Peiriannydd TGCh

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ynglŷn â'r swydd 

Mae Archwilio Cymru yn bwriadu recriwtio peiriannydd cymorth TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) 

Ydych chi'n unigolyn brwdfrydig ac uwch eich cymhelliant, yn gyfathrebwr da gyda phrofiad wrth ddarparu cymorth i gydweithwyr mewn amgylchedd Windows OS (System Weithredu).

Ydych? Yna hwyrach mai’r swydd hybrid hon - 2 neu 3 diwrnod yn ein swyddfa yng nghanol Caerdydd, y gweddill o’r amser yn gweithio cartref, gydag Archwilio Cymru, yr hyn yr ydych yn chwilio amdano.