Cynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Adolygiad o Ymgysylltu â’r…
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Llamu Ymlaen
-
Memorandwm Esboniadol i'r Pwyllgor Cyllid 2022-23
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Adolygiad o Drefniadau…
-
Cyngor Sir Ddinbych – Llamu Ymlaen
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru. Fe wnaed y gwaith fel rhan o’n rhaglen statudol o waith archwilio lleol ym mhob un o’r awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae partneriaid yn gweithio’n unigol ac ar y cyd i ddarparu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau agored i niwed; caiff hyn ei wneud yn anos gan brosesau cenedlaethol cymhleth, sy’n arwain at ffocws sylweddol ar gostau, sy’n achosi rhwyg ymhlith partneriaid ac sydd â’r potensial i effeithio’n andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd. Mae cryfhau atebolrwydd a datblygu strategaeth ranbarthol a chynllun cyflawni i gyd-fynd â hi’n cynnig y potensial i lywio newid cadarnhaol a threfniadau gwell ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymhleth a mwy arbenigol.
Related News

