Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Costau Byw a Rhoi’r Fidog i gadw

21 Medi 2022
  • Rydym yn edrych ar effaith yr argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghymru. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau yn edrych ar sut y gall archwiliad helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r argyfwng.

    Pan ymunais â’r Gwasanaeth Archwilio Dosbarth dros 20 mlynedd yn ôl, gofynnodd fy Nhad-yng-nghyfraith a oeddwn yn gwybod diffiniad Archwilydd...

    A minnau newydd fod drwy’r broses gyfweld anodd, dechreuais ebychu’r ‘llinell’ swyddogol. Cyn i mi godi gormod o gywilydd arnaf fy hun, camodd i'r adwy ac eglurodd y canlynol i mi…

    “Yn ôl Syr Charles Lyell (1797 – 1875), Archwilydd yw'r unigolyn sy'n gwylio'r frwydr o ddiogelwch y llechwedd, a phan ddaw i ben, yn dod i lawr ac yn bidogi'r clwyfedig.”

    Mae hynny’n bortread eithaf erchyll sydd wedi aros yn fy nghof dros y blynyddoedd. Nid dyna’r math o swydd roeddwn i’n meddwl fy mod wedi gwneud cais ar ei chyfer. Roeddwn yn cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Archwilio Dosbarth i geisio gwella pethau! Roedd ‘Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus’ yn bendant yn rhan o’r hysbyseb swydd. Diolch byth, i mi, nid yw’n ddim byd tebyg i’r hyn a ddisgrifiodd Syr Charles Lyell. Heddiw, mae Archwilio yng Nghymru yn ymwneud â gwelliant drwy broses o Sicrhau, Esbonio ac Ysbrydoli. Mae hefyd yn ymwneud â meithrin ymddiriedaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n gonglfaen mewn cymdeithas. Os bydd Archwilio yn gwneud ei waith yn iawn, gallwn ni fel aelodau’r Cyhoedd gael sicrwydd bod Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud y gorau y gallant.

    Felly, sut mae’r argyfwng Costau Byw presennol yn berthnasol i hyn?

    Ar ôl 20 mlynedd a mwy o weithio ym maes Archwilio, rwyf wedi dysgu llawer o bethau, a’r prif beth yw bod ‘eistedd ar y llechwedd’ yn rhoi safbwynt breintiedig i chi. Gallwch weld beth sy'n digwydd, a gallwch gael ymdeimlad o'r hyn sy'n dod dros y gorwel. Yr hyn rydych yn ei wneud â'r wybodaeth honno sy'n bwysig. Sut ydych yn ei defnyddio mewn ffordd sy'n helpu i wella'r sefyllfa?

    Dyma yw diben y postiad hwn yn ei hanfod. Mae fy rôl bresennol yn Archwilio Cymru yn ymwneud ag Ymchwil a Datblygu; ‘eistedd ar y llechwedd’ a chadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd. Pethau fel Yr Argyfwng Costau Byw; Addasu Newid Hinsawdd; adferiad ar ôl Covid; effaith newidiadau parhaus tuag at wasanaethau digidol a mil o bethau eraill sy’n dod dros y gorwel neu sydd eisoes gyda ni. Dywedodd yr Awdur, William Gibson, “mae’r dyfodol yma yn barod, ond mae’n anghyson”.

    Ymysg y pethau hyn i gyd, yr Argyfwng Costau Byw yw’r mater mwyaf brys a’r un sydd fwyaf tebygol o gael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl yng Nghymru dros y chwe mis nesaf. Felly, beth all Archwilio ei wneud amdano?

    Soniais yn gynharach am y broses Sicrhau, Esbonio ac Ysbrydoli. Dyma le mae Archwilio yn berthnasol, yn fy marn i:

    • Sicrhau – a ydym wedi gwneud yr hyn a ddisgwyliech gan Archwilio i sicrhau bod arian ac adnoddau wedi'u defnyddio'n briodol i wneud y pethau roedd eu hangen?
    • EsbonioA yw Archwilio wedi rhannu gwybodaeth am yr hyn y mae wedi’i weld, fel y gall pobl wneud penderfyniadau mwy gwybodus am Wasanaethau Cyhoeddus?
    • Ysbrydoli – a yw Archwilio, mewn cysylltiad â’r hyn y mae wedi’i wneud, neu ei rannu, wedi gwneud i bobl deimlo eu bod yn gallu gwneud rhywbeth gwahanol (gwell)?

    Mae rhai o fy nghydweithwyr wedi bod yn gweithio i esbonio ac ysbrydoli ers tro. Gan ddefnyddio eu gwybodaeth helaeth, eu profiad a'u diddordebau, maent wedi rhannu gwybodaeth a safbwyntiau am y materion sy'n bwysig i bobl yng Nghymru.

    Er enghraifft, cafwyd dadlau mawr yn sgil y blog hwn ar effaith cyfraddau isel o enedigaethau ar leoedd ysgol ar ddiwedd 2021.

    Yn 2020, rhannodd nifer o gydweithwyr eraill wybodaeth y daethpwyd o hyd iddi drwy eu gwaith gyda Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ymateb i bandemig Covid.

    Dod i lawr o’r llechwedd

    Gan adeiladu ar waith blaenorol i rannu’r hyn a wyddom, mae Archwilio Cymru yn bwriadu rhannu gwybodaeth am yr Argyfwng Costau Byw drwy flogiau dros y chwe mis nesaf. Bydd hyn yn cael ei gydlynu drwy'r Tîm Ymchwil a Datblygu, a bydd yn cael ei wneud mewn ffordd yr ydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i’r Gwasanaethau Cyhoeddus.

    Ni fydd y rhain yn adroddiadau archwilio caboledig nac yn adolygiadau manwl iawn, byddant yn ddeunydd a luniwyd o’n ‘safbwynt ar y llechwedd’. Pethau yr ydym ni’n meddwl a allai ysgogi pobl i feddwl, neu ysbrydoli hyd yn oed.

    Bydd y pynciau'n amrywiol, gan adlewyrchu profiad a diddordebau staff Archwilio Cymru sy'n eu hysgrifennu. Felly, dylech ddisgwyl pethau mor amrywiol ag effaith chwyddiant ar gynllunio cyllidebau cyfalaf (gweddol safonol) neu effaith costau ynni ar gadw pyllau nofio ar agor a gallu cenedlaethau’r dyfodol i nofio.

    Byddant hefyd yn cyd-fynd â gwaith archwilio manwl sy'n ystyried sut mae Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymateb i dlodi ledled Cymru. Bydd nifer o ddigwyddiadau ar y pwnc hwn ym mis Hydref.

    Soniais yn gynharach ei bod yn bwysig gwneud rhywbeth defnyddiol gyda’r wybodaeth y mae Archwilwyr yn ei chasglu o ‘eistedd ar y llechwedd’. Byddem yn ddiolchgar o gael eich adborth ar y blogiau a'i ddefnyddio i lywio’r gwaith a wnawn. Os caiff ein gwaith archwilio ei lywio drwy wrando ar adborth gan ystod amrywiol o bobl, mae’n fwy tebygol yn fy marn i, y byddwn yn Sicrhau, yn Esbonio ac yn Ysbrydoli.

    Felly… dim bidogau, dim ond rhannu’r hyn yr ydym wedi’i weld o’n safle breintiedig ar ‘y llechwedd’ gan wrando ar y bobl sy’n ymddiddori, ac y mae'n bwysig iddynt, a siarad â nhw.

    • Ym mis Hydref, bydd ein tîm Cyfnewid Arfer Da yn darparu digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ddod â phobl at ei gilydd o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth am sut y gall sefydliadau ymateb i'r heriau a achosir gan dlodi. I gofrestru eich diddordeb, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein: Caerdydd/Conwy.

    Bywgraffiad

    Chris Bolton yw Rheolwr Ymchwil a Datblygu Archwilio Cymru, a chyn hynny, sefydlodd a rheolodd y Gyfnewidfa Arfer Da am flynyddoedd lawer. Yn 2018, cwblhaodd Gymrodoriaeth Churchill a oedd yn cynnwys teithio i’r UDA a Sbaen i astudio llywodraethu cwmnïau cydweithredol mawr a mentrau cymdeithasol. Mae hefyd yn Gadeirydd Cartrefi Cymoedd Merthyr, Cymdeithas Gydfuddiannol gyntaf Cymru i Denantiaid a Staff. Mae Chris yn blogio'n rheolaidd yn www.whatsthepont.blog [agorir mewn ffenest newydd].