Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Ar ôl cyhoeddi adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau cryno sy'n benodol i'r sector.

    Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth allweddol am addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

    Mae'n archwilio gallu, perfformiad, cyllido, ac yn amlinellu rhai o'r materion neu heriau allweddol.

    Mae pandemig COVID-19 wedi golygu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n eu darparu. Mewn addysg uwch ac addysg bellach, mae staff a myfyrwyr wedi gorfod addasu i heriau dysgu ar-lein ac addysgu wyneb yn wyneb mewn amgylcheddau sy'n ddiogel rhag COVID.

    Yr hyn a ganfuwyd gennym

    Gwelsombedwar prif fater mewnaddysg uwch ac addysg bellach:

    1. Mae colegau a phrifysgolion yn wynebu pwysau ariannol o ganlyniad i COVID-19 a phensiynau.
    2. Mae Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn wynebu heriau o ran rheoli rhai o ganlyniadau parhaus Brexit. Mae'r rhain yn cynnwys niferoedd myfyrwyr, disodli cyllid yr UE, a chynnal cydweithio a chyfnewidiadau.
    3. Mae cyfleoedd a heriau i reoli'r broses o ddiwygio addysg ôl-16.
    4. Mae heriau o hyd i reoli effeithiau uniongyrchol COVID-19 ar ddysgwyr.

    Er gwaethaf yr heriau sylweddol sydd o'n blaenau, mae cyfleoedd i ailadeiladu a darparu gwasanaethau'n wahanol,a dysgu o'r ymateb cyfunol i COVID-19.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Darlun o Ofal iechyd

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Darlun o Ofal Cymdeithasol

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Darlun o lywodraeth leol

    View more
CAPTCHA