Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Graddio mewn i bandemig

13 Hydref 2021
  • Cyn-Cynllun Graddio

    Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, roeddwn yn astudio gradd meistr mewn Polisi Cyhoeddus ac yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil yn yr un maes, nid yr hyn y byddech yn ei alw'n gefndir cyfrifyddu nodweddiadol!

    Roeddwn wedi gweithio mewn sawl swydd wahanol mewn allgymorth addysg uwch gan gynnwys rhedeg ysgolion haf rhyngwladol. Dechreuais yn Archwilio Cymru bythefnos ar ôl cyflwyno traethawd hir fy ngradd meistr.

    Dewis Archwilio Cymru

    Cefais fy nenu at Archwilio Cymru oherwydd fy astudiaethau prifysgol. Drwy ysgrifennu am wleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus Cymru deuthum i ddibynnu ar adroddiadau a ysgrifennwyd gan Archwilio Cymru ac fe gynyddodd fy niddordeb yn y sefydliad. Wrth chwilio am gynlluniau gradd, es i weld a oedd gan Archwilio Cymru un a chyflwynais gais ar unwaith.

    Wrth baratoi ar gyfer camau asesu'r broses ymgeisio, deuthum yn fwyfwy ymwybodol o'r gwaith pwysig a diddorol y mae'r sefydliad yn ei wneud i gefnogi sector cyhoeddus Cymru. Gwnaeth lefel y cymorth a'r hyfforddiant a oedd ar gael argraff arnaf hefyd. Roeddwn yn gwybod y byddai symud i gyllid a chyfrifyddiaeth yn her ac roeddwn yn poeni y byddai fy nghefndir academaidd yn mynd yn fy erbyn neu'n ei gwneud yn anoddach deall yr hyfforddiant, ond nid yw wedi digwydd. Nid oes gan unrhyw un yn fy mlwyddyn yn y cynllun gefndir cyfrifyddu na chyllid ac, mewn gwirionedd, rwyf wedi cyfarfod ag archwilwyr yn y sefydliad sydd â chefndiroedd yn amrywio o fferyllfa i ffiseg i Ffrangeg ac Almaeneg.

    Ymuno yn ystod pandemig

    Mae dechrau swydd newydd yn anodd.

    Pan fo gwneud hynny yng nghanol pandemig byd-eang a'r swydd hwnnw yw eich swydd proffesiynol llawn amser cyntaf, mae'n anoddach fyth. Serch hynny, ni allai hyfforddeion carfan 2020 fod wedi cael croeso cynhesach i Archwilio Cymru!

    Wrth adlewyrchu yn awr ar fy ychydig fisoedd cyntaf gallaf weld ei fod braidd yn ddwys, ond nid oedd byth yn teimlo'n llethol. Teimlaf mai'r ffordd orau o setlo mewn swydd yw i ymdrochi eich hun, ac yn bendant cawsom y cyfle hwnnw gyda'r rhaglen a ddarparodd Archwilio Cymru.

    Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roeddem wedi cyfarfod â'r Archwilydd Cyffredinol, ac erbyn diwedd y mis cyntaf roeddem yn cynnal gwaith ardystio grantiau o dan lygaid barcud ein Archwilwyr Arweiniol Ariannol.

    O ddydd i ddydd

    Deg mis yn y swydd ac rwy'n teimlo fy mod wedi setlo ac yn gynyddol hyderus yn fy swydd. Ar adeg ysgrifennu hwn, rwyf wedi gweithio ar gleientiaid llywodraeth ganolog, iechyd a llywodraeth leol - popeth o arolygwyr ysgolion i'r heddlu.

    Un peth rydw i wedi dod i'w werthfawrogi yw polisi Gweithio'n Gallach Archwilio Cymru sy'n golygu bod fy niwrnod i'n dechrau pan fyddaf am iddo ddechrau. Yn gyffredinol, rwy'n dechrau gweithio rhwng 8 ac 8:30 os ydw i'n gweithio gartref, ond os ydw i yn y swyddfa bydd fel arfer yn 8y bore er mwyn i mi allu osgoi'r traffig wrth seiclo i mewn.

