Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb mwy nag ymarfer blwch ticio

29 Mawrth 2023
  • Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (Asesiad EG) yn rhan bwysig o'r dull o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae Asesiadau EG yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol i osgoi gwahaniaethu yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ac i hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a chydlyniant. 

    Wedi'i wneud yn dda, mae Asesiadau EG yn fwy na modd i ddangos cydymffurfiaeth. Maent yn ategu twf meddylfryd a diwylliant sy'n rhoi materion cydraddoldeb wrth wraidd datblygiad polisi a phenderfyniadau. 

    Fodd bynnag, mae'r hyn yr ydym wedi'i weld a'i glywed yn dweud wrthym fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn tueddu i ddefnyddio eu Hasesiadau EG yn amddiffynnol. Yn rhy aml, maent yn ymddangos fel ymarfer blwch tic i ddangos bod y corff wedi meddwl am faterion cydraddoldeb rhag ofn herio. Er bod her gyfreithiol wrth gwrs yn risg bwysig i'w rheoli, mae'r dull hwn yn golygu nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau EG i'w llawn botensial, yn enwedig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant. 

    Nod y digwyddiad dysgu a rennir hwn yw cynorthwyo cyrff cyhoeddus i wella defnydd a chymhwyso Asesiadau EG y tu hwnt i ymarfer cydymffurfio drwy ddod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth. 

    Cyflwyniadau

    Title Size Link
    The place of Equality Impact Assessments in Advancing Equality 452.24 KB Link
    Defnyddio’r Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar gyfer effaith 178.71 KB Link