Report cover
Darlun o Ofal iechyd
07 Hydref 2021

Mae hyn yn rhan o gyfres o adroddiadau cryno sy'n edrych ar ddarlun o wasanaethau cyhoeddus.

Ar ôl cyhoeddi adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau cryno sy'n benodol i'r sector.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth allweddol am ofal iechyd yng Nghymru.

Mae'n archwilio gallu, perfformiad, cyllido, ac yn amlinellu rhai o'r materion neu heriau allweddol.

Yr hyn a ganfuwyd gennym

Mae gofal iechyd yn sector hynod gymhleth gyda materion penodol sy'n effeithio ar wahanol rannau o'r system. Nid yw’n fwriad i'r adroddiad cipolwg hwn fod yn gynhwysfawr. Mae'n nodi'r hyn a ystyriwn yw rhai o'r materion allweddol i ofal iechyd.

Gwelsom bedwar mater allweddol ym maes gofal iechyd:

  1. Mae’n hen bryd newid y system gyfan.
  2. Mae dysgu o’r ymateb i COVID-19 yn cynnig cyfleoedd i oresgyn rhwystrau i drawsnewid.
  3. Mae cyfleoedd i ddarparu gwell pwyslais yn y system iechyd yng Nghymru ar ganlyniadau i gleifion a’r boblogaeth ehangach.
  4. Bydd trawsnewid gwasanaethau ar yr un pryd â mynd i’r afael ag ôl-groniadau a’r ymateb parhaus i COVID-19 yn heriol.

Bydd yr her o adennill gwasanaethau a mynd i'r afael ag effaith anuniongyrchol COVID-19 yn debygol o barhau am flynyddoedd i'r dyfodol.

Er gwaethaf yr heriau sylweddol sydd o'n blaenau, mae cyfleoedd i ailadeiladu a darparu gwasanaethau'n wahanol, rhoi pobl wrth wraidd gwasanaethau, a dysgu o'r ymateb cyfunol i COVID-19.

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021
Darlun o lywodraeth leol
Darlun o Ofal Cymdeithasol

Hoffem gael eich adborth