Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ysgolion Cymru yn wynebu her frawychus y gyfradd genedigaethau isaf mewn 100 mlynedd

21 Rhagfyr 2021
  • Pa bynnag heriau newydd y mae COVID-19 yn eu cyflwyno i ysgolion ar hyn o bryd, un peth y gellid ei ragweld yn hyderus yw y bydd gan lawer o ysgolion cynradd lai o ddysgwyr nag a welwyd ganddynt ddegawd yn ôl.

    Ym mis Hydref 2021, cyhoeddwyd rhan Darlun o Ysgolion ein hadroddiadau ar wasanaethau cyhoeddus. Un mater a amlygwyd gennym oedd effaith newidiadau demograffig ar ysgolion. Mae'r blog hwn yn ymdrin â’r mater hwnnw ar gyfer ysgolion yn fanylach.

    Mae’r gyfradd genedigaethau yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 2010

    Mae'r gyfradd genedigaethau yng Nghymru wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010. Yn 2019, ganwyd llai na 30,000 o fabanod yng Nghymru, y nifer isaf yn ystod y 100 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigurau dros dro diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu gostyngiad pellach gyda 28,661 o enedigaethau byw yn 2020; 20% yn llai na 2010. Mae’r gyfradd genedigaethau yn amrywio ledled Cymru, ond nid mater rhwng y gogledd a'r de neu rhwng ardaloedd gwledig a threfol yw hwn; er enghraifft, gostyngodd y gyfradd genedigaethau 7% rhwng 2018 a 2019 yng Nghaerdydd drefol ac ym Mhowys wledig.

    ,
    Siart bar yn dangos nifer y genedigaethau yng Nghymru yn dirywio dros y 10 mlynedd diwethaf.

    Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – Genedigaethau yng Nghymru a Lloegr. Data dros dro y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2020.

     

    A fydd y duedd hon yn parhau?

    Nid oes unrhyw un yn gwybod, ac mae’r gyfradd genedigaethau yn tueddu i amrywio yn y tymor byr. Fodd bynnag, y duedd gyffredinol yw bod y gyfradd genedigaethau yn gostwng. Tuedda’r gyfradd genedigaethau i beidio â chynyddu yn ystod cyfnodau o ansicrwydd economaidd neu ddiweithdra cynyddol [yn agor mewn ffenest newydd]. Ar hyn o bryd ledled Cymru, cyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb yw 1.48 fesul menyw. Pe bai'n gostwng i 1.38 - y gyfradd bresennol yng Nghaerdydd a Gwynedd - byddai llai na 25,000 o fabanod yn cael eu geni, 30% yn llai nag yn 2010.

    A fydd mudo i Gymru yn gwrthbwyso'r dirywiad mewn genedigaethau? Unwaith eto, nid oes unrhyw un yn gwybod yn sicr ond nid yw ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos symudiad net sylweddol o deuluoedd â phlant i Gymru yn ystod y degawd diwethaf. Nid oes rheswm dros feddwl y bydd hyn yn newid.

    A yw'r dirywiad hwn mewn genedigaethau yn bwysig i ysgolion? 

    Mae effaith economaidd cyfradd genedigaethau sy'n gostwng wedi'i chofnodi'n dda (Adroddiad y Social Market Foundation Medi 2021 [yn agor mewn ffenest newydd]). Fodd bynnag, beth mae hyn yn ei olygu'n benodol i ysgolion?

    Dros y degawd diwethaf, arhosodd nifer gyffredinol y disgyblion 3-19 oed yng Nghymru yn sefydlog, yn bennaf oherwydd cynnydd bach yn y gyfradd genedigaethau rhwng 2003 a 2009. Mae rhagfynegiadau Llywodraeth Cymru ei hun yn awgrymu y bydd cyfanswm nifer y disgyblion 3% yn is yn 2026 o'i gymharu â 2020. Wrth edrych ymhellach, mae'n disgwyl i'r niferoedd ostwng ymhellach: ac amcangyfrifir y bydd nifer y disgyblion 3-19 oed yn 2036 9% yn llai nag yn 2020.

     

    Newid yn nifer y disgyblion a ragwelir o'i gymharu â 2020 yng Nghymru

    ,

    Siart bar yn darogan gostyngiad yn nifer y disgyblion dros y 15 mlynedd nesaf.

    Ffynhonnell: StatsCymru, Amcanestyniadau Disgyblion. Nifer y disgyblion ar 31 Ionawr 2020. Dadansoddiad Archwilio Cymru.

     

    Fodd bynnag, mae cyflymder y newidiadau hyn i'r boblogaeth yn amrywio; mewn rhai rhannau o Gymru mae nifer y disgyblion wedi bod yn gostwng ers peth amser. Yng Ngwynedd, er enghraifft, gostyngodd nifer y disgyblion cynradd o 10,159 yn 2016 i 9,633 yn 2020. Yn y pen draw, heb weithredu, gallai'r gostyngiad yn nifer y disgyblion gael effaith anffodus ar ysgolion a disgyblion yn yr ardaloedd yng Nghymru yr effeithir arnynt fwyaf.  

