Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf

01 Ebrill 2026
  • Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2026-27.

    Mae’r Cynllun Blynyddol hwn yn disgrifio’r rhaglen archwilio gynhwysfawr y byddwn yn ei chyflawni dros y flwyddyn i ddod i roi’r wybodaeth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, y Senedd, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

    Bydd 2026-27 yn flwyddyn o newid i Archwilio Cymru, lle gwelwn Adrian yn cwblhau ei dymor wyth mlynedd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid enwebu Catherine Mealing-Jones fel Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru. Rydym yn llongyfarch Catherine ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi i sicrhau pontio llyfn pan fydd Adrian yn trosglwyddo’r awenau ym mis Gorffennaf.

    Y 12 mis nesaf hefyd yw blwyddyn olaf ein strategaeth gorfforaethol bum mlynedd bresennol. Rydym yn falch o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud dros y pedair blynedd diwethaf tuag at gyflawni ein huchelgeisiau o hogi cyflawniad archwilio a chynyddu ein heffaith a’n gwelededd. Mae rhai cyflawniadau nodedig wedi’u nodi yn y ddogfen hon. Mae cyflawni’r blaenoriaethau sy’n weddill yn parhau i fod yn hollbwysig:

    • Gweithio’n agos gyda’r sector llywodraeth leol i rannu arfer da a helpu i ailadeiladu proses cyfrifon gynaliadwy ac amserol.
    • Byrhau’r amserlen ar gyfer cwblhau gwaith archwilio perfformiad lleol i sicrhau adroddiadau amserol ac effeithiol.
    • Meithrin perthnasoedd effeithiol gyda’r Senedd newydd a Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.
    • Cynyddu digideiddio archwilio trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac offer eraill sy’n gwella ansawdd, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ein gwaith.

    Ni ellir cyflawni unrhyw un o’n hamcanion ar gyfer archwilio cyhoeddus o ansawdd uchel heb ein staff. Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i ddarparu cynnig cyflogaeth rhagorol, hyblyg sy’n ategu lles gweithwyr ac amgylchedd gwaith sy’n annog cydweithredu a gwaith o ansawdd uchel.” Fel y gwnawn bob blwyddyn, mae’r Bwrdd hefyd wedi adolygu a diweddaru ein fframwaith o ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau cysylltiedig, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn cyd-fynd yn llawn â’n hamcanion ac yn heriol iawn.

    Ochr yn ochr â’n hadroddiad PDF traddodiadol, rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiwn gryno, ryngweithiol ar y we o’n Cynllun Blynyddol ar ein gwefan