Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG – system dan bwysau cyson

22 Mehefin 2026
  • Ers 2024, rydym wedi edrych ar sut mae byrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans yn rheoli'r galw am ofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn amserol.

    Ceir adroddiadau lleol a rhanbarthol ar ein gwefan.

    Mae’r erthygl hon yn nodi themâu allweddol o'n gwaith, a'r heriau sy'n wynebu Llywodraeth newydd Cymru, GIG Cymru, ac awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys dadansoddiad data diweddaredig.

    Beth yw gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG?

    Mae gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn trin cleifion â chyflyrau difrifol sydd angen gofal ar unwaith. Mae'r system yn gymhleth, gyda llawer o sefydliadau'n gysylltiedig.

    Pan nad yw gwasanaethau'n gweithio'n dda, mae rhwystrau'n digwydd. Os na all cleifion adael yr ysbyty mewn pryd, mae llai o welyau ar gael ac mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn orlawn. Mae pobl sy'n mynychu oherwydd na allant gael mynediad at wasanaethau eraill yn ychwanegu at y broblem. Mae criwiau ambiwlans hefyd yn wynebu oedi wrth drosglwyddo cleifion.

    ,

    Cwestiynau i Lywodraeth Cymru, y GIG, ac awdurdodau lleol

    ,

    Mae gofal brys a gofal mewn argyfwng dan bwysau cyson. Mae hyn yn cynyddu risgiau diogelwch cleifion ac yn arwain at gostau uwch.

    Er gwaethaf polisïau newydd a chyllid ychwanegol sy'n annog gweithio mwy cydgysylltiedig, mae llawer o broblemau'n parhau. Dywedodd staff ac arweinwyr ar draws y system wrthym fod yn rhaid i rywbeth newid.

    Rydym wedi nodi chwe chwestiwn i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, ac awdurdodau lleol eu hystyried:

    • Sut fydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u rheoli fel system gyfan, gydag atebolrwydd clir am wella llif cleifion?
    • Pa gamau a gymerir i gynyddu'r defnydd o wasanaethau a gynlluniwyd i atal presenoldeb diangen mewn adrannau achosion brys, gan gynnwys gwell mynediad at ofal sylfaenol?
    • Beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol i leihau oedi wrth ryddhau cleifion yn gyflym, o ystyried y cynnydd araf dros nifer o flynyddoedd?
    • Sut yr ymdrinnir â phrinder gweithwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gyda chynllunio cydgysylltiedig?
    • Sut fydd gwariant cynyddol yn canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau parhaol, a sut fydd ei effaith yn cael ei mesur?
    • Sut fydd rhannu data ar draws sefydliadau yn cael ei wella er mwyn rheoli risg ac i ddeall teithiau cleifion a sut mae'r system yn gweithio'n well?
       

    Ein canfyddiadau

    ,

    Mae oedi wrth drosglwyddo ambiwlansys yn rhoi cleifion mewn perygl ac yn cynyddu'r pwysau ar y system gyfan

    ,

    Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2026, dim ond un o bob pump o gleifion a gyrhaeddodd yr ysbyty mewn ambiwlans brys a gafodd eu trosglwyddo o fewn 15 munud. Y targed yw 100%.

    Ym mis Gorffennaf 2025, cyflwynodd Llywodraeth Cymru darged trosglwyddo dros dro o 45 munud. Fodd bynnag, mae arosiadau'n rhy hir o hyd. Yr amser aros cyfartalog ym mis Mawrth 2026 oedd 1 awr 38 munud, er bod rhai gwelliannau mewn mannau eraill wedi'u cydbwyso gan gynnydd mawr yn yr amser aros cyfartalog yn Ysbyty Treforys yn Abertawe a thri ysbyty yng Ngogledd Cymru.

    Mae oedi wrth drosglwyddo cleifion yn golygu na all ambiwlansys ymateb yn gyflym i alwadau brys eraill. Nid yw targedau amser ymateb yn cael eu cyrraedd o hyd mewn rhai o'r categorïau mwyaf difrifol, gan gynnwys 'Argyfwng (Coch)'.

    Mae nifer yr oriau a gollwyd oherwydd oedi hefyd yn rhy uchel o hyd. Oriau a gollwyd yw pan nad yw criwiau ambiwlans ar gael i ymateb i alwadau newydd. Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cynllunio ar gyfer 6,000 o oriau a gollwyd y mis ond nid yw wedi gweld lefelau mor isel yn ystod y pum mlynedd diwethaf (siart 1).

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Dadansoddiad o ddata Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

     

    Canfu adolygiad yn y DU gan Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys yn 2021 fod y risg o niwed cymedrol i ddifrifol neu barhaol i gleifion yn cynyddu gydag oedi trosglwyddo hirach. I gleifion sy'n aros dros bedair awr, mae'r risg yn cynyddu i 70%. Yn 2025-26, arhosodd 15,084 o 151,707 o gleifion dros bedair awr.

    ,

    Mae arosiadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn rhy hir o hyd

    ,

    Mae nifer y bobl sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys wedi dychwelyd i lefelau uchel ar ôl gostyngiad sydyn oherwydd pandemig COVID-19 (Siart 2). Roedd cyfartaledd o 94,398 o dderbyniadau'r mis rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2025 o'i gymharu â 90,918 rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2019.

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Dadansoddiad o ddata Llywodraeth Cymru ar gyfer unedau mawr a bach

    Noder: Rydym wedi tynnu sylw at hyd y pandemig yn y data a gyflwynwyd. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiadau swyddogol a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.

     

    Yn ystod ein gwaith, clywsom fod mwy o bobl bellach yn mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chyflyrau cymhleth, fel dementia, sydd angen mwy o gefnogaeth gan ystod ehangach o staff.

    Yn y cyfamser, mae amseroedd aros mewn adrannau brys mawr yn uchel o hyd. Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, gwelwyd ychydig dros hanner y cleifion o fewn pedair awr, yn erbyn targed o 95%. Tra gwelwyd 85% o gleifion o fewn 12 awr yn erbyn targed o 100%.

    Unwaith eto, mae perfformiad yn amrywio ar draws byrddau iechyd a safleoedd ysbytai, ond nid yw’r un ohonynt yn cyrraedd y targedau cenedlaethol.

    Ym mis Mawrth 2026 yn unig, arhosodd 10,905 o gleifion dros 12 awr. Mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng wedi amcangyfrif bod 965 o farwolaethau yng Nghymru yn ystod 2025 yn gysylltiedig ag arosiadau o dros 12 awr.

    ,

    Er gwaethaf cyllid ychwanegol, mae gwasanaethau newydd yn cael eu tanddefnyddio

    ,

    Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ac wedi cyflwyno polisïau newydd i gefnogi gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys:

    Mae'r cyllid hwn wedi cefnogi gwasanaethau newydd, sy'n anelu at leihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hyn yn cynnwys timau clinigol sy'n cyfeirio cleifion at y gwasanaeth cywir, canolfannau gofal brys ar yr un diwrnod, a chanolfannau gofal sylfaenol brys. Mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau i nodi, asesu a chefnogi pobl hŷn sy'n fregus.

    Mae'r gwasanaethau hyn yn eistedd ochr yn ochr ag eraill, fel y cynllun anhwylderau bach mewn fferyllfeydd. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth gyfyngedig staff a chleifion o'r gwasanaethau hyn a mynediad cyfyngedig yn golygu eu bod yn dal i gael eu tanddefnyddio.

    At ei gilydd, mae'r rhan fwyaf o fentrau newydd yn canolbwyntio ar wasanaethau unigol yn hytrach na'r system gyfan. Yn aml nid yw'n glir ychwaith a fyddant yn parhau ar ôl i'r cyllid tymor byr ddod i ben.

    Mae mynediad at wasanaethau deintyddol a meddyg teulu hefyd yn broblem. Gostyngodd nifer cyfartalog yr apwyntiadau meddyg teulu dyddiol a ddarparwyd ar gyfer anghenion brys neu acíwt o 28,260 ym mis Ebrill 2023 i 21,864 ym mis Rhagfyr 2025. Yn ystod ein gwaith, gwelsom hefyd mai problemau deintyddol oedd yr un rheswm mwyaf dros bobl yn ffonio gwasanaeth 111 y GIG, gan gyfrif am tua un o bob 25 galwad. Mewn rhai ardaloedd, mae'r gyfradd yn llawer uwch.

    ,

    Mae oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty yn dal i arwain at golli cannoedd o filoedd o ddiwrnodau gwely bob blwyddyn

    ,

    Mae oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty yn digwydd pan fydd cleifion yn barod i adael ond nad yw'r gofal, y gefnogaeth neu'r llety sydd eu hangen arnynt ar gael. Caiff claf ei ystyried yn glaf sydd wedi'i ohirio os yw'n aros yn yr ysbyty am fwy na 48 awr ar ôl iddo fod yn barod i adael.

