Mae’r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn methu â mynd i’r afael â rhai problemau sy’n bod ers amser maith

Mae’r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn methu â mynd i’r afael â rhai problemau sy’n bod ers amser maith
16 Rhagfyr 2021
Person oedrannus sy'n dal llaw â gofalwyr.

Mae heriau penodol yn ymwneud â threfniadau cyllido sy’n rhy gymhleth ac yn achosi rhaniadau rhwng partneriaid, a system sy’n gyffredinol anodd ei dilyn. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru ei sicrhau ei hun fod y diwygiadau polisi arfaethedig yn ymdrin â’r materion hyn ac yn cyflawni’r nod o osod ansawdd a chanlyniadau wrth galon y broses gomisiynu.

Ar draws Cymru, mae costau comisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn rhedeg i rai cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn ac mae’n effeithio ar filoedd lawer o bobl.

Ar ôl cwblhau adolygiad yn ddiweddar o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Ngogledd Cymru, mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd faterion o bwys cenedlaethol ehangach ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth iddi gymryd camau mewn ymateb i’w Phapur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth [agorir mewn ffenestr newydd].

Rydym yn tynnu sylw at yr heriau y dylid eu hystyried fel rhan o’r gwaith cynlluniedig i ddiwygio polisi er mwyn sicrhau newid ystyrlon a gwell canlyniadau i bobl ledled Cymru.

Rhai ffeithiau allweddol ynglŷn â chomisiynu cartrefi gofal:

  • Mae 677 o gartrefi gofal yng Nghymru; mae 263 o’r rhain yn darparu gofal nyrsio.

  • Mae 96 o’r rhain yn gartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol.

  • Roedd 16,144 o bobl dros 65 yn derbyn gwasanaethau cartref gofal i oedolion gan awdurdodau lleol yn 2018-19.

  • Yn 2019-20, gwariodd awdurdodau lleol £297 miliwn ar leoliadau nyrsio a phreswyl i bobl dros 65 yng Nghymru.

Drwy ein hadroddiad rhanbarthol a’n dadansoddiad Cymru gyfan, canfuom:

  • Fod mynediad i gartref gofal i bobl hŷn yn gymhleth ac yn llwybr anodd ei ddilyn.

  • Gall dulliau’r sector cyhoeddus o gyllido agweddau gwahanol ar ofal greu rhaniadau ymhlith partneriaid.

  • Tameidiog yw’r wybodaeth am berfformiad mewn perthynas â chomisiynu iechyd a gofal cymdeithasol ac nid yw’n dangos yn glir a yw nodau polisi yn cael eu cyrraedd ac amcanion llesiant yn cael eu cyflawni ac nid oes tystiolaeth fod newid yn y canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth.

  • Mae’r cydymffurfio technegol gofynnol â gofynion y gronfa gyfun yn methu â chynhyrchu unrhyw fudd pendant.

  • Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn aeddfedu o ran y ffordd y cânt eu llywodraethu a’r ffordd y maent yn gweithredu ond mae’r strwythurau yn fawr ac yn gymhleth ac mae angen eu gwneud yn fwy atebol.

  • Mae amrywiaeth anesboniadwy mewn gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd parhaus, sy’n awgrymu bod polisi’n cael ei gynhwyso’n annheg ar draws Cymru.

  • Mae’r cap ar gyfraniadau defnyddwyr gwasanaeth yn wahanol ar gyfer lleoliadau cartref gofal o gymharu â’r bobl sy’n cael cymorth yn y gymuned, sy’n creu cymhelliant croes posibl i gomisiynwyr gofal.   

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ein canfyddiadau drwy ein gwaith yng Ngogledd Cymru, ac y dylai wneud y canlynol yn arbennig:

  1. lleihau cymhlethdod cyfrifoldebau cyllido ar draws partneriaid,

  2. disgrifio a chyfleu’n glir sut y mae’n disgwyl i gronfeydd cyfun weithredu ar draws partneriaid,

  3. cymryd camau i fynnu trefniadau craffu ac atebolrwydd cryfach gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a

  4. datblygu fframwaith ar gyfer adrodd am berfformiad ar sail canlyniadau, sy’n cysylltu gydag uchelgais polisi a saith nod llesiant Cymru.

Er bod y rhan fwyaf o’r problemau a wynebir yn y gwasanaethau gofal yn awr wedi bod yno o’r blaen, mae pandemig COVID-19 wedi datgelu pwysigrwydd y gwasanaethau hyn a hefyd pa mor fregus ydynt ledled Cymru.

Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y diwygiadau a gynllunnir ganddi yn datrys y problemau heriol sy’n bod ers amser maith ynghylch comisiynu cartrefi gofal a gofal integredig. Dyma’r cyfle i adeiladu consensws ynglŷn â’r newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau gwell i’r rhai sydd mewn angen. 

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
Comisiynu Cartrefi Gofal ar gyfer Pobl Hŷn
Cynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn