Sgyrsiau Traws-Iwerydd - Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gan ddilyn ein sesiwn ddiwethaf, a gan barhau gyda'r them o fesur mewn byd cymhlyg, bydd ein sesiwn nesaf yn trafod Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden. 

Pan mae achos ac effaith yn amhosib eu dirnad, ac wrth geisio ynysu problemau mae'r clymau a'r berthynas rhwng ffactorau yn dod yn amlycach, mae pethau'n troi'n gymhlyg. Bydd modelau newid llinol sydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn cael trafferth bod yn effeithiol yn y fath gyd-destun; mae angen rhywbeth arall.

Swyddog Dadansoddi Data

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ynglŷn â'r swydd 

Mae Archwilio Cymru am recriwtio Swyddog Dadansoddi Data.

Ydych chi'n brofiadol ym myd gwyddor data a dadansoddi data?

Oes gennych chi angerdd am raglenni ac arloesi?

Rydym yn chwilio am rywun sy’n uwch eu cymhelliant i fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol a gwydn sy'n defnyddio dulliau a arweinir gan ddata i drawsnewid y ffordd rydym yn ymgymryd â'n gwaith archwilio.

Bydd eich hyfedredd mewn rhaglennu R/Python yn disgleirio wrth i chi ymgolli yn natblygiad iteraidd ein prosiectau.