    Ar ôl dechrau, byddaf yn gyffredinol yn gwirio'r hyn sydd dal i’w gyflawni ar fy rhestr i wneud a bwrw ymlaen â beth bynnag yw'r flaenoriaeth uchaf – gallai hyn fod yn ddewis sampl, profion sylweddol neu ysgrifennu. Rwy'n cael fy ngadael i raddau helaeth i barhau â’m gwaith fy hun, ond byddaf yn mynd at arweinydd fy nhîm o bryd i'w gilydd os oes angen help arnaf neu i'w diweddaru, ac mae gennym gyfarfodydd tîm dair gwaith yr wythnos ar gyfer ychydig o ryngweithio cymdeithasol.

    Yn aml, bydd angen i mi siarad â chleientiaid naill ai drwy e-bost, ffôn neu alwad fideo i drafod ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn.

    Os ydw i'n gweithio gartref, byddaf yn aml yn gwneud rhyw fath o ymarfer corff amser cinio – ‘circuits’, ioga neu mynd i redeg – a chael cawod cyn parhau gyda fy ngwaith yn y prynhawn.

    Os ydw i yn y swyddfa efallai y byddaf yn mynd am dro o amgylch Parc Biwt gyda chydweithiwr neu i nôl cinio ym Mhontcanna.

    Mae'r prynhawn yn dilyn yr un patrwm â'r bore gyda mi yn nodi tasgau pwysig ac yn gweithio drwyddynt. Rwy'n gweld fy mod yn aml yn jyglo sawl tasg felly mae'n bwysig iawn bod yn drefnus a gweithio trwy tasgau mewn ffordd resymegol.

    Os ydw i wedi dechrau am 8 y bore mae fy niwrnod yn dod i ben am 4, oni bai ei fod yn dymor arholiadau pan fyddwn i efallai yn gwneud 2.5 awr o waith ychwanegol gyda'r nos. Mae'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn Archwilio Cymru yn rhagorol ac fel rhywun sydd â nifer o ddiddordebau ac ymrwymiadau gwirfoddol mae'n gweithio'n dda i mi.

    Awgrymiadau da

    O ran gwneud cais i'r cynllun, fy awgrymiadau da fyddai:

    • Gwnewch eich ymchwil!
      • Sicrhewch eich bod yn gwybod beth rydych yn gwneud cais amdano a cheisio dysgu cymaint am y sefydliad â phosibl.
    • Paratoi!
      • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw'r tasgau yn y ganolfan asesu a pharatowch ar eu cyfer yn iawn. Os disgwylir i chi ddod gyda gwybodaeth wedi'i pharatoi, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny.
      • Os cewch gyfweliad, meddyliwch pa gwestiynau a allai godi a pharatoi eich atebion. Mae'n llawer haws ateb yn dda os oes gennych rywbeth wedi’i baratoi yn hytrach na gorfod meddwl yn y fan a'r lle.
    • Peidiwch a chynhyrfu!
      • Mae bod yn nerfus yn naturiol, ond os ydych chi'n rhy nerfus gall eich gwneud i chi danberfformio. Penderfynais ystyried fy nghanolfan asesu a'm cyfweliad fel cyfle dysgu – os nad oeddwn yn llwyddiannus o leiaf byddwn yn fwy parod y tro nesaf. Drwy dynnu'r pwysau oddi arnoch, rydych yn eich caniatáu i berfformio ar eich gorau.

    Ynglŷn â’r awdur

    Image of Matthew

    Cyn dechrau yn Archwilio Cymru, astudiodd Matthew radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac ysgrifennodd ei draethawd hir ar bolisi trafnidiaeth Cymru. Cyn hynny, treuliodd dair blynedd yng Nghaerdydd yn astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern.

    Mae Matthew yn frodor o Gaerdydd ac yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae wedi gweithio ym maes allgymorth addysg uwch yn flaenorol ac fel cynorthwyydd ymchwil ar brosiect am etifeddiaeth y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon.

    Mae Matthew hefyd yn awyddus iawn i gymryd rhan ymhob math o weithgareddau awyr agored gan gynnwys heicio, beicio a dringo.