Iechyd meddwl a lles yn ystod COVID-19
Rhagfyr 2020 - Yn ystod y gweminar hon, clywsom sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn ystod y pandemig yn ogystal â'u llwyddiannau a'u heriau.

Mae'n anochel bod y pandemig Coronafeirws wedi cael effaith ar les meddyliol llawer o bobl i raddau amrywiol.
O weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol allweddol ar y rheng flaen yn trin COVID, i'r rhai sy'n gwarchodi, yn byw ar eu pen eu hunain, neu'n gwirfoddoli yn y gymuned - mae'r feirws wedi effeithio ar bawb.
Yn benodol, gwnaethom ganolbwyntio ar:
- Gwasanaethau yn y gymuned yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl
- Cefnogi iechyd a lles staff
- Sut y gellir harneisio technoleg i oresgyn unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol
- Sut brofiad yw arwain sefydliadau trwy bandemig
- Dulliau gwahanol o ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl
Yn ogystal â hyn clywsom hefyd gan 'We are Platfform', a rannodd negeseuon allweddol o’u ‘Lessons from Lockdown’ ac a ddarparodd ddarlun o iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
Cyflwyniadau