    Gall cleifion sydd yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen ddatblygu anghenion gofal mwy a bod angen mwy o gefnogaeth gan wasanaethau cymunedol ar ôl cael eu rhyddhau.

    Mae oedi wrth ryddhau cleifion wedi bod yn gostwng yn araf ers mis Ebrill 2023. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2026 roedd ychydig o dan 1,400 o gleifion wedi aros mwy na 48 awr. (Siart 3).

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Dadansoddiad o ddata Llywodraeth Cymru

     

    Yn 2025-26, arweiniodd oedi y tu hwnt i 48 awr at ychydig o dan 345,000 o ddiwrnodau gwely coll. Costiodd hyn tua £172 miliwn. Os bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn lleihau oedi 15% yn unig, gallai hyn ryddhau £26 miliwn o adnoddau.

    Nid yw problemau gydag oedi wrth ryddhau cleifion yn beth newydd, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Gwelsom mai dim ond chwarter o'r argymhellion cynllunio rhyddhau a wnaethom yn 2017-18 yr oedd byrddau iechyd wedi mynd i'r afael â nhw.

    ,

    Mae problemau gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan fawr o oedi wrth ryddhau cleifion

    ,

    Mae swyddi gwag ac absenoldeb oherwydd salwch yn lleihau capasiti mewn meysydd allweddol fel nyrsio, gwasanaethau cymdeithasol, therapïau a gofal cartref. Mae hyn yn arwain at fwy o ddibyniaeth ar staff dros dro a gall greu bylchau yn y ddarpariaeth gofal cymunedol a gofal cartref.

    Yn y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a nyrsio, mae absenoldeb oherwydd salwch wedi cynyddu ychydig ers mis Ebrill 2023 o lefel sydd eisoes yn uchel. Mae cyfraddau'n tueddu i gyrraedd uchafbwynt yn y gaeaf (Siart 4).
     

    ,
    ,
    Ffynhonnell: Dadansoddiad o ddata Llywodraeth Cymru

     

    Gwnaeth y gyfradd swyddi gwag wella mewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a nyrsio cofrestredig rhwng mis Ebrill 2023 a mis Rhagfyr 2025, ond mae'n dal yn uchel mewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion:

    • Gostyngodd swyddi gwag gwasanaethau cymdeithasol i oedolion o 10.5% i 8.3%.
    • Gostyngodd swyddi gwag nyrsio cofrestredig o 8.4% I 3.0%.

    Yn ystod ein gwaith, adroddodd pob awdurdod lleol am anawsterau recriwtio.

    Mae aros am asesiad gofal cymdeithasol, asesiad iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, neu becyn gofal cartref newydd wedi bod ymhlith y pum prif reswm dros oedi bob mis ers mis Ebrill 2023. Roedd aros am asesiad gofal nyrsio hefyd yn brif reswm y rhan fwyaf o fisoedd. Gyda'i gilydd, roedd y rhain yn cyfrif am ychydig o dan ddwy ran o bump o'r oediadau rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2026.

    Fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth o becynnau gofal cartref wedi gwella. Gostyngodd nifer y bobl sy'n aros am ofal cartref, boed yn yr ysbyty ai peidio, o 1,300 ym mis Ebrill 2023 i ychydig o dan 500 ym mis Mawrth 2026.

    ,

    Nid yw data'n cael ei rannu'n effeithiol ar draws y system i gefnogi gwneud penderfyniadau

    ,

    Gall prosesau rhannu data gwael ar lefel y claf arwain at golli arwyddion rhybudd, rhyddhau cleifion yn anniogel, asesiadau dro ar ôl tro, gwallau meddyginiaeth a cholli pryderon diogelu. Cleifion ag anghenion cymhleth sydd fwyaf mewn perygl, gan eu bod yn aml yn symud rhwng gwasanaethau.

    Mae prosesau rhannu data gwael hefyd yn cyfyngu ar sut mae sefydliadau'n rheoli'r galw cyfredol, ac yn rhagweld y galw yn y dyfodol. Nid yw data'n cael ei gysylltu, ni ellir dibynnu arno, na'i ddefnyddio'n gyson eto.

    Yn y cyfamser, mae mesurau'n canolbwyntio ar rannau unigol o'r system, fel adrannau damweiniau ac achosion brys, oedi wrth ryddhau cleifion, neu ofal cymdeithasol. Gall hyn arwain timau i ganolbwyntio ar eu perfformiad eu hunain, heb weld yr effaith ehangach.

    Gwelsom hefyd fod sefydliadau’n ei chael hi’n anodd defnyddio data i ddangos effaith gwasanaethau newydd ar y system ehangach.