Report cover
Darlun o Ofal Cymdeithasol
06 Hydref 2021

Mae hyn yn rhan o gyfres o adroddiadau cryno sy'n edrych ar ddarlun o wasanaethau cyhoeddus.

Ar ôl cyhoeddi adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau cryno sy'n benodol i'r sector.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth allweddol am ofal iechyd yng Nghymru.

Mae'n archwilio gallu, perfformiad, cyllido, ac yn amlinellu rhai o'r materion neu heriau allweddol.

Yr hyn a ganfuwyd gennym

Ni fwriedir i'r adroddiad cipolwg hwn fod yn gynhwysfawr. Mae'n nodi'r hyn a ystyriwn yn rhai o'r materion allweddol yn y sector gofal cymdeithasol.

Gwelsom dri mater allweddol ym maes gofal cymdeithasol:

  1. Mae heriau hirsefydlog yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys sicrhau cynaliadwyedd ariannol a threfniadau ariannu.
  2. Mae’r cynnydd wrth fynd i’r afael â heriau yn y sector wedi bod yn araf.
  3. Mae COVID-19 wedi gwneud yr angen am newid yn fwy pwysig, ond bydd trawsnewid gofal cymdeithasol yn heriol.

Bydd yr her o fynd i'r afael ag effaith COVID-19 yn debygol o barhau am flynyddoedd i'r dyfodol. Mae materion sylweddol, hirsefydlog yn y sector gofal cymdeithasol sy'n rhagflaenu'r pandemig.

Er gwaethaf yr heriau sylweddol sydd o'n blaenau, mae cyfleoedd i ailadeiladu a darparu gwasanaethau'n wahanol, rhoi pobl wrth wraidd gwasanaethau, a dysgu o'r ymateb cyfunol i COVID-19.

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021
Darlun o lywodraeth leol
Darlun o Ofal iechyd

Hoffem gael eich adborth