
-
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth…
-
Cyngor Gwynedd – Diweddariad ar Gynnydd Datgarboneiddio
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Adolygiad Sicrwydd ac Asesu Risg
-
Cynllun Ffioedd 2023-24
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot – Asesiad Sicrwydd a Risg 2021-22 –…
Mae hyn yn rhan o gyfres o adroddiadau cryno sy'n edrych ar ddarlun o wasanaethau cyhoeddus.
Ar ôl cyhoeddi adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau cryno sy'n benodol i'r sector.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth allweddol am addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.
Mae'n archwilio gallu, perfformiad, cyllido, ac yn amlinellu rhai o'r materion neu heriau allweddol.
Mae pandemig COVID-19 wedi golygu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n eu darparu. Mewn addysg uwch ac addysg bellach, mae staff a myfyrwyr wedi gorfod addasu i heriau dysgu ar-lein ac addysgu wyneb yn wyneb mewn amgylcheddau sy'n ddiogel rhag COVID.
Yr hyn a ganfuwyd gennym
Gwelsombedwar prif fater mewnaddysg uwch ac addysg bellach:
- Mae colegau a phrifysgolion yn wynebu pwysau ariannol o ganlyniad i COVID-19 a phensiynau.
- Mae Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn wynebu heriau o ran rheoli rhai o ganlyniadau parhaus Brexit. Mae'r rhain yn cynnwys niferoedd myfyrwyr, disodli cyllid yr UE, a chynnal cydweithio a chyfnewidiadau.
- Mae cyfleoedd a heriau i reoli'r broses o ddiwygio addysg ôl-16.
- Mae heriau o hyd i reoli effeithiau uniongyrchol COVID-19 ar ddysgwyr.
Er gwaethaf yr heriau sylweddol sydd o'n blaenau, mae cyfleoedd i ailadeiladu a darparu gwasanaethau'n wahanol,a dysgu o'r ymateb cyfunol i COVID-19.



