcráin yn 2022-23 (heb gynnwys cyllid a gafwyd gan Lywodraeth y DU ac a drosglwyddwyd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol).
    • O leiaf £29.2 miliwn mewn cost net ar ôl ystyried cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU a gadwyd gan Lywodraeth Cymru.
    • £35.7 miliwn o gyllid wedi’i gyllidebu ar gyfer 2023-24.

    Nodyn: Nid yw ffigyrau gwariant a chyllidebau’n cynnwys costau ychwanegol i gyllidebau craidd cyrff cyhoeddus, er enghraifft costau darparu gwasanaethau gofal iechyd i Wcreiniaid. Nid ydynt ychwaith yn cynnwys costau staff Llywodraeth Cymru

  • Adroddiad Cysylltiedig

    Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru

    View more
  • Casgliad ar y cyfan