    A fydd mwy o ysgolion yn cau?

    Yn gyffredinol, mae costau fesul disgybl yn uwch mewn ysgolion bach. Ar hyn o bryd mae gan Gymru eisoes lawer o ysgolion cynradd bach (llai na 100 o ddisgyblion) ac ysgolion uwchradd bach (llai na 700), yn rhannol oherwydd ei chymunedau gwledig ac oherwydd ei bod yn gweithredu system ranedig gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a Saesneg.

    Yn y dyfodol, gall gostyngiad yn nifer y disgyblion olygu y gallai rhai ysgolion fod yn anymarferol gan arwain at ysgolion yn uno neu hyd yn oed yn cau. Pan fydd hyn yn digwydd efallai y bydd yn rhaid i ddisgyblion deithio ymhellach ar gyfer addysg. Gall cau ysgolion gael effaith ddinistriol ar y gymuned leol, yn enwedig ar gyfer cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith yn bennaf, lle mai'r ysgol yw'r unig gyfleuster sydd ar ôl nad yw eisoes wedi diflannu. Mae ein hadroddiad Darlun o Ysgolion yn tynnu sylw at y tensiwn a all godi rhwng dyletswydd cynghorau i ddarparu ystâd ysgol effeithlon a chefnogaeth cymunedau i'w hysgolion lleol.  

    Beth mae Llywodraeth a chynghorau Cymru yn ei wneud?

    Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau strategol eisoes sy'n cefnogi cynllunio cynghorau ar gyfer lleoedd ysgol drwy raglen gyfalaf ysgolion ac addysg yr 21ain Ganrif sydd wedi hen sefydlu, Cynllun Gweithredu Addysg Wledig 2018 [yn agor mewn ffenest newydd] a Cymraeg mewn addysg: cynllun gweithredu 2017-2021 [yn agor mewn ffenest newydd].

    Dechreuodd rhaglen ysgolion ac addysg yr 21ain ganrif yn 2014. Mae'n ofynnol i gynghorau adolygu cynlluniau ar gyfer lleoedd ysgol gyda'r nod o fod â’r ysgolion cywir yn y lleoedd cywir ar gyfer y dyfodol. Mae'r rhaglen hefyd yn ariannu cyfleusterau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion a cholegau addysg bellach. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer yr ysgolion wedi gostwng drwy gau ac uno wrth i gynghorau adolygu eu hystâd ysgol. Mae nifer y lleoedd cynradd heb eu llenwi wedi gostwng o 21% yn 2010 i 12.6% yn 2018, er bod hyn yn rhannol oherwydd y twf bach yn nifer y babanod cafodd eu geni o 2003-09.

    Nid yw'r rhaglen yn darparu dull sy'n addas i bawb o ran lleoedd mewn ysgolion ledled Cymru. Er enghraifft, mewn rhai cynghorau fel ym Mlaenau Gwent, cynigir addysg ôl-16 drwy golegau tra bod cynghorau gan gynnwys Ceredigion wedi datblygu ysgolion 3 i 19 oed newydd. Mae'r rhaglen yn cefnogi adeiladau ysgol a rennir sy'n gallu diwallu anghenion ehangach y gymuned a chreu canolfannau cymunedol bywiog.

    Mae Cynllun Gweithredu Addysg Wledig 2018 [yn agor mewn ffenest newydd] yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion bach a gwledig. Mae'r Cod trefniadaeth ysgolion diwygiedig yn sicrhau bod yn rhaid i gynghorau ac eraill ystyried pob dewis amgen ymarferol cyn cau ysgol wledig. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae cynllunio lleoedd ysgol yn golygu cydbwyso'r galw am leoedd mewn gwahanol leoliadau iaith. Mae'n ofynnol i gynghorau nodi eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg [yn agor mewn ffenest newydd] 10 mlynedd o 1 Medi 2022, gan gynnwys nodi sut y byddant yn bodloni disgwyliadau presennol ac yn y dyfodol ar gyfer niferoedd cynyddol o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg fel rhan o darged Llywodraeth Cymru i fod â 30% o ddysgwyr cyfrwng Cymraeg erbyn 2030/31.

    Yr her i Gymru yw bod y gostyngiad dychrynllyd yn nifer y genedigaethau wedi bod gyda ni ers degawd a gall barhau am beth amser. Nid yw'n glir a fydd y dirywiad mewn genedigaethau yn dod i ben a beth yw'r goblygiadau hirdymor i Gymru.

    Ynglŷn â'r awduron

    Mae Claire Flood-Page yn Arweinydd Archwilio yn y Tîm Astudiaethau Cenedlaethol. Cyn symud i Archwilio Cymru, bu'n gweithio fel Rheolwr Ymchwil yn Llundain.

    Mae Gwilym Bury yn Arweinydd Archwilio sy'n gyfrifol am raglen waith archwilio perfformiad llywodraeth leol yng nghyngor Sir y Fflint a Chonwy. Cyn symud i Archwilio Cymru, bu'n gweithio yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol a chymdeithasau tai yn Llundain a Chymru.