Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Digidol yn y GIG: cyflawni ddim yn cyd-fynd â’r uchelgais

17 Medi 2026
  • Rydym wedi adrodd yn ddiweddar ar sut y mae cyrff y GIG yn defnyddio newid digidol i wella gwasanaethau.

    Gallwch ddarllen yr adroddiadau hyn ar ein gwefan. Mae’r erthygl hon yn amlygu rhai o'r themâu allweddol yn ein gwaith. Mae hefyd yn nodi heriau sydd bellach yn wynebu Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

    Trawsnewid digidol yn y GIG

    Mae trawsnewid digidol yn golygu defnyddio technoleg, data a ffyrdd newydd o weithio i newid a gwella gwasanaethau iechyd.

    Ond mae’n rhaid wrth fwy na thechnoleg i gyflawni newid digidol yn dda. Mae ar gyrff y GIG angen cynllun digidol eglur, staff medrus, arweinyddiaeth gref, trefniadau llywodraethu effeithiol, systemau diogel a chyllid cynaliadwy hefyd.

    Mae newid digidol yn un o flaenoriaethau GIG Cymru. Y Strategaeth Digidol a Data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 2023 gan Lywodraeth Cymru sy’n pennu’r cyfeiriad cenedlaethol. Ei nod yw moderneiddio gwasanaethau iechyd a gofal trwy wasanaethau digidol gwell, defnydd cryfach o ddata, a rhannu gwybodaeth yn well. Mae hefyd yn hybu dull ‘Unwaith i Gymru’, lle mae platfformau a rennir a ffyrdd cyffredin o weithio’n cael eu defnyddio lle maent yn ychwanegu gwerth.

    Cwestiynau i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru

    Canfuom fod gan y rhan fwyaf o gyrff y GIG uchelgeisiau digidol eglur ond eu bod yn gallu ei chael hi’n anodd eu trosi’n newid ystyrlon. Ceir enghreifftiau o arloesi digidol llwyddiannus, ond mae pwysau cyllid, systemau sy’n heneiddio, a bylchau yn y gweithlu’n dal cynnydd yn ôl. Ar yr un pryd, mae cyrff y GIG yn dal i ddibynnu ar gyflawni rhaglenni cenedlaethol ehangach mewn ffordd effeithiol ac amserol.

    Mae angen i gyrff y GIG reoli risgiau seiber cynyddol hefyd. Ac mae angen iddynt wneud defnydd da ond diogel o dechnolegau newydd, megis Deallusrwydd Artiffisial (AI). Rhaid iddynt hefyd wneud yn siŵr nad yw newid digidol yn gadael neb ar ôl. 

    Nid yw materion o’r fath yn unigryw i’r GIG, ond maent yn arbennig o bwysig o ystyried graddfa gwariant y GIG a pha mor eang y mae gwasanaethau’r GIG yn effeithio ar bobl ledled Cymru.

    Mae ein gwaith yn codi cwestiynau pwysig i Lywodraeth Cymru a chyrff y GIG, er mwyn iddynt droi eu huchelgeisiau digidol yn realiti:

    • Sut fydd GIG Cymru’n adeiladu ac yn cynnal y systemau, gallu’r gweithlu, a’r cyllid sy’n ofynnol i wireddu ei uchelgeisiau digidol?
    • Sut fydd cyrff y GIG yn dangos bod buddsoddi mewn digidol yn gwneud gwahaniaeth i gleifion, staff a gwasanaethau?
    • Sut all cyrff y GIG wneud yn siŵr nad yw newid digidol yn gadael rhai pobl ar ôl?
    • Sut fydd cyrff y GIG yn mynd ati’n effeithiol i oruchwylio risgiau digidol a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg?
    • Sut all atebolrwydd am raglenni digidol cenedlaethol gael ei wneud yn fwy eglur rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) a chyrff y GIG? A sut ellid gwella sut y’u cyflawnir?
       

    Ein canfyddiadau

    ,

    Mae uchelgais digidol yn eglur, ond mae angen i’r modd y’i cyflawnir fod yn well

    ,

    Mae gan gyrff y GIG uchelgeisiau digidol eglur sy’n cyd-fynd fwy neu lai â’r strategaeth genedlaethol. Ond nid yw’r rhan fwyaf wedi trosi’r uchelgeisiau hyn yn gynlluniau cyflawni eglur, wedi’u costio sy’n cynnwys camau gweithredu, cyfrifoldebau a mesurau llwyddiant diffiniedig.

    Hefyd, nid yw holl gyrff y GIG wedi asesu eu haeddfedrwydd digidol. O ganlyniad, nid oes gan rai ddealltwriaeth eglur am eu man cychwyn na graddfa lawn y newid y mae ei angen i gyrraedd eu nodau.

    A heb gynlluniau cyflawni eglur a dull cryf o fesur manteision, efallai na fydd uchelgais digidol yn arwain at wasanaethau gwell na gwerth am arian. Gallai byrddau cyrff y GIG ei chael hi’n anodd tracio cynnydd, costau a risgiau hefyd. Gallai hyn ei gwneud hi’n anos iddynt wybod a yw buddsoddi mewn digidol yn cyflawni’r newid bwriadedig.

    Roedd cefnogaeth byrddau i newid digidol yn amlwg yng nghyrff y GIG a adolygwyd gennym ni. Mae cyrff y GIG hefyd yn helpu byrddau i feithrin eu sgiliau digidol. Ond mae’r dirwedd ddigidol yn symud yn ei blaen yn gyflym, ac mae’n hawdd i fyrddau syrthio ar ei hôl hi. Felly bydd angen i gyrff y GIG ddal i fuddsoddi yn natblygiad eu byrddau i wneud yn siŵr bod gan aelodau’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder y mae eu hangen i oruchwylio a herio gwaith digidol.

    ,

    Rhaid i newid digidol beidio â gadael pobl ar ôl

    ,

    Rhaid i bobl fod yn ganolog i newid digidol. Mae newid digidol effeithiol yn dibynnu ar allu pobl i gael mynediad at wasanaethau newydd a ffyrdd newydd o weithio, deall y rhain a chael budd ohonynt. Os yw newid digidol yn gwneud gwasanaethau’n haws i rai eu defnyddio ond yn anos i eraill, gallai ehangu anghydraddoldebau yn hytrach na gwella gofal i bawb.

    Mae holl gyrff y GIG yn cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant digidol. Ond mae rhai ymhell ar y blaen i eraill, gydag arweinwyr a chynlluniau wedi’u neilltuo i gynhwysiant digidol. Canfuom hefyd enghreifftiau o brosiectau digidol a oedd yn rhoi ystyriaeth weithredol i gynhwysiant digidol, mewn meysydd megis gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau mamolaeth. Yn y dyfodol, bydd ar gyrff y GIG angen ffyrdd gwell o ddangos bod eu prosiectau newid digidol yn gwella mynediad ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael eu hallgau.

    ,

    Mae’r cydbwysedd rhwng gwariant ar ofynion o ddydd i ddydd a newid digidol yn broblem

    ,

    Mae’n anodd adnabod y darlun llawn o wariant y GIG ar newid digidol. Mae cyrff y GIG yn cofnodi gwariant ar ddigidol mewn ffyrdd gwahanol, ac nid yw’r ffigyrau sydd ar gael yn cyfleu’r holl weithgarwch digidol. Er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys peth amser staff a chostau rhaglenni y tu allan i dimau digidol craidd. 

    Ar draws 2023-24 a 2024-25, adroddodd 11 o’r 12 o gyrff y GIG eu bod wedi gwario cyfartaledd cyfunol o oddeutu £216 miliwn y flwyddyn ar eu technoleg a’u gwasanaethau digidol hwy eu hunain. Roedd hyn yn cynnwys y saith bwrdd iechyd, tair ymddiriedolaeth y GIG, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

    Roedd y rhan fwyaf o’r gwariant yr adroddwyd arno gan yr un ar ddeg o gyrff y GIG yn wariant ar sicrhau bod gwasanaethau a systemau digidol presennol yn dal i redeg yn hytrach na buddsoddi mewn newid digidol (gweler Arddangosyn 1).
     

    Arddangosyn 1: Gwariant blynyddol cyfartalog cyfunol yr adroddwyd arno ar wasanaethau a systemau digidol ar draws 11 o gyrff GIG Cymru (heb gynnwys IGDC), 2023-24 a 2024-25
    ,

    Oddeutu £216 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd

    £172m o wariant refeniw ar gyfartaledd

    Oddeutu 80% o’r cyfanswm
     

    £44m o wariant cyfalaf ar gyfartaledd

    Oddeutu 20% o’r cyfanswm
     

    ,

    Yr hyn y mae gwariant refeniw yn ei gynnwys

    Seilwaith a rhwydweithiau TG

     

    Seiberddiogelwch

    Gwasanaethau data a gwybodaeth

    Desgiau cymorth a chymorth technegol TG

    Gwasanaethau a chynnal a chadw meddalwedd

    Rhedeg a chynnal systemau presennol

    ,

    Yr hyn y mae gwariant cyfalaf yn ei gynnwys

    Caledwedd ac offer

    Systemau a chymwysiadau newydd

    Diweddariadau seilwaith

    Buddsoddiadau mewn platfformau digidol a thechnoleg ddigidol

    ,
    Ffynhonnell: Archwilio Cymru


    Nodyn: Y ffigyrau yw’r rhai yr adroddwyd arnynt gan yr 11 o gyrff y GIG ac nid ydynt yn cynnwys IGDC. Mae cyrff y GIG yn cofnodi gwariant ar ddigidol mewn ffyrdd gwahanol, ac nid yw’r ffigyrau’n cyfleu’r holl weithgarwch digidol. Efallai y byddant hefyd yn cynnwys cyfraniadau at raglenni cenedlaethol a arweinir gan IGDC. 

    Gwariodd IGDC gyfartaledd o oddeutu £191 miliwn y flwyddyn dros yr un cyfnod. Ond nid yw ei ffigwr ef yn gallu cael ei gymharu’n uniongyrchol â ffigyrau cyrff eraill y GIG. Prif rôl IGDC yw darparu systemau digidol, seilwaith digidol a gwasanaethau data ar gyfer GIG Cymru. I gyrff eraill y GIG, dim ond un rhan o gyllideb fwy o lawer yw digidol. 

    O fewn y £191 miliwn hwnnw, fe ailgododd IGDC oddeutu £66 miliwn y flwyddyn ar gyrff y GIG am gynhyrchion a gwasanaethau cenedlaethol. Gallai rhai o’r costau hynny a ailgodwyd fod wedi cael eu cyfrif yn y gwariant yr adroddwyd arno gan gyrff eraill y GIG hefyd. Felly, ni ddylid adio’r ddau ffigwr at ei gilydd i roi cyfanswm ar gyfer GIG Cymru. Nid ydym wedi ceisio cyfrifo un ffigwr ar y cyfan fel rhan o’n gwaith ni.

    Mae pwysau ariannol ehangach yn gwneud buddsoddi rhag blaen mewn newid digidol yn anos byth. Mae gwasanaethau a phrosiectau digidol yn cystadlu â galwadau eraill ar wariant hefyd. Mewn sefyllfa sy’n gallu bod yn ‘gyfyng-gyngor’, mae llawer o gyrff y GIG yn dal i ddibynnu ar systemau sy’n heneiddio ac sy’n gostus i’w cefnogi ac yn anodd i’w cysylltu â thechnoleg mwy newydd. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anos rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau ac yn arafu’r broses o gyflwyno offer digidol newydd.

    Er y trefnwyd fod peth cyllid ar gael yn benodol ar gyfer buddsoddi mewn digidol, nid yw’n ddigon i ateb y galw ar draws GIG Cymru. Hefyd, mae cyllid cyfalaf i ddisodli hen dechnoleg a chyflwyno systemau newydd yn aml yn fyrdymor. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i gyrff y GIG gynllunio a chyflawni prosiectau hirdymor.

    ,

    Gall rhaglenni cenedlaethol gefnogi newid, ond nid ydynt wedi bod yn symud yn ddigon cyflym

    ,

    Mae rhaglenni digidol cenedlaethol yn helpu cyrff y GIG i ddefnyddio technoleg yn well. Ceir cefnogaeth eang i’r dull ‘Unwaith i Gymru’. Mae cyrff y GIG yn nodi manteision systemau a rennir, platfformau cyffredin, a chydweithio rhanbarthol. Ond nid yw’r dull wastad yn cael ei roi ar waith yn gyson, yn enwedig pan fo ar gyrff y GIG eisiau symud yn gyflymach neu ddatblygu eu hymatebion eu hunain i anghenion a blaenoriaethau lleol.

    Er mwyn cyflawni rhaglenni cenedlaethol mae angen i gyrff cenedlaethol a lleol y GIG gydweithio’n effeithiol. Ond nid yw hyn wastad yn digwydd yn ymarferol. Mae rhai o gyrff y GIG yn teimlo nad ydynt wastad yn cael eu cynnwys ar adeg ddigon cynnar wrth gynllunio rhaglenni i wneud yn siŵr bod pwysau ac anghenion lleol yn cael eu deall yn llawn gan bawb sy’n gysylltiedig â chynllunio’r rhaglenni. Cyfeiriodd rhai at effaith oedi hefyd. Mae hyn yn golygu eu bod yn gorfod cadw systemau hŷn yn eu lle am yn hirach, gan gynyddu costau a risgiau.

    Ond mae cyflawni’n llwyddiannus yn dibynnu ar fwy na chyflawni rhaglenni cenedlaethol ar amser. Mae ar gyrff lleol y GIG angen digon o staff, sgiliau, prosesau a chapasiti i’w rhoi ar waith hefyd.

    ,

    Mae angen i gyrff y GIG gadw i fyny â risgiau seiber a Deallusrwydd Artiffisial

    ,

    Mae seiberddiogelwch yn dal i fod yn risg fawr am fod ymosodiadau seiber yn gallu tarfu ar wasanaethau,arwain at ddatgelu gwybodaeth, ac effeithio ar ofal cleifion. Mae technoleg hŷn, bylchau yn y gweithlu ac mewn hyfforddiant seiberddiogelwch, a bygythiadau newidiol, hefyd yn ychwanegu at y risg.

    Mae byrddau’n trafod risgiau seiber yn rheolaidd. Mae rhai o gyrff y GIG wedi cwblhau hunanasesiadau yn erbyn safonau seiberddiogelwch cenedlaethol hefyd. Ond mae cynnydd o ran ymdrin â’r bylchau y mae’r asesiadau hyn yn eu hadnabod wedi bod yn araf ac yn cadw’r risg yn uchel.

    Mae Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig cyfleoedd sylweddol i GIG Cymru. Mae cyrff y GIG yn archwilio sut y gallai gefnogi gwaith beunyddiol, gwella gwasanaethau, a gwneud defnydd gwell o adnoddau. Ond maent yn dal i ddatblygu eu dulliau o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn ddiogel, yn foesegol, ac yn gyson. Heb gael hyn yn iawn, gallai cyrff ei chael hi’n anodd taro cydbwysedd rhwng y manteision ar y naill law a risgiau i ddiogelwch cleifion, diogelu data, ac ymddiriedaeth y cyhoedd ar y llaw arall.

    ,

    Mae sgiliau a chapasiti’r gweithlu’n syrthio’n brin

    ,

    Nid yw cyrff y GIG yn gwybod digon fel rheol am sgiliau digidol eu staff. Canfuom fod cyfraddau defnyddio offeryn hunanasesu cenedlaethol yn isel iawn. Ar draws GIG Cymru, dim ond oddeutu 2% o staff sydd wedi ei gwblhau.

    Dywedodd cyrff y GIG wrthym nad ydynt yn hyrwyddo’r offeryn yn eang am mai dewisol ydyw. Roeddent hefyd yn cwestiynu ei werth am ei fod yn canolbwyntio’n bennaf ar TG sylfaenol a hyder digidol, yn hytrach na’r sgiliau ehangach y mae eu hangen ar gyfer newid digidol. Mae rhai o gyrff y GIG wedi cyflawni cyfraddau defnyddio uwch ar gyfer offer a ddatblygwyd yn lleol i asesu sgiliau digidol ac adnabod anghenion hyfforddi.

    Mae cyrff y GIG hefyd yn ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff arbenigol mewn meysydd megis seiberddiogelwch, dadansoddi data, a chyflawni prosiectau digidol. Mae hyn yn arbennig o wir lle gall y sector preifat gynnig rolau mwy deniadol.

    Mae gan lawer o gyrff y GIG gapasiti cyfyngedig hefyd i ddarparu hyfforddiant a datblygu sgiliau arbenigol. Er bod nifer fach wedi dechrau datblygu cynlluniau hirdymor ar gyfer y gweithlu digidol, mae’r rhan fwyaf yn dibynnu ar fentrau byrdymor. Gall timau digidol bychain olygu hefyd bod gwaith allweddol yn dibynnu ar un person. Mae hyn yn lleihau gwydnwch ac yn gadael llai o gapasiti ar gyfer gwella ac arloesi ochr yn ochr â gwaith o ddydd i ddydd.

    Yr hyn sy’n digwydd nesaf

    Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn llunio cwmpas ar gyfer ymchwiliad i dechnoleg ddigidol yn y GIG. Byddwn yn cefnogi unrhyw ymchwiliad ac yn briffio’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ein gwaith diweddar ni. Byddwn hefyd yn tracio ymatebion cyrff y GIG i’n hargymhellion. Rydym hefyd wedi nodi cynlluniau ar gyfer rhagor o waith ar systemau cenedlaethol.

    Rydym hefyd yn cynnal rhaglen flynyddol o waith archwilio yn IGDC. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar ddull IGDC o gynllunio, blaenoriaethu a chyflawni’r camau gweithredu a nodir yn ei lythyrau cylch gwaith 2025-26 a 2026-27 gan Lywodraeth Cymru.

    Daw hyn i gyd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru â’i bryd ar wella’r modd y cyflawnir trawsnewid digidol ar draws GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys diweddaru’r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal. Deallwn y bydd y gwaith y mae Prif Weithredwyr GIG Cymru wedi’i gomisiynu ar fframwaith ar gyfer gwasanaethau digidol yn rhan o’r hyn sy’n goleuo gwaith i ddiweddaru’r strategaeth.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu mewn ymateb i bryderon ynghylch cyflawni rhaglenni cenedlaethol a arweinir gan IGDC.