• Prentis GweinydduBusnes

Prentis GweinydduBusnes

Mae'r Cynllun Prentisiaeth Gweinyddu Busnes yn brentisiaeth cyfnod penodol o ddwy flynedd sydd wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i chi ymgymryd ag ystod eang o waith swyddfa, tra'n astudio i ennill diploma Lefel 3 Gweinyddu Busnes.

Byddwch yn cwblhau prentisiaeth a fydd yn rhoi sgiliau swyddfa cyffredinol i chi ac yn cynnig y profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaethau proffesiynol.

Gall tasgau allweddol gynnwys:

  • Tasgau gweinyddol cyffredinol
  • Ymholiadau gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol, gan gynnwys galwadau ffôn ac ymateb i negeseuon e-bost
  • Cysylltu â staff ac o bosibl aelodau o'r cyhoedd neu sefydliadau allanol eraill
  • Trefnu gwybodaeth, cynnal systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth
  • Drafftio ac anfon negeseuon e-bost, memos a llythyron gohebu – fel arfer gan ddefnyddio llythyron wedi'u templedi
  • Codi archebion prynu a threfnu taliadau
  • Cydbwyso gwaith o ddydd i ddydd gyda'ch astudiaethau

Fel rhan o'ch prentisiaeth, mae'n ofynnol cwblhau hyfforddiant ffurfiol am tua diwrnod y pythefnos (yn ystod oriau gwaith) er mwyn ennill diploma Gweinyddu Busnes. Drwy gydol y brentisiaeth bydd asesiadau parhaus gan y darparwr hyfforddiant a bydd prentisiaid yn cwblhau gwaith drwy asesiad ar-lein ac asesiadau ac arsylwadau ysgrifenedig a llafar yn y gweithle.

Ochr yn ochr â'r cymhwyster prentisiaeth bydd rhaglen hyfforddi strwythuredig a fydd yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau newydd.

Yn ogystal â chefnogaeth eich cyfoedion, byddwch yn cael rheolwr llinell a fydd â chyfrifoldeb hanfodol i'ch datblygu a'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, a chyfeillion i'ch helpu setlo yn eich swydd newydd yn ogystal â darparu cymorth anffurfiol parhaus.

Byddwch yn cael cefnogaeth, anogaeth a chyfleoedd i dyfu. Byddwch hefyd yn ymuno â phobl sydd mor frwdfrydig am eich datblygiad ag yr ydych chi, ac sydd yr un mor awyddus i'ch gweld yn llwyddo.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â dwy lefel A gradd A i E neu gyfwerth, a phum TGAU A-C neu gyfwerth.

Gan y byddwch yn cael cymorth i gwblhau dyfarniad lefel 3 Gweinyddu Busnes, mae gofynion cymhwysedd penodol ychwanegol y mae angen eu bodloni. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn yr adran Cymhwysedd Cyffredinol.

  • Gwybodaeth Gyffredinol  

    sy'n Gymwys i bob Prentis

Cymhwysedd ar gyfer y Brentisiaeth

I fod yn gymwys am brentisiaeth rhaid bodloni’r canlynol:

  • Mae gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU;
  • Rydych yn byw yng Nghymru, neu mae eich cyflogwr wedi'i leoli'n barhaol yng Nghymru;
  • Rydych wedi gadael yr ysgol yn gyfreithiol;
  • Rydych yn bwriadu aros mewn cyflogaeth am y 12 mis nesaf;
  • Rydych heb gael eich ariannu eisoes ar gyfer cyrsiau hyfforddi eraill gan Lywodraeth Cymru;
  • Rydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol;
  • Rydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Bydd Rhaglenni Prentisiaeth yn derbyn cymorth ariannol drwy Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymwysterau prentisiaeth lle mae gan unigolyn gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel yn flaenorol (nac ar lefel uwch). Ni ddylech ymgeisio am gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel â chymhwyster sydd gennych eisoes.

Fodd bynnag, pe bai'r brentisiaeth yn caniatáu i'r unigolyn ennill sgiliau newydd sylweddol, ac roedd yn amlwg bod cynnwys y cymhwyster yn sylweddol wahanol i unrhyw gymhwyster blaenorol, yna gallai prentisiaeth o'r fath fod yn gymwys i gael arian.

Fel rhan o'r broses recriwtio bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda darparwr hyfforddiant y brentisiaeth. Mae'r darparwyr hyfforddiant yn rhan annatod o'r broses recriwtio gan eu bod yn gyfrifol am gadarnhau cymhwysedd ymgeiswyr i ymgymryd â'r brentisiaeth yn unol â Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Wrth gytuno i barhau â'r broses ymgeisio, rydych yn cytuno i rannu eich manylion gyda'r darparwr hyfforddiant.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru gan nodi'n glir y cymwysterau sydd gennych eisoes.

Noder nad yw'r canllawiau a roddir uchod yn ystyried pob amgylchiad ac mae Archwilio Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais os yw o'r farn nad yw unrhyw feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.

Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan

Nid yw unigolyn sydd eisoes â chymhwyster cyllid neu gyfrifyddu lefel 4 (neu uwch) yn gymwys i wneud cais am y Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan. Mae enghreifftiau o gymwysterau o'r fath yn cynnwys AAT lefel 4; gradd cyfrifyddiaeth, HNC neu HND; neu gymhwyster cyfrifyddu lefel uwch a ddyfernwyd gan un o'r sefydliadau cyfrifyddu. Yn yr un modd, gan fod y brentisiaeth hon wedi'i hanelu at y rhai sydd heb gymwysterau cyllid blaenorol, nid yw darpar ymgeiswyr sydd naill ai'n dal AAT lefel 2 neu 3 yn gymwys i wneud cais.

Lle'r oedd cymhwyster blaenorol yn cynnwys rhai elfennau cyllid neu gyfrifyddu ar lefel 2 neu'n uwch, ond nad oedd yn gymhwyster cyllid neu gyfrifyddu yn unig, byddai angen ystyried cymwysterau o'r fath ar gyfer cymhwysedd fesul achos.

Byddai disgwyl i gymwysterau mewn pynciau rhifiadol eang megis mathemateg ac ystadegau fodloni'r gofynion cymhwyster.

Prentis Gweinyddu Busnes

Lle'r oedd cymhwyster blaenorol yn cynnwys rhai elfennau gweinyddu busnes ar lefel 2 neu'n uwch, ond nad oedd yn gymhwyster gweinyddu busnes yn unig, byddai angen ystyried cymwysterau o'r fath ar gyfer cymhwysedd fesul achos.

Sut iwneud cais

Rydym ond yn derbyn ceisiadau drwy ein porth ar-lein, nid ydym yn derbyn CVs, ond os ydych am i ni ystyried addasiad rhesymol rhowch wybod i ni mewn da bryd.

Wrth gwblhau eich cais

Ymgyfarwyddwch eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol sydd yno ar gyfer y swydd prentis.

Rydym yn chwilio am sut mae eich astudiaethau a/neu brofiad blaenorol mewn gwaith neu ddiddordebau allanol yn eich gwneud yn addas i ddechrau gyrfa fel prentis.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys tystiolaeth o:

  • Eich cymwysterau presennol sy’n bodloni'r safon addysgol ofynnol.
  • Yn eich Datganiad Personol rydym am gael gwybod amdanoch chi, pam bod gennych ddiddordeb yn y prentisiaeth a beth sy’n eich diddori a beth rydych wedi’i gyflawni hyd yma, boed hynny mewn gwaith, yn yr ysgol neu goleg neu drwy chwaraeon neu wirfoddoli, profiadau neu ymddygiadau sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd.

Sylwer – defnyddir y ffurflen gais i asesu pob ymgeisydd.  Gall methu â chwblhau'r cais yn fanwl olygu na fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam asesu. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol rydym yn chwilio amdanynt.

Canolfan Asesu

Bydd pob proses asesu prentisiaid yn cael ei chwblhau gan ganolfan asesu. Bydd canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfweliad a chwblhau rhyw fath o brawf, gan amlaf ysgrifenedig neu drwy chwarae rôl. Bydd rhagor o wybodaeth am y cam hwn yn cael ei darparu yn nes at yr amser.

Darperir adborth i bob ymgeisydd sy'n mynychu canolfan asesu.

Gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Rhaglen Brentisiaethau, neu os bydd unrhywbeth yn aneglur, mae croeso i chi ebostio